Cyfnewid eich trwydded yrru bapur am drwydded cerdyn-llun

Mae鈥檔 rhaid ichi gael trwydded newydd os:

Os nad yw unrhyw un o鈥檙 rhain yn berthnasol ac mae鈥檆h trwydded yrru bapur yn parhau鈥檔 ddilys, nid oes angen ichi ei chyfnewid am fersiwn cerdyn-llun.

Mae鈥檙 gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cynnwys

Bydd DVLA yn anelu at anfon eich trwydded yrru o fewn 3 wythnos. Gall gymryd yn hirach os oes angen gwirio eich manylion meddygol neu bersonol.

Bydd angen ichi:

  • gael eich trwydded yrru
  • bod yn breswylydd ym Mhrydain Fawr
  • bodloni鈥檙 safon golwg cyfreithiol
  • peidio 芒 bod wedi eich atal rhag gyrru am unrhyw reswm
  • talu 拢20 gyda cherdyn debyd neu gredyd Mastercard, Visa, Electron neu Delta
  • cael pasbort y DU dilys neu fath arall o brawf adnabod
  • cael eich rhif Yswiriant Gwladol (os ydych yn ei wybod)
  • rhoi cyfeiriadau lle rydych wedi byw dros y 3 blynedd diwethaf

Ni allwch wneud cais ar-lein os ydych chi wedi newid eich enw. Gwnewch gais drwy鈥檙 post gan ddefnyddio ffurflen D1W ar gyfer ceir a beiciau modur, neu ffurflen D2W ar gyfer lor茂au a bysiau. Mae鈥檙 ddwy ffurflen ar gael yn y mwyafrif o .

Y ffotograff ar eich trwydded yrru

Bydd DVLA yn defnyddio鈥檙 ffotograff ar eich pasbort digidol y DU.

Bydd angen ichi anfon ffotograff drwy鈥檙 post os na all DVLA ddefnyddio鈥檆h ffotograff pasbort digidol, neu os nad ydych am iddynt ei ddefnyddio. Ar ddiwedd eich cais bydd ffurflen yn cael ei hanfon atoch fel y gallwch ei dychwelyd gyda鈥檆h ffotograff.

Gyrru cyn ichi gael eich trwydded newydd

Gallwch yrru tra bod eich trwydded yn cael ei hadnewyddu os ydych yn bodloni鈥檙 holl amodau canlynol:

  • mae gennych gefnogaeth eich meddyg i barhau i yrru
  • mae gennych drwydded ddilys
  • rydych yn gyrru o dan amodau鈥檙 drwydded flaenorol yn unig
  • mae eich cais yn llai na blwydd oed
  • nid oedd eich trwydded flaenorol wedi cael ei diddymu na鈥檌 gwrthod am resymau meddygol
  • nid ydych wedi cael eich gwahardd ar hyn o bryd
  • nid oeddech wedi cael eich gwahardd fel troseddwr risg uchel ar neu ar 么l 1 Mehefin 2013

Darllen y canllaw 鈥楪af i yrru tra mae fy nghais gyda鈥檙 DVLA?鈥� am ragor o wybodaeth.

Bydd DVLA yn anfon e-bost atoch yn cadarnhau unwaith eich bod wedi gwneud cais. Efallai y gofynnir ichi gymryd rhan mewn ymchwil drwy e-bost, ond gallwch optio allan.

Gallwch hefyd wneud cais yn bersonol neu drwy鈥檙 post drwy gwblhau ffurflen D1W, sydd ar gael yn y mwyafrif o .

Bydd hefyd angen ichi gynnwys:

  • dogfennau adnabod gwreiddiol
  • ffotograff math pasbort mewn lliw
  • y ffi o 拢20 (gwnewch sieciau ac archebion post yn daladwy i DVLA os ydych yn gwneud cais drwy鈥檙 post - peidiwch ag anfon arian parod)

Anfonwch eich holl ddogfennau i:

DVLA
Abertawe
SA99 1BU

Bydd DVLA yn anelu at anfon eich trwydded yrru o fewn 3 wythnos. Gall gymryd yn hirach os oes angen gwirio eich manylion meddygol neu bersonol.