Taliadau Debyd Uniongyrchol treth cerbyd

Printable version

1. Sefydlu Debyd Uniongyrchol

Gallwch sefydlu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trethu eich cerbyd ar-lein neu mewn Swyddfa鈥檙 Post.

Nid oes angen ichi fod yn geidwad cofrestredig y cerbyd i sefydlu Debyd Uniongyrchol. Anfonir e-byst a llythyrau am daliadau Debyd Uniongyrchol at ddeiliad y cyfrif.

惭补别鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Faint mae鈥檔 costio

惭补别鈥檙 swm a dalwch yn dibynnu ar ba mor aml rydych am wneud taliad. Mae gordal o 5% os ydych yn talu:

  • yn fisol
  • bob 6 mis

Nid oes t芒l ychwanegol os ydych yn talu鈥檔 flynyddol.

Beth sydd ei angen arnoch

Mae angen:

  • eich cyfeiriad a dyddiad geni
  • eich enw banc neu gymdeithas adeiladu, rhif cyfrif a chod didoli

Ni allwch sefydlu Debyd Uniongyrchol ar gyfer cyfrif sydd angen 2 lofnod.

Beth sy鈥檔 digwydd nesaf

  1. Byddwch yn derbyn cadarnhad drwy e-bost neu bost bod eich Debyd Uniongyrchol wedi cael ei sefydlu.

  2. Ni fydd y taliad cyntaf yn cael ei gymryd nes bod y dreth cerbyd wedi dechrau. Gall gymryd hyd at 10 diwrnod. Gallwch barhau i ddefnyddio鈥檙 cerbyd cyn i鈥檙 taliad gael ei gymryd.

  3. Bydd yr holl daliadau canlynol yn cael eu cymryd ar ddiwrnod gwaith cyntaf y mis y mae鈥檙 Debyd Uniongyrchol yn ddyledus.

2. Adnewyddu eich treth cerbyd

Bydd eich Debyd Uniongyrchol ar gyfer treth cerbyd yn adnewyddu鈥檔 awtomatig pan ddaw i ben.

Byddwch yn derbyn e-bost neu lythyr yn dweud wrthych pryd y caiff eich taliadau eu cymryd.

Ni fydd llythyr atgoffa treth cerbyd (V11W) yn cael ei anfon atoch.

Peidiwch 芒 threthu eich cerbyd eto. Os gwnewch hynny, codir t芒l arnoch ddwywaith.

Rhaid i geidwad y cerbyd fod 芒 llyfr log cerbyd (V5CW) cyn adnewyddu treth y cerbyd.

Os nad oes gan geidwad y cerbyd V5CW

Ni fydd eich Debyd Uniongyrchol yn adnewyddu鈥檔 awtomatig os nad oes ceidwad cerbyd yng nghofnodion y DVLA.

Gallwch ddweud wrth DVLA pwy yw ceidwad y cerbyd ar-lein.

Os na chewch e-bost neu lythyr pan fydd eich treth cerbyd yn dod i ben, dylech gysylltu 芒 DVLA.

Os nad oes gennych MOT neu yswiriant yn ei le

Bydd DVLA yn ysgrifennu atoch os bydd tystysgrif MOT eich cerbyd wedi dod i ben pan fydd treth eich cerbyd i fod i adnewyddu.

Rhaid i鈥檆h cerbyd basio MOT erbyn i鈥檙 un presennol ddod i ben.

Ar 么l iddo basio MOT, bydd cofnodion DVLA yn cael eu diweddaru鈥檔 awtomatig. Bydd eich treth cerbyd yn cael ei hadnewyddu ar y dyddiad yr oedd i fod i ddod i ben.

Nid oes angen ichi gysylltu 芒 DVLA na threthu eich cerbyd eto.

Os na chewch MOT mewn pryd, bydd angen ichi drethu eich cerbyd eto.

Os yw鈥檆h cerbyd wedi鈥檌 gofrestru yng Ngogledd Iwerddon, rhaid ichi hefyd gael yswiriant pan fydd eich treth cerbyd i fod i adnewyddu. Byddwch yn derbyn llythyr yn dweud wrthych a fydd eich yswiriant wedi dod i ben erbyn hynny.

3. Newid eich cyfeiriad, e-bost neu enw

Dywedwch wrth DVLA os ydych am newid y cyfeiriad, e-bost neu enw ar eich Debyd Uniongyrchol.

