Cyflyrau iechyd, anabledd a Chredyd Cynhwysol

Printable version

1. Trosolwg

Mae Credyd Cynhwysol yn daliad misol i’ch helpu gyda’ch costau byw. Efallai y gallwch ei gael os ydych ar incwm isel neu’n ddi-waith.

Efallai y cewch swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n cyfyngu ar faint o waith gallwch ei wneud. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cyfeirio at hyn fel eich ‘gallu i weithio�.

Mae eich taliad misol yn seiliedig ar eich amgylchiadau, er enghraifft eich cyflwr iechyd neu anabledd, incwm a chostau tai.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i .

Cymorth arall gallwch ei gael

Efallai byddwch hefyd yn gymwys i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd.

Gwiriwch os allwch gael cymorth ariannol arall

Os ydych yn agosàu at ddiwedd oes

Os ydych yn agosàu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd) efallai y gallwch gael arian ychwanegol ar gyfer Credyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy am hawlio Credyd Cynhwysol os ydych yn agosàu at ddiwedd oes.

2. Rhoi gwybod am eich cyflwr iechyd neu anabledd

Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, gallwch roi gwybod os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich ‘gallu i weithio�.

Gallai hyn olygu eich bod:

  • angen cefnogaeth yn y gwaith
  • angen dod o hyd i waith addas
  • methu gweithio dros dro neu yn y tymor hir

Gallwch barhau i weithio os teimlwch y gallwch neu os dewch o hyd i waith addas. Darganfyddwch fwy am gael Credyd Cynhwysol os ydych yn gweithio.

Sut i roi gwybod am eich cyflwr iechyd neu anabledd

Bydd angen i chi ddarparu manylion am eich cyflwr iechyd, megis:

  • triniaethau meddygol yr ydych yn eu derbyn
  • os ydych yn yr ysbyty neu’n disgwyl mynd i’r ysbyty
  • os ydych chi’n feichiog

Nid oes angen i chi ddarparu’r rhain os ydych yn agosàu at ddiwedd oes.

Os ydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol, rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau yn syth, gan gynnwys:

  • newidiadau i’ch cyflwr iechyd, er enghraifft mae’n gwella neu’n gwaethygu
  • cyflwr iechyd newydd

Gallwch wneud hyn yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol.

Nodiadau ffitrwydd

Mae’n rhaid i chi gael nodyn ffitrwydd (a elwir hefyd yn ‘nodyn salwch�) os yw eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio am fwy na 7 diwrnod.

Efallai na fydd angen i chi gael nodyn ffitrwydd os ydych chi wedi symud neu’n symud o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) i Gredyd Cynhwysol.

Bydd gofyn i chi ddarparu manylion o’ch nodyn ffitrwydd yn eich cyfrif.

Gallwch gael nodyn ffitrwydd gan un o’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol canlynol:

  • meddyg teulu neu feddyg ysbyty
  • nyrs gofrestredig
  • therapydd galwedigaethol
  • fferyllydd
  • ffisiotherapydd

Gellir ei argraffu neu roi ar ffurf digidol.

Os yw eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio am fwy na 28 diwrnod, efallai y bydd angen i chi gael Asesiad Gallu i Weithio. Rhaid i chi barhau i gael nodiadau ffitrwydd nes eich bod wedi cael penderfyniad am eich asesiad.

Pan ddaw eich nodyn ffitrwydd i ben

Os yw eich iechyd yn dal i effeithio ar eich gallu i weithio rhaid i chi gael nodyn ffitrwydd newydd pan ddaw i ben.

Byddwch yn cael nodyn atgoffa cyn i’ch nodyn ffitrwydd ddod i ben. Bydd y nodyn atgoffa yn cynnwys y dyddiad y mae angen i chi roi gwybod am un newydd erbyn.

Bydd angen i chi ddiweddaru’r manylion yn eich cyfrif gyda’ch nodyn ffitrwydd newydd. Os na wnewch hynny, bydd angen i chi fynychu apwyntiad gyda’ch anogwr gwaith i drafod eich ymrwymiad hawlydd.

Os na chewch nodyn ffitrwydd newydd efallai y bydd disgwyl i chi weithio neu chwilio am waith.

Os oes angen Asesiad Gallu i Weithio arnoch

Pwrpas yr Asesiad Gallu i Weithio yw helpu i benderfynu faint mae eich cyflwr iechyd neu anabledd yn cyfyngu ar eich gallu i weithio.

Efallai na fyddwch yn cael asesiad os ydych yn ennill dros £793 y mis.

Os oes angen asesiad arnoch, byddwch yn cael llythyr sy’n dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud.

