Cymryd cerbyd y tu allan i鈥檙 DU

Sgipio cynnwys

Am 12 mis neu fwy

Mae鈥檔 rhaid ichi roi gwybod i DVLA os ydych yn cymryd eich cerbyd allan o鈥檙 DU, gan gynnwys i Ynysoedd y Sianel (Jersey a Guernsey), Ynys Manaw neu Iwerddon, am 12 mis neu fwy. Gelwir hyn yn allforio parhaol.

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Bydd angen ichi:

  1. Lenwi鈥檙 adran 鈥榓llforio parhaol鈥� yn llyfr log eich cerbyd (V5CW) a鈥檌 datgysylltu o鈥檙 llyfr log.

  2. Anfon yr adran 鈥榓llforio parhaol鈥� wedi鈥檌 chwblhau i DVLA, Abertawe, SA99 1BD. Cynnwys llythyr os ydych wedi symud dramor ac eisiau i鈥檆h ad-daliad treth cerbyd (os oes gennych hawl i un) gael ei anfon i鈥檆h cyfeiriad newydd.

  3. Cadw gweddill eich llyfr log (V5CW) - mae ei angen arnoch i gofrestru eich cerbyd yn y wlad rydych yn mynd ag ef iddi.

  4. Diweddaru鈥檙 cyfeiriad ar eich trwydded yrru os ydych yn symud t欧.

Os oes ad-daliad yn ddyledus ichi, byddwch yn ei dderbyn o fewn 4 i 6 wythnos fel arfer. Mae鈥檙 ad-daliad yn cael ei gyfrifo o鈥檙 dyddiad y mae DVLA yn derbyn eich adran 鈥榓llforio parhaol鈥�.

Os ydych yn prynu cerbyd i鈥檞 gymryd dramor, gwnewch yn si诺r bod y gwerthwr yn dilyn y broses gywir ar gyfer cerbydau a fydd yn cael eu cofrestru mewn gwlad arall. Rhaid iddynt roi鈥檙 llyfr log llawn (V5CW) ichi - nid y slip ceidwad newydd yn unig.

Os nad oes gennych lyfr log cerbyd (V5CW)

Cyn ichi adael y DU

Mae angen ichi gael llyfr log cerbyd (V5CW) cyn ichi adael y DU. Ni all DVLA anfon llyfr log cerbyd i gyfeiriad y tu allan i鈥檙 DU.

Gallai gymryd hyd at:

  • 5 diwrnod os ydych yn gwneud cais ar-lein
  • 4 i 6 wythnos os ydych yn gwneud cais drwy鈥檙 post neu os ydych wedi newid eich cyfeiriad neu鈥檆h enw

Pan fyddwch yn derbyn eich llyfr log, llenwch ac anfonwch yr adran 鈥榓llforio parhaol鈥� i DVLA.

Os na fyddwch chi鈥檔 ei dderbyn cyn ichi adael y DU, cysylltwch ag awdurdod gyrru鈥檙 wlad rydych chi鈥檔 teithio iddi. Byddant yn dweud wrthych pa ddogfennau sydd eu hangen arnoch.

Os ydych chi eisoes wedi gadael y DU

Cysylltwch ag awdurdod gyrru鈥檙 wlad rydych chi鈥檔 mynd 芒鈥檙 cerbyd iddi. Byddant yn dweud wrthych pa ddogfennau y bydd angen ichi eu darparu i gofrestru鈥檙 cerbyd yno.

Mae angen ichi hefyd anfon llythyr i DVLA i ddweud wrthynt eich bod wedi cymryd y cerbyd allan o鈥檙 wlad. Dylech gynnwys:

  • eich enw a鈥檆h cyfeiriad
  • gwneuthuriad, model ac os yw鈥檔 bosibl, rhif adnabod cerbyd y cerbyd
  • y dyddiad y cymeroch y cerbyd allan o鈥檙 wlad

DVLA
Abertawe
SA99 1BA

Os na allwch gael llyfr log cerbyd (V5CW)

Cysylltwch ag awdurdod gyrru鈥檙 wlad rydych chi鈥檔 mynd 芒鈥檙 cerbyd iddi - byddant yn dweud wrthych sut i gofrestru鈥檆h cerbyd.

Anfonwch lythyr i DVLA i ddweud wrthynt eich bod wedi cymryd y cerbyd allan o鈥檙 wlad. Dylech gynnwys:

  • eich enw a鈥檆h cyfeiriad
  • y dyddiad y cymeroch y cerbyd allan o鈥檙 wlad
  • i ble y gall DVLA anfon yr ad-daliad treth cerbyd

DVLA
Abertawe
SA99 1BA

Os yw鈥檙 adran 鈥榓llforio parhaol鈥� ar goll

Os nad yw鈥檙 adran 鈥榓llforio parhaol鈥� yn y llyfr log, anfonwch lythyr i DVLA i ddweud wrthynt eich bod wedi cymryd y cerbyd allan o鈥檙 wlad. Dylech gynnwys:

  • eich enw a鈥檆h cyfeiriad
  • y dyddiad y cymeroch y cerbyd allan o鈥檙 wlad

DVLA
Abertawe
SA99 1BA

Symud eich cerbyd rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon

Cwblhewch yr adran newid cyfeiriad yn eich llyfr log a鈥檌 hanfon i DVLA.

DVLA
Abertawe
SA99 1BA

Cofrestriadau personol

Bydd angen ichi drosglwyddo neu gadw eich cofrestriad personol cyn allforio eich cerbyd. Fel arall byddwch yn colli eich hawl i鈥檙 rhif cofrestru.

Os ydych yn fasnachwr moduron

Bydd angen ichi:

  • lenwi鈥檙 adran 鈥榓llforio parhaol鈥� yn llyfr log eich cerbyd (V5CW) a鈥檌 datgysylltu o鈥檙 llyfr log
  • anfon yr adran 鈥榓llforio parhaol鈥� wedi鈥檌 chwblhau i DVLA, Abertawe, SA99 1BD