Taliadau Debyd Uniongyrchol treth cerbyd
Sefydlu Debyd Uniongyrchol
Gallwch sefydlu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trethu eich cerbyd ar-lein neu mewn Swyddfa鈥檙 Post.
Nid oes angen ichi fod yn geidwad cofrestredig y cerbyd i sefydlu Debyd Uniongyrchol. Anfonir e-byst a llythyrau am daliadau Debyd Uniongyrchol at ddeiliad y cyfrif.
惭补别鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Faint mae鈥檔 costio
惭补别鈥檙 swm a dalwch yn dibynnu ar ba mor aml rydych am wneud taliad. Mae gordal o 5% os ydych yn talu:
- yn fisol
- bob 6 mis
Nid oes t芒l ychwanegol os ydych yn talu鈥檔 flynyddol.
Beth sydd ei angen arnoch
Mae angen:
- eich cyfeiriad a dyddiad geni
- eich enw banc neu gymdeithas adeiladu, rhif cyfrif a chod didoli
Ni allwch sefydlu Debyd Uniongyrchol ar gyfer cyfrif sydd angen 2 lofnod.
Beth sy鈥檔 digwydd nesaf
-
Byddwch yn derbyn cadarnhad drwy e-bost neu bost bod eich Debyd Uniongyrchol wedi cael ei sefydlu.
-
Ni fydd y taliad cyntaf yn cael ei gymryd nes bod y dreth cerbyd wedi dechrau. Gall gymryd hyd at 10 diwrnod. Gallwch barhau i ddefnyddio鈥檙 cerbyd cyn i鈥檙 taliad gael ei gymryd.
-
Bydd yr holl daliadau canlynol yn cael eu cymryd ar ddiwrnod gwaith cyntaf y mis y mae鈥檙 Debyd Uniongyrchol yn ddyledus.