Cyn eich asesiad, bydd angen i chi lenwi holiadur iechyd ‘Gallu i Weithio� (UC50). Byddwch yn gallu anfon copïau o wybodaeth feddygol arall gyda hwn, fel cynlluniau triniaeth neu ganlyniadau profion.

Gall yr asesiad fod mewn person, drwy alwad fideo, neu dros y ffôn.

Gallwch gael rhywun gyda chi, er enghraifft ffrind neu weithiwr cymorth.

Cyn penderfyniad eich asesiad

Hyd nes y gall penderfyniad gael ei wneud ar eich Asesiad Gallu i Weithio, byddwch naill ai’n:

  • cael y lwfans safonol, os ydych yn gwneud cais newydd
  • parhau i gael yr un swm o Gredyd Cynhwysol, os ydych yn dweud wrthym am newid mewn amgylchiadau.

Rhaid i chi barhau i gael nodiadau ffitrwydd a darparu manylion amdanynt yn eich cyfrif hyd nes y byddwch wedi cael penderfyniad am eich asesiad. Os na chewch nodyn ffitrwydd newydd efallai y bydd disgwyl i chi weithio neu chwilio am waith.

3. Os ydych yn cael Asesiad Gallu i Weithio

Ar ôl i chi roi gwybod am eich cyflwr iechyd neu anabledd neu newid mewn amgylchiadau, efallai bydd angen i chi gael Asesiad Gallu i Weithio. Os ydych yn cael asesiad, byddwch yn cael penderfyniad ar ôl sy’n nodi a ydych:

Efallai na fyddwch yn cael asesiad os ydych yn ennill dros £793 y mis.

Os ydych yn cael Asesiad Gallu i Weithio, anfonir penderfyniad atoch ar ôl sy’n rhoi gwybod a ydych:

  • yn ffit i weithio (hefyd yn cael ei adnabod fel ‘yn alluog i weithio)
  • angen paratoi i weithio yn y dyfodol, ond gyda gallu cyfyngedig i weithio (LCW)
  • gyda gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith (LCWRA)

Mae’r penderfyniad yn effeithio os gallwch gael y swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol.

Gallwch chi barhau i weithio os ydych chi’n teimlo eich bod yn gallu, hyd yn oed os dywedwyd wrthych bod gennych allu cyfyngedig i weithio neu os oes angen i chi baratoi ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Gallwch ennill hyd at swm penodol heb iddo effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol a gewch. Gelwir hyn yn ‘lwfans gwaith�.

Os ydych yn ffit i weithio

Bydd angen i chi gytuno i chwilio am waith sy’n addas ar gyfer eich cyflwr iechyd.

Byddwch yn cael y lwfans safonol o Gredyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich amgylchiadau.

Os mae angen i chi baratoi i weithio yn y dyfodol

Mae angen i chi baratoi i weithio yn y dyfodol, ond mae gennych allu cyfyngedig i weithio ar hyn o bryd. Gallwch weithio os ydych yn teimlo eich bod chi’n gallu gwneud hynny.

Bydd eich anogwr gwaith yn trafod eich sefyllfa ac yn cytuno ar gamau i’ch helpu i ddechrau paratoi ar gyfer gwaith. Er enghraifft, drwy ysgrifennu CV.

Os oes gennych allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith

Nid oes angen i chi chwilio am waith neu baratoi ar gyfer gwaith. Gallwch weithio os ydych yn teimlo eich bod chi’n gallu gwneud hynny.

Efallai y cewch arian ychwanegol yn ogystal â’ch lwfans safonol.

Eich ymrwymiad hawlydd

Bydd angen i chi gytuno i wneud rhai pethau i barhau i gael Credyd Cynhwysol. Gelwir hyn eich �ymrwymiad hawlydd�.

Mae’ch ymrwymiad yn seiliedig ar eich sefyllfa ac efallai y bydd canlyniad eich Asesiad Gallu i Weithio’n effeithio arno.

Ailasesiadau

Os dechreuwch weithio, ni fydd angen i chi gael asesiad arall oni bai bod cyflwr eich iechyd yn newid.

4. Gweithio a hawlio Credyd Cynhwysol

Efallai y byddwch yn dal i gael Credyd Cynhwysol os ydych yn gweithio.

Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau ar unwaith, gan gynnwys dod o hyd i swydd neu ei gadael.

Gallwch ennill hyd at swm penodol heb iddo effeithio ar y swm o Gredyd Cynhwysol a gewch. Gelwir hyn yn ‘lwfans gwaith�.

Os ydych yn ennill dros £793 y mis, efallai na fyddwch yn cael Asesiad Gallu i Weithio pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol neu os yw’ch amgylchiadau’n newid.

