Os ydych chi ar incwm isel yn yr Alban

Mae’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes wedi cau. Bydd yn ailagor ym mis Hydref 2025. 

Rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud os na chawsoch eich gostyngiad ar gyfer gaeaf 2024 i 2025.

Does dim angen ichi wneud cais os ydych chi’n cael yr elfen Credyd Gwarant o’r Credyd Pensiwn. Fe gewch chi lythyr yn awtomatig yn dweud wrthoch chi am y gostyngiad os ydych chi’n gymwys.

Fel arall, bydd angen ichi wneud cais yn uniongyrchol i’ch cyflenwr ynni.

Efallai y byddwch chi’n gymwys os yw’r canlynol i gyd yn gymwys:

  • bod eich cyflenwr ynni yn rhan o’r cynllun
  • eich bod chi (neu’ch partner) yn cael budd-daliadau neu gredydau treth penodol sydd â phrawf moddion
  • bod eich enw chi (neu enw’ch partner) ar y bil trydan

Efallai y bydd gan eich cyflenwr trydan feini prawf cymhwystra ychwanegol. Byddan nhw hefyd yn dweud wrthoch chi pa fudd-daliadau sy’n golygu eich bod chi’n gymwys.

Yr enw ar hyn yw y ‘grŵp ehangach�.

Os ydych chi’n gymwys

Bydd eich cyflenwr trydan yn rhoi’r gostyngiad ar eich bil. Bydd angen i chi aros gyda’ch cyflenwr nes bydd wedi’i dalu.