Rhyddhad treth wrth i chi gyfrannu i elusen
Trosolwg
Mae cyfraniadau gan unigolion i elusennau neu i glybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChACau) yn rhydd o dreth. Gelwir hyn yn rhyddhad treth.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae鈥檙 dreth yn mynd i chi neu i鈥檙 elusen. Mae hyn yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol, yn dibynnu a ydych chi鈥檔 cyfrannu:
- drwy Rodd Cymorth
- yn uniongyrchol o鈥檆h cyflog neu bensiwn, drwy gynllun Rhoi Trwy鈥檙 Gyflogres
- tir, eiddo neu gyfranddaliadau
- drwy鈥檆h ewyllys
Mae hyn hefyd yn berthnasol i unig fasnachwyr a phartneriaethau. Mae rheolau gwahanol ar gyfer cwmn茂au cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych chi eisiau cyfrannu i glwb chwaraeon, gwiriwch a yw鈥檙 clwb wedi cofrestru fel clwb chwaraeon amatur cymunedol (CChAC) (yn agor tudalen Saesneg). Ni allwch gyfrannu i CChAC drwy gynllun Rhoi Trwy鈥檙 Gyflogres.
Cadw cofnodion
Bydd angen i chi gadw cofnod o鈥檆h cyfraniadau os ydych am eu didynnu oddi wrth gyfanswm eich incwm trethadwy.