Proffiliau Llwyddiant: Technegol
Diweddarwyd 29 Ionawr 2025
Mae鈥檙 Gwasanaeth Sifil yn recriwtio trwy ddefnyddio Proffilau Llwyddiant. Maent yn ein helpu i roi鈥檙 cyfle gorau posibl i ddod o hyd i鈥檙 person gorau ar gyfer y swydd. Ar gyfer pob r么l rydym yn eu hysbysebu, rydym yn ystyried beth fyddwch angen dangos i fod yn llwyddiannus.
Mae ein Proffilau Llwyddiant yn cynnwys pum elfen:
- Gallu 鈥� y dawn neu鈥檙 potensial i berfformio i鈥檙 safon gofynnol
- Technegol 鈥� yr arddangosiad o sgiliau proffesiynol penodol, gwybodaeth neu gymwysterau
- Ymddygiadau - y gweithredoedd a gweithgareddau y mae pobl yn eu gwneud sy鈥檔 arwain at berfformiad effeithiol mewn swydd
- Cryfderau 鈥� y pethau rydym yn eu gwneud yn rheolaidd, yn eu gwneud yn dda ac sy鈥檔 ein hysgogi
- Profiad 鈥� y wybodaeth neu鈥檙 feistrolaeth o weithgaredd neu bwnc ag enillir trwy ymglymiad neu amlygiad iddo
Nid yw pob elfen yn berthnasol i bob r么l. Dylai cynnwys y Proffil Llwyddiant fod yn wahanol ar gyfer gwahanol mathau o swyddi. Mae hyn yn helpu i wella鈥檙 cyfle o gael y person gorau ar gyfer y r么l.
Pam rydym yn asesu sgiliau technegol, gwybodaeth a chymwysterau
Mae mwy nag 20 proffesiwn yn y Gwasanaeth Sifil. Mae鈥檙 proffesiynau yn cynnig ystod eang o rolau, gan gynnwys rhai arbenigol.
Bydd pob pennaeth Proffesiwn yn diffinio鈥檙 sgiliau, y wybodaeth a鈥檙 cymwysterau penodol efallai y byddwn yn gofyn i chi ddangos i fod yn llwyddiannus ar gyfer y rolau hyn.
Er enghraifft, efallai y bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer r么l arbenigol yn Cyllid y Llywodraeth feddu ar:
- gymwysterau cyfrifeg
- gwybodaeth o鈥檙 ffordd rydym yn rheoli cyllid o fewn y llywodraeth
Sut rydym yn asesu sgiliau technegol, gwybodaeth a chymwysterau
Mae gan nifer o鈥檙 proffesiynau fframwaith proffesiynol. Mae鈥檙 fframweithiau wedi鈥檜 cynllunio i asesu鈥檙 sgiliau, y cymwysterau a鈥檙 wybodaeth benodol sydd eu hangen ar gyfer rolau yn y proffesiwn.
Bydd y disgrifiad swydd yn rhestru unrhyw ofynion technegol efallai y byddwch eu hangen ar gyfer y r么l. Bydd hefyd yn esbonio pa ddulliau asesu byddwn yn eu defnyddio. Gall rhai o鈥檙 dulliau asesu sy鈥檔 asesu eich sgiliau technegol gynnwys:
- ffurflen gais
- CV
- cyfweliad
- cyflwyniadau ac ymarferion technegol
- prawf(profion) technegol
- cyflwyniad
- sampl(au) gwaith
- ymarfer 鈥渋n-tray鈥�
- efelychiad sy鈥檔 gysylltiedig 芒 swydd
- ymarfer briffio ar lafar
- dadansoddiad/ymarfer ysgrifenedig
- canolfan asesu.
Os oes gofyniad am:
- gymhwyster penodol
- aelodaeth o gorff proffesiynol
efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth o鈥檆h cymhwyster(au) neu鈥檆h aelodaeth.
Efallai y byddwn yn asesu eich sgiliau technegol/proffesiynol ochr yn ochr ag elfennau eraill o鈥檙 Proffil Llwyddiant. Bydd hyn yn ein helpu i gael darlun mwy cyflawn o鈥檆h addasrwydd ar gyfer y r么l.
Addasiadau rhesymol
Mae鈥檙 Gwasanaeth Sifil yn weithle amrywiol a chynhwysol. Rydym eisiau eich helpu i ddangos eich potensial llawn pa bynnag fath o asesiad sy鈥檔 cael ei ddefnyddio.
Gall enghreifftiau o addasiadau gynnwys:
- darparu dogfennau mewn print bras neu braille
- caniat谩u mwy o amser ar gyfer prawf neu gyfweliad
- darparu cymorth mewn canolfan asesu
Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol dywedwch wrthym pan fyddwch yn cyflwyno eich cais bod angen addasiad a sut y bydd yn helpu.