Adnewyddu eich trwydded yrru

Adnewyddu eich:

  • trwydded yrru lawn
  • trwydded yrru dros dro

Mae鈥檔 costio 拢14 pan rydych yn gwneud cais ar-lein.

Mae鈥檔 rhaid ichi adnewyddu trwydded cerdyn-llun bob 10 mlynedd - byddwch yn derbyn nodyn atgoffa cyn bod eich trwydded bresennol yn dod i ben.

I adnewyddu eich trwydded, mae鈥檔 rhaid ichi:

  • fod yn breswylydd ym Mhrydain Fawr (mae聽)
  • peidio 芒 bod wedi eich gwahardd rhag gyrru

Bydd angen ichi聽wneud cais am eich trwydded yrru dros dro gyntaf听辞蝉:

  • nad ydych wedi gwneud cais am drwydded yrru dros dro o鈥檙 blaen
  • gwnaethoch gais am drwydded yrru dros dro cyn 1 Mawrth 1973

Mae ffordd wahanol i:

Mae鈥檙 dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyn ichi ddechrau

Os yw eich enw neu deitl wedi newid ers ichi gael eich trwydded yrru bresennol, ni allwch ei hadnewyddu ar-lein.

Os na allwch ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein, gallwch wneud cais mewn Swyddfa鈥檙 Post neu drwy鈥檙 post.

Mewngofnodi i adnewyddu ar-lein

Bydd angen ichi fewngofnodi i ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi yn barod, byddwch yn gallu eu creu.

Byddwch yn cael gwybod pan rydych yn mewngofnodi os oes angen ichi brofi eich hunaniaeth. Mae hyn er mwyn cadw eich manylion yn ddiogel ac fel arfer mae鈥檔 golygu defnyddio dull adnabod 芒 ffotograff fel pasbort neu drwydded yrru.

Ar 么l ichi adnewyddu ar-lein

Bydd eich trwydded newydd yn ddilys o鈥檙 dyddiad y mae eich cais yn cael ei gymeradwyo, nid o ddyddiad dod i ben eich trwydded bresennol.

Faint mae鈥檔 ei gostio

Mae adnewyddu eich trwydded yn costio 拢14. Gallwch dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd Mastercard, Visa, Electron neu Delta (nid oes ffi os ydych dros 70 neu os oes gennych drwydded cyfnod byr am resymau meddygol).

Pa mor hir mae鈥檔 ei gymryd

Dylai eich trwydded yrru gyrraedd o fewn wythnos os ydych yn gwneud cais ar-lein.

Mae鈥檔 rhaid ichi anfon eich hen drwydded yrru cerdyn-llun i DVLA pan fyddwch yn derbyn eich trwydded newydd. Bydd y cyfeiriad i鈥檞 ddefnyddio yn cael ei roi ichi pan fyddwch yn gorffen y cais.

Data personol

Bydd DVLA yn anfon e-bost cadarnhau atoch unwaith eich bod wedi gwneud cais. Efallai y gofynnir ichi gymryd rhan mewn ymchwil drwy e-bost, ond gallwch optio allan.

Gwneud cais mewn Swyddfa鈥檙 Post

Byddwch yn cael llythyr atgoffa yn y post. Ewch ag ef i sy鈥檔 delio ag adnewyddu trwyddedau cerdyn-llun DVLA.

Bydd hefyd angen ichi gymryd:

  • eich trwydded cerdyn-llun os ydyw gennych
  • y ffi o 拢21.50

Os nad oes gennych lythyr atgoffa, bydd arnoch angen eich trwydded cerdyn-llun i wneud cais mewn Swyddfa鈥檙 Post.

Ni allwch wneud cais mewn Swyddfa鈥檙 Post os yw eich enw wedi newid. Bydd angen ichi wneud cais drwy鈥檙 post.

Gwneud cais drwy鈥檙 post

Gallwch gael 鈥榩ecyn D1W鈥� o ffurflenni o sy鈥檔 delio ag adnewyddu trwyddedau cerdyn-llun DVLA neu dreth cerbyd.

Mae angen ichi gynnwys y pethau canlynol gyda鈥檆h ffurflenni wedi鈥檜 llenwi:

  • ffotograff math pasbort wedi鈥檌 argraffu yn ddiweddar (peidiwch 芒 llofnodi cefn y ffotograff)
  • eich trwydded cerdyn-llun bresennol, os ydyw gennych
  • siec neu archeb bost am 拢17, yn daladwy i DVLA (nid oes ffi yn daladwy os oes gennych drwydded yrru cyfnod byr am resymau meddygol neu os ydych yn 70 oed neu鈥檔 h欧n)

Mae hefyd angen ichi gynnwys dogfennau adnabod os ydych wedi newid eich enw.

Anfonwch y cais i:

DVLA
Abertawe
SA99 1DH

Ar 么l ichi wneud cais mewn Swyddfa鈥檙 Post neu drwy鈥檙 post

Dylai eich trwydded yrru gyrraedd o fewn 3 wythnos. Efallai y bydd yn cymryd yn hirach os bydd angen gwirio eich manylion personol neu feddygol.

Gallwch barhau i yrru tra rydych yn aros am eich trwydded newydd gyrraedd.