Gallwch ffonio DVLA os:

  • ydych chi wedi symud t欧
  • oes gennych gyfeiriad e-bost newydd
  • ydych wedi priodi neu wedi ysgaru ac eisiau diweddaru eich manylion
  • oes camgymeriad gyda鈥檆h enw neu gyfeiriad

Os gwnaethoch newid eich enw drwy weithred unrhan

Ysgrifennwch at DVLA os ydych chi wedi newid eich enw drwy weithred unrhan.

Mae angen ichi gynnwys:

  • eich cyfeiriad a dyddiad geni
  • eich enw banc neu gymdeithas adeiladu, rhif cyfrif a chod didoli
  • copi o鈥檆h gweithred newid enw

Anfonwch i:

DDC
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ

4. Newid pa mor aml rydych yn talu

Pan fyddwch yn sefydlu eich Debyd Uniongyrchol gallwch ddewis talu:

  • bob mis
  • bob 6 mis
  • bob blwyddyn

Bydd DVLA yn cymryd y taliadau ar ddiwrnod gwaith cyntaf y mis. Ni allwch ei newid i ddyddiad gwahanol.

I newid pa mor aml rydych yn talu (er enghraifft, o bob 6 mis i bob mis), mae鈥檔 rhaid ichi ganslo鈥檆h Debyd Uniongyrchol ac yna trethu鈥檆h cerbyd eto.

Beth sydd angen ichi ei wneud

  1. Gofyn i鈥檆h banc neu gymdeithas adeiladu i ganslo鈥檆h Debyd Uniongyrchol. Yn dibynnu ar eich cyfrif, gallwch wneud hyn ar-lein, dros y ff么n neu drwy鈥檙 post, neu mewn cangen.

  2. Gallwch barhau i yrru eich cerbyd tan y dyddiad roedd eich taliad Debyd Uniongyrchol nesaf yn ddyledus.

  3. Trethu eich cerbyd ar ddiwrnod cyntaf y mis roedd eich taliad Debyd Uniongyrchol nesaf yn ddyledus. Defnyddiwch y rhif 11 digid ar lyfr log eich cerbyd (V5CW).

  4. Dewis yr opsiwn Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trethu eich cerbyd. Yna dewiswch pa mor aml rydych am dalu - naill ai鈥檔 fisol, bob 6 mis neu bob blwyddyn.

Enghraifft Rydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol bob 6 mis, ond eisiau talu鈥檔 fisol yn lle hynny.

Cymerwyd y taliad olaf ar 1 Ionawr, a disgwylir yr un nesaf ar 1 Gorffennaf.

Rydych yn canslo鈥檙 Debyd Uniongyrchol gyda鈥檆h banc ar 15 Mawrth. Gallwch barhau i yrru eich cerbyd tan 30 Mehefin.

Ar 1 Gorffennaf, mae鈥檔 rhaid ichi drethu鈥檙 cerbyd eto gan ddefnyddio Debyd Uniongyrchol misol.

5. Newid cyfrif banc neu ddull talu

Pan fyddwch am newid y cyfrif y cymerir eich Debyd Uniongyrchol oddi wrtho gallwch naill ai:

  • ofyn i鈥檆h banc neu gymdeithas adeiladu newydd symud eich Debydau Uniongyrchol o鈥檆h hen gyfrif
  • newid i gyfrif arall sydd gennych eisoes

Gallwch hefyd newid i dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd.

Newid banc neu gymdeithas adeiladu

Gall y symud Debydau Uniongyrchol o鈥檆h hen gyfrif banc i鈥檆h cyfrif newydd.

Nid oes angen ichi ddweud wrth DVLA neu wneud unrhyw beth arall.

Symud eich Debyd Uniongyrchol i gyfrif sydd gennych eisoes

Mae鈥檔 bosibl y bydd eich banc yn gallu symud Debyd Uniongyrchol o un o鈥檆h cyfrifon i un arall os yw鈥檙 ddau gyfrif gyda nhw. Gwiriwch gyda鈥檆h banc.

Cysylltwch 芒 DVLA os:

  • na all eich banc symud y Debyd Uniongyrchol i鈥檆h cyfrif arall
  • yw鈥檙 2 gyfrif gyda gwahanol fanciau

Bydd angen ichi ddarparu:

  • rhif eich cyfrif newydd a chod didoli
  • enw a chyfeiriad eich banc neu gymdeithas adeiladu newydd

Os byddwch yn ysgrifennu i DVLA, rhaid i鈥檙 person a sefydlodd y Debyd Uniongyrchol lofnodi a dyddio鈥檙 llythyr.