Siaradwch â’ch anogwr gwaith neu defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i ddarganfod sut mae gweithio yn effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol.

5. Hawlio Credyd Cynhwysol os ydych yn agosàu at ddiwedd oes

Os ydych yn agosàu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd) efallai y gallwch gael Credyd Cynhwysol yn gyflymach ac ar gyfradd uwch.

Gelwir hyn weithiau’n ‘reolau arbennig ar gyfer diwedd oes�.

Efallai y byddwch yn gallu cael buddi-daliadau eraill os ydych yn agosàu at ddiwedd oes.

Cymhwysedd

Rydych chi fel arfer yn gymwys os:

Gall fod yn anodd rhagweld pa mor hir y gallai rhywun fyw. Os nad yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi siarad â chi am hyn, gallwch barhau i ofyn iddynt gefnogi eich cais o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes.

Sut i wneud cais

Gofynnwch weithiwr meddygol proffesiynol am ffurflen SR1. Byddant naill ai’n ei llenwi ac yn rhoi’r ffurflen i chi neu’n ei hanfon yn uniongyrchol i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Gwnewch gais am Gredyd Cynhwysol ar-lein. Pan fyddwch yn gwneud cais, gofynnir i chi a yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw. Gofynnir i chi hefyd a hoffech i’r tîm Credyd Cynhwysol eich ffonio i’ch helpu i wneud eich cais.

Ni fydd angen i chi gael Asesiad Gallu i Weithio na gwneud Ymrwymiad Hawlydd.

Os ydych chi eisoes yn cael Credyd Cynhwysol

Gofynnwch weithiwr meddygol proffesiynol am ffurflen SR1. Byddant naill ai’n ei llenwi ac yn rhoi’r ffurflen i chi neu’n ei hanfon yn uniongyrchol at DWP.

Os ydych eisoes wedi anfon ffurflen SR1 ar gyfer budd-dal arall, er enghraifft Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), nid oes angen i chi ei hanfon eto.

Rhowch wybod am y newid ar-lein trwy eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Gofynnir i chi a hoffech i’r tîm Credyd Cynhwysol eich ffonio ynglŷn â’ch cais. Byddan nhw’n esbonio os oes unrhyw beth arall sydd angen i chi ei wneud.

6. Os ydych chi'n cael y premiwm anabledd difrifol

Os ydych yn cael, neu mae gennych hawl i, y premiwm anabledd difrifol efallai y gallwch gael ‘amddiffyniad trosiannol� os symudwch i Gredyd Cynhwysol.

Mae hwn yn daliad ychwanegol i helpu gyda’ch symud i Gredyd Cynhwysol. Bydd y mwyafrif o bobl yn cael hwn yn awtomatig ond bydd angen i rai wneud cais amdano.

Cymhwyster

Fe gewch y taliad hwn os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rydych chi (neu’ch partner) yn cael neu mae gennych hawl i Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • rydych chi’n cael neu mae gennych hawl, i’r premiwm anabledd difrifol o fewn y mis yn union cyn diwrnod cyntaf eich cais Credyd Cynhwysol
  • rydych chi’n dal yn gymwys i gael y premiwm anabledd difrifol ar ddechrau eich cais Credyd Cynhwysol
  • nid ydych wedi ymuno â chais Credyd Cynhwysol presennol

Os ydych mewn cwpwl ac rydych yn cael neu mae gennych hawl i’r gyfradd premiwm anabledd difrifol uwch, yna mae angen bod y canlynol hefyd yn berthnasol yn y mis cyntaf ar ôl i chi wneud cais Credyd Cynhwysol:

  • nid oes neb yn cael unrhyw Lwfans Gofalwr neu Daliad Cymorth Gofalwr am ofalu amdanoch chi neu’ch partner
  • nid oes neb yn cael swm ychwanegol ar ben eu taliadau Credyd Cynhwysol am ofalu amdanoch chi neu’ch partner

Sut i wneud cais am eich taliad diogelwch trosiannol

Os oes gennych hawl i’r taliad diogelwch trosiannol, byddwch yn ei gael yn awtomatig os cafodd eich budd-dal blaenorol ei hawlio fel:

  • person sengl
  • rhan o gwpl ac roedd y taliadau yn eich enw chi

Bydd hyn yn ymddangos yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol.

Os ydych yn gwahanu oddi wrth eich partner ac eisiau gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Ni fyddwch yn cael y taliad diogelwch trosiannol yn awtomatig os oeddech yn rhan o gwpl a:

  • dim ond yn enw eich partner y gwnaed taliadau budd-dal (naill ai i’w cyfrif banc neu gyfrif ar y cyd)
  • bod eich partner wedi cael, neu roedd ganddynt hawl i, bremiwm anabledd difrifol fel rhan o gais am Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm

Mae angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol o fewn mis o wahanu oddi wrth eich partner os ydych am wneud cais am y taliad diogelwch trosiannol hefyd.

