Proffiliau Llwyddiant: Profiad
Diweddarwyd 29 Ionawr 2025
Mae鈥檙 Gwasanaeth Sifil yn recriwtio trwy ddefnyddio Proffilau Llwyddiant. Maent yn ein helpu i roi鈥檙 cyfle gorau posibl i ddod o hyd i鈥檙 person gorau ar gyfer y swydd. Ar gyfer pob r么l rydym yn eu hysbysebu, rydym yn ystyried beth fyddwch angen dangos i fod yn llwyddiannus.
Mae ein Proffilau Llwyddiant yn cynnwys pum elfen:
- Gallu 鈥� y dawn neu鈥檙 potensial i berfformio i鈥檙 safon gofynnol
- Technegol 鈥� yr arddangosiad o sgiliau proffesiynol penodol, gwybodaeth neu gymwysterau
- Ymddygiadau - y gweithredoedd a gweithgareddau y mae pobl yn eu gwneud sy鈥檔 arwain at berfformiad effeithiol mewn swydd
- Cryfderau 鈥� y pethau rydym yn eu gwneud yn rheolaidd, yn eu gwneud yn dda ac sy鈥檔 ein hysgogi
- Profiad 鈥� y wybodaeth neu鈥檙 feistrolaeth o weithgaredd neu bwnc ag enillir trwy ymglymiad neu amlygiad iddo
Nid yw pob elfen yn berthnasol i bob r么l. Dylai cynnwys y Proffil Llwyddiant fod yn wahanol ar gyfer gwahanol mathau o swyddi. Mae hyn yn helpu i wella鈥檙 cyfle o gael y person gorau ar gyfer y r么l.
Profiad
Profiad yw gwybodaeth neu feistrolaeth o weithgaredd neu bwnc a enillwyd trwy gymryd rhan ynddo neu amlygiad iddo.
Yn y Gwasanaeth Sifil, yn aml mae angen profiad ar gyfer recriwtio i:
- uwch rolau
- rolau yn proffesiynau y Gwasanaeth Sifil
Pam rydym yn asesu profiad
Wrth edrych ar eich profiad, rydym yn chwilio am:
-
enghreifftiau o鈥檙 pethau rydych wedi鈥檜 cyflawni o鈥檙 blaen
- eich gwybodaeth mewn maes penodol sy鈥檔 berthnasol i r么l y swydd
- Sut y gwnaethoch berfformio mewn maes penodol 鈥� nid faint o amser yr ydych wedi ei wasanaethu
Weithiau gall profiad o du allan i waith gael ei drosglwyddo o gyd-destun di-waith. Gall sgiliau a enillir trwy waith gwirfoddol neu hobi, ddangos y profiad sy鈥檔 ofynnol ar gyfer y r么l. Er enghraifft gwaith t卯m neu gyfathrebu.
Sut rydym yn asesu profiad
Byddwn yn edrych ar eich profiad, eich hanes gyrfa a鈥檆h cyflawniadau sy鈥檔 berthnasol i r么l y swydd.
Mae rhai o鈥檙 dulliau asesu efallai y byddwn yn defnyddio i ddeall eich profiad yn cynnwys:
- ffurflen gais
- CV
- cyfweliad
Ystyriwch ddefnyddio y dull STAR sy鈥檔 eich galluogi i osod y sefyllfa, dangos beth a sut wnaethoch a鈥檙 canlyniad.
Efallai y byddwn yn asesu eich profiad ochr yn ochr ag elfennau eraill o鈥檙 Proffil Llwyddiant. Mae hyn er mwyn cael darlun mwy cyflawn o鈥檆h addasrwydd ar gyfer y r么l.
Bydd y disgrifiad swydd yn disgrifio鈥檙 elfennau rydych eu hangen ar gyfer y r么l a鈥檙 dull(iau) dethol byddwn yn eu defnyddio.
Addasiadau rhesymol
Mae鈥檙 Gwasanaeth Sifil yn weithle amrywiol a chynhwysol. Rydym eisiau eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa bynnag fath o asesiad sy鈥檔 cael ei ddefnyddio.
Gall enghreifftiau o addasiadau gynnwys:
- darparu dogfennau mewn print bras neu braille
- caniat谩u mwy o amser ar gyfer prawf neu gyfweliad neu
- darparu cymorth mewn canolfan asesu
Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol dywedwch wrthym pan fyddwch yn cyflwyno eich cais bod angen addasiad a sut y bydd yn helpu.