Newid yr enw neu rywedd ar eich trwydded yrru

Anfonwch eich hen drwydded yrru i DVLA ynghyd 芒鈥檙 ffurflen gais gywir ac unrhyw ddogfennau ategol i newid eich enw neu rywedd.

Mae鈥檙 dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae鈥檙 broses yr un peth os ydych am newid eich teitl, er enghraifft o Ms i Dr. Nid oes angen ichi anfon tystiolaeth oni bai ei fod yn deitl etifeddol.

Byddwch yn cael trwydded newydd. Gallwch barhau i yrru wrth ichi aros am eich trwydded newydd.

Nid yw鈥檔 costio unrhyw beth i newid eich enw na鈥檆h rhyw ar eich trwydded yrru.

Rhaid ichi hefyd ddiweddaru eich tystysgrif gofrestru cerbyd V5CW (llyfr log) os ydych yn newid eich enw.

Mae .

Llenwi鈥檙 ffurflen gais

Llenwch:

  • ffurflen D1W 鈥楥ais am drwydded yrru鈥� os oes gennych drwydded gar neu feic modur

  • ffurflen D2W 鈥楥ais am drwydded lori/bws鈥� os oes gennych drwydded lori neu fws

Gallwch eu cael o鈥檙 rhan fwyaf o .

Anfonwch eich ffurflen wedi鈥檌 chwblhau i DVLA gyda鈥檙 canlynol:

  • eich trwydded yrru cerdyn-llun neu bapur

  • unrhyw ddogfennau gwreiddiol sy鈥檔 cadarnhau eich enw neu rywedd newydd

Peidiwch ag anfon llungop茂au o ddogfennau neu dystysgrifau wedi鈥檜 lamineiddio.

Rhaid llofnodi a dyddio unrhyw dystysgrifau.

Os oes gennych drwydded yrru bapur

Rhaid ichi anfon ffotograff math pasbort wedi鈥檌 argraffu yn ddiweddar.

Os ydych am newid eich ffotograff ar yr un pryd

Bydd angen ichi anfon:

  • ffotograff math pasbort wedi鈥檌 argraffu yn ddiweddar

  • siec neu archeb bost am 拢17, yn daladwy i DVLA (nid oes ffi os ydych dros 70 oed neu os oes gennych drwydded feddygol cyfnod byr)

Ni dderbynnir sieciau sydd wedi鈥檜 difrodi neu eu newid.

Os na allwch anfon eich hen drwydded yrru

Gallwch barhau i wneud cais os yw eich hen drwydded wedi ei cholli, ei dwyn neu ei dinistrio. Bydd rhaid ichi ddweud beth ddigwyddodd iddi wrth lenwi鈥檙 ffurflen. Bydd angen cynnwys siec neu archeb bost am 拢20, yn daladwy i DVLA.

Ni dderbynnir sieciau sydd wedi鈥檜 difrodi neu eu newid.

Ble i anfon eich cais

Anfonwch eich cais am drwydded gar neu feic modur newydd i:

DVLA
Abertawe
SA99 1BN

Anfonwch eich cais am drwydded lori neu fws newydd i:

DVLA
Abertawe
SA99 1BR