Mae angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau y gallech fod yn gymwys i wneud cais am daliad diogelwch trosiannol. Dywedwch wrthynt cyn gynted â phosibl ar ôl i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol ac o fewn 13 mis.

Dywedwch wrth DWP eich bod am wneud cais am eich taliad diogelwch trosiannol drwy naill ai:

Beth fyddwch yn ei gael

Os ydych chi’n sengl byddwch yn cael:

  • £132.12, os yw’r elfen ‘gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â Gwaith wedi cael eu cynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol
  • £313.79, os nad yw’r elfen ‘gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaithâ€� wedi cael eu cynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol

Os ydych chi mewn cwpl byddwch yn cael:

  • £445.91, os ydych yn cael neu mae gennych hawl, i’r gyfradd premiwm anabledd difrifol uwch
  • £132.12, os ydych yn cael neu mae gennych hawl i’r gyfradd premiwm anabledd difrifol is a bod yr elfen ‘gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaithâ€� wedi cael eu cynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol chi neu eich partner
  • £313.79, os ydych yn cael neu mae gennych hawl, i’r gyfradd premiwm anabledd difrifol is ac nad yw’r elfen ‘gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaithâ€� wedi cael eu cynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol

Symiau ychwanegol

Gallech gael mwy o arian yn eich taliad gwarchodaeth drosiannol os ydych yn cael, neu os oes gennych hawl i, bremiymau anabledd eraill neu’r premiwm plentyn anabl.

Os ydych yn cael premiymau anabledd eraill

Gallwch gael mwy o arian yn eich taliad gwarchodaeth drosiannol os:

  • rydych yn cael, neu mae gennych hawl i’r premiwm anabledd uwch neu’r premiwm anabledd o fewn y mis yn union cyn diwrnod cyntaf eich cais am Gredyd Cynhwysol
  • rydych yn dal yn gymwys ar gyfer y premiwm anabledd uwch neu’r premiwm anabledd ar ddechrau eich cais Credyd Cynhwysol

Os ydych chi’n sengl, fe gewch yn ychwanegol:

  • £84, os ydych yn cael, neu mae gennych hawl i’r premiwm anabledd uwch
  • £172, os ydych yn cael, neu mae gennych hawl i’r premiwm anabledd

Os ydych chi mewn cwpl fe gewch yn ychwanegol:

  • £120, os ydych yn cael, neu mae gennych hawl i’r premiwm anabledd uwch
  • £246, os ydych yn cael, neu mae gennych hawl i’r premiwm anabledd

Os ydych yn cael y premiwm plentyn anabl

Efallai y byddwch yn cael y premiwm plentyn anabl fel rhan o’ch

  • Cymhorthdal ​​Incwm
  • JSA yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Treth Plant (a elwir yn ‘elfen blentyn anablâ€�)

Gallwch gael mwy o arian yn eich taliad gwarchodaeth drosiannol os:

  • ydych yn cael, neu mae gennych hawl i’r, premiwm plentyn anabl o fewn y mis yn syth cyn diwrnod cyntaf eich cais Credyd Cynhwysol

  • ydych yn dal i fod yn gymwys am y premiwm plentyn anabl ar ddechrau eich cais Credyd Cynhwysol

  • mae cyfradd is yr elfen plentyn anabl wedi’i chynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol

Byddwch yn cael £177 ychwanegol ar gyfer pob plentyn cymwys.

Newidiadau i’r swm gwarchodaeth drosiannol

Mae gwarchodaeth drosiannol yn gostwng dros amser yn unol ag unrhyw gynnydd yn eich Credyd Cynhwysol. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw gynnydd i dalu costau gofal plant.

Bydd yn dod i ben os bydd unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn hawlydd sengl ac yn dechrau byw gyda’ch partner

  • rydych yn stopio byw gyda’ch partner

  • mae eich Credyd Cynhwysol yn cynyddu mwy na’r swm gwarchodaeth drosiannol

  • mae eich enillion yn is na’r Trothwy Enillion Gweinyddol (AET) am fwy na 3 chyfnod asesu (mae’r AET yn £494 y mis i unigolyn a £782 y mis i bâr)

  • mae eich hawliad Credyd Cynhwysol yn dod i ben

Os bydd eich Credyd Cynhwysol yn dod i ben am lai na 3 mis oherwydd bod eich enillion yn rhy uchel, efallai y byddwch yn cael gwarchodaeth drosiannol eto pan fydd eich cais yn ailddechrau.