Canslo eich treth cerbyd a chael ad-daliad
Canslo eich treth cerbyd drwy roi gwybod i DVLA nad yw鈥檙 cerbyd gennych bellach neu ei fod oddi ar y ffordd. Rydych yn cael ad-daliad am unrhyw fisoedd llawn o dreth sy鈥檔 weddill.
Mae鈥檙 dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.
Sut i ganslo eich treth cerbyd
Mae鈥檔 rhaid ichi roi gwybod i DVLA bod eich cerbyd wedi cael ei:
- werthu neu ei drosglwyddo i rywun arall
- cymryd oddi ar y ffordd, er enghraifft rydych yn ei gadw mewn garej - gelwir hwn yn Hysbysiad oddi-ar-y-ffordd Statudol (HOS)
- diddymu gan eich cwmni yswiriant
- sgrapio yn iard sgrap cerbydau
- dwyn - bydd rhaid ichi wneud cais am ad-daliad ar wah芒n
- allforio y tu allan i鈥檙 DU
- cofrestru fel wedi鈥檌 eithrio rhag treth cerbyd
Nid oes unrhyw ffordd arall i ganslo eich treth cerbyd.
Beth sy鈥檔 digwydd ar 么l ichi roi gwybod i DVLA
-
Bydd DVLA yn canslo eich treth cerbyd. Os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd y Debyd Uniongyrchol yn cael ei ganslo yn awtomatig.
-
Byddwch yn cael siec ad-daliad yn awtomatig am unrhyw fisoedd llawn sy鈥檔 weddill ar eich treth cerbyd. Cyfrifir yr ad-daliad o鈥檙 dyddiad y bydd DVLA yn cael eich gwybodaeth. Anfonir y siec at yr enw a chyfeiriad sydd ar y llyfr log cerbyd.
Ni fyddwch yn cael ad-daliad am:
- unrhyw ffioedd cerdyn credyd
- y gordal o 5% ar rai taliadau Debyd Uniongyrchol
- y gordal o 10% ar un taliad am 6 mis
Ad-daliad am y taliad treth cerbyd cyntaf ar y cerbyd
Bydd y swm y byddwch yn cael yn 么l yn seiliedig ar ba un bynnag sydd yr is o鈥檙 canlynol:
- y taliad treth cyntaf pan gofrestroch y cerbyd
- y gyfradd ar gyfer yr ail daliad treth ymlaen
Os na fydd eich ad-daliad yn cyrraedd
Cysylltwch 芒 DVLA os nad ydych wedi cael eich siec ad-daliad ar 么l 8 wythnos.
Os yw eich siec yn anghywir
Dychwelwch eich siec ad-daliad i DVLA os ydyw yn yr enw anghywir, a rhoi鈥檙 enw cywir iddynt.
Adran Ad-dalu
DVLA
Abertawe
SA99 1AL
Cysylltwch 芒 DVLA os nad ydych wedi cael eich siec amnewid ar 么l 4 wythnos.