Trosolwg

Mae’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes wedi cau. Bydd yn ailagor ym mis Hydref 2025. 

Rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud os na chawsoch eich gostyngiad ar gyfer gaeaf 2024 i 2025.

Mae’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn ostyngiad untro o £150 oddi ar eich bil trydan.

Os ydych chi’n gymwys, bydd eich cyflenwr trydan yn rhoi’r gostyngiad ar eich bil. Dyw’r arian ddim yn cael ei dalu i chi.

Fel arfer, byddwch chi’n cael y gostyngiad yn awtomatig os ydych chi’n gymwys. Dim ond os ydych chi ar incwm isel yn yr Alban y mae angen ichi wneud cais � cysylltwch â’ch cyflenwr ynni i wneud cais.

Efallai y gallwch chi gael y gostyngiad ar eich bil nwy yn lle’ch bil trydan os yw’ch cyflenwr yn darparu nwy a thrydan i chi a’ch bod chi’n gymwys. Cysylltwch â’ch cyflenwr i gael gwybod.

Mae’r canllaw yma hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Fydd y gostyngiad ddim yn effeithio ar eich Taliad Tywydd Oer ²Ô²¹â€™c³ó Taliad Tanwydd Gaeaf.

Cymhwystra

Mae gwahanol ffyrdd o fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes, gan ddibynnu ble rydych chi’n byw.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru a Lloegr

Rydych chi’n gymwys os ydych chi naill ai:

Os ydych chi’n byw yn yr Alban

Rydych chi’n gymwys os ydych chi naill ai:

Dyw’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes ddim ar gael yng Ngogledd Iwerddon. .

Mesuryddion talu ymlaen llaw neu dalu wrth fynd

Rydych chi’n dal yn gallu bod yn gymwys i gael y gostyngiad os ydych chi’n defnyddio mesurydd trydan talu ymlaen llaw neu fesurydd talu wrth fynd.

Gall eich cyflenwr trydan ddweud wrthoch chi sut y byddwch chi’n cael y gostyngiad os ydych chi’n gymwys, er enghraifft taleb y gallwch ei defnyddio i ychwanegu at eich mesurydd.

Cartrefi (symudol) mewn parc

Rydych chi’n gwneud cais mewn ffordd wahanol os ydych chi’n byw mewn cartref mewn parc.

.