Talu gyda cherdyn debyd neu gredyd

  1. Gofyn i鈥檆h banc neu gymdeithas adeiladu i ganslo鈥檆h Debyd Uniongyrchol. Gallwch barhau i yrru eich cerbyd tan y dyddiad yr oedd eich taliad Debyd Uniongyrchol nesaf yn ddyledus.

  2. Trethu eich cerbyd ar ddiwrnod cyntaf y mis yr oedd eich taliad Debyd Uniongyrchol nesaf yn ddyledus. Defnyddiwch y rhif 11 digid ar lyfr log eich cerbyd (V5CW).

  3. Talu鈥檙 dreth ar eich cerbyd gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.

6. Os bydd Debyd Uniongyrchol yn methu

Bydd deiliad y cyfrif Debyd Uniongyrchol yn derbyn e-bost gan DVLA os bydd taliad yn methu oherwydd nad oes digon o arian yn y cyfrif.

Bydd DVLA yn ceisio cymryd y taliad eto o fewn 4 diwrnod gwaith. Os bydd hynny hefyd yn methu, byddwch yn derbyn e-bost yn dweud wrthych:

  • bod y Debyd Uniongyrchol wedi methu ddwywaith ac wedi鈥檌 ganslo鈥檔 barhaol
  • nad yw eich cerbyd wedi ei drethu rhagor

Beth i鈥檞 wneud os caiff eich Debyd Uniongyrchol ei ganslo

Bydd yn rhaid ichi drethu eich cerbyd gan ddefnyddio llyfr log eich cerbyd (V5CW). Bydd angen ichi naill ai:

  • sicrhau bod digon o arian yn eich cyfrif a sefydlu Debyd Uniongyrchol newydd
  • defnyddio dull talu newydd, er enghraifft, cerdyn debyd neu Ddebyd Uniongyrchol o gyfrif arall gyda digon o arian ynddo

Mae鈥檔 anghyfreithlon i yrru鈥檆h cerbyd nes eich bod wedi ei drethu.

Os na wnewch chi unrhyw beth

Byddwch yn cael dirwy o 拢80 os na fyddwch yn trethu eich cerbyd neu鈥檔 dweud wrth DVLA ei fod oddi ar y ffordd. Bydd yn rhaid ichi hefyd dalu am yr amser na chafodd ei drethu.

Os na fyddwch yn talu eich dirwy mewn pryd, gall eich cerbyd gael ei glampio neu ei falu, neu gall eich manylion gael eu trosglwyddo i asiantaeth casglu dyledion.

7. Canslo Debyd Uniongyrchol

Bydd DVLA yn canslo eich Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn dweud wrthynt fod eich cerbyd wedi cael ei:

Bydd y Debyd Uniongyrchol hefyd yn cael ei ganslo os ni fydd yn rhaid ichi dalu treth cerbyd rhagor oherwydd eich bod wedi dweud wrth DVLA:

  • ei fod yn cael ei ddefnyddio gan berson anabl
  • bod y cerbyd yn un hanesyddol (dros 40 mlwydd oed)

Os gwnaethoch ordalu eich treth

Byddwch yn derbyn siec ad-daliad yn awtomatig am unrhyw fisoedd llawn sydd ar 么l ar eich treth cerbyd. 惭补别鈥檙 ad-daliad yn cael ei gyfrifo o鈥檙 dyddiad y mae DVLA yn derbyn eich gwybodaeth.

Os byddwch yn canslo eich Debyd Uniongyrchol ychydig cyn bod taliad misol yn ddyledus, efallai y bydd DVLA yn dal i gymryd y taliad. Byddwch yn derbyn ad-daliad yn awtomatig o fewn 10 diwrnod gwaith os bydd hyn yn digwydd.

Canslo鈥檙 Debyd Uniongyrchol am resymau eraill

Os byddwch yn canslo eich Debyd Uniongyrchol gyda鈥檆h banc neu gymdeithas adeiladu am unrhyw reswm arall, rhaid ichi drethu eich cerbyd eto gan ddefnyddio naill ai:

  • Debyd Uniongyrchol o gyfrif gyda digon o arian ynddo
  • dull talu arall, er enghraifft, gyda cherdyn debyd neu gredyd