Cyflyrau iechyd, anabledd a Chredyd Cynhwysol
Os ydych chi'n cael y premiwm anabledd difrifol
Os ydych yn cael, neu mae gennych hawl i, y premiwm anabledd difrifol efallai y gallwch gael 鈥榓mddiffyniad trosiannol鈥� os symudwch i Gredyd Cynhwysol.
Mae hwn yn daliad ychwanegol i helpu gyda鈥檆h symud i Gredyd Cynhwysol. Bydd y mwyafrif o bobl yn cael hwn yn awtomatig ond bydd angen i rai wneud cais amdano.
Cymhwyster
Fe gewch y taliad hwn os yw鈥檙 canlynol i gyd yn berthnasol:
- rydych chi (neu鈥檆h partner) yn cael neu mae gennych hawl i Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
- rydych chi鈥檔 cael neu mae gennych hawl, i鈥檙 premiwm anabledd difrifol o fewn y mis yn union cyn diwrnod cyntaf eich cais Credyd Cynhwysol
- rydych chi鈥檔 dal yn gymwys i gael y premiwm anabledd difrifol ar ddechrau eich cais Credyd Cynhwysol
- nid ydych wedi ymuno 芒 chais Credyd Cynhwysol presennol
Os ydych mewn cwpwl ac rydych yn cael neu mae gennych hawl i鈥檙 gyfradd premiwm anabledd difrifol uwch, yna mae angen bod y canlynol hefyd yn berthnasol yn y mis cyntaf ar 么l i chi wneud cais Credyd Cynhwysol:
- nid oes neb yn cael unrhyw Lwfans Gofalwr neu Daliad Cymorth Gofalwr am ofalu amdanoch chi neu鈥檆h partner
- nid oes neb yn cael swm ychwanegol ar ben eu taliadau Credyd Cynhwysol am ofalu amdanoch chi neu鈥檆h partner
Sut i wneud cais am eich taliad diogelwch trosiannol
Os oes gennych hawl i鈥檙 taliad diogelwch trosiannol, byddwch yn ei gael yn awtomatig os cafodd eich budd-dal blaenorol ei hawlio fel:
- person sengl
- rhan o gwpl ac roedd y taliadau yn eich enw chi
Bydd hyn yn ymddangos yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol.
Os ydych yn gwahanu oddi wrth eich partner ac eisiau gwneud cais am Gredyd Cynhwysol
Ni fyddwch yn cael y taliad diogelwch trosiannol yn awtomatig os oeddech yn rhan o gwpl a:
- dim ond yn enw eich partner y gwnaed taliadau budd-dal (naill ai i鈥檞 cyfrif banc neu gyfrif ar y cyd)
- bod eich partner wedi cael, neu roedd ganddynt hawl i, bremiwm anabledd difrifol fel rhan o gais am Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
Mae angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol o fewn mis o wahanu oddi wrth eich partner os ydych am wneud cais am y taliad diogelwch trosiannol hefyd.
Mae angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau y gallech fod yn gymwys i wneud cais am daliad diogelwch trosiannol. Dywedwch wrthynt cyn gynted 芒 phosibl ar 么l i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol ac o fewn 13 mis.
Dywedwch wrth DWP eich bod am wneud cais am eich taliad diogelwch trosiannol drwy naill ai:
- ffonio鈥檙 llinell gymorth Credyd Cynhwysol
- cysylltu 芒鈥檆h anogwr gwaith drwy eich dyddlyfr ar-lein
Beth fyddwch yn ei gael
Os ydych chi鈥檔 sengl byddwch yn cael:
- 拢132.12, os yw鈥檙 elfen 鈥榞allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy鈥檔 gysylltiedig 芒 Gwaith wedi cael eu cynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol
- 拢313.79, os nad yw鈥檙 elfen 鈥榞allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwaith鈥� wedi cael eu cynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol
Os ydych chi mewn cwpl byddwch yn cael:
- 拢445.91, os ydych yn cael neu mae gennych hawl, i鈥檙 gyfradd premiwm anabledd difrifol uwch
- 拢132.12, os ydych yn cael neu mae gennych hawl i鈥檙 gyfradd premiwm anabledd difrifol is a bod yr elfen 鈥榞allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwaith鈥� wedi cael eu cynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol chi neu eich partner
- 拢313.79, os ydych yn cael neu mae gennych hawl, i鈥檙 gyfradd premiwm anabledd difrifol is ac nad yw鈥檙 elfen 鈥榞allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwaith鈥� wedi cael eu cynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol
Symiau ychwanegol
Gallech gael mwy o arian yn eich taliad gwarchodaeth drosiannol os ydych yn cael, neu os oes gennych hawl i, bremiymau anabledd eraill neu鈥檙 premiwm plentyn anabl.
Os ydych yn cael premiymau anabledd eraill
Gallwch gael mwy o arian yn eich taliad gwarchodaeth drosiannol os:
- rydych yn cael, neu mae gennych hawl i鈥檙 premiwm anabledd uwch neu鈥檙 premiwm anabledd o fewn y mis yn union cyn diwrnod cyntaf eich cais am Gredyd Cynhwysol
- rydych yn dal yn gymwys ar gyfer y premiwm anabledd uwch neu鈥檙 premiwm anabledd ar ddechrau eich cais Credyd Cynhwysol
Os ydych chi鈥檔 sengl, fe gewch yn ychwanegol:
- 拢84, os ydych yn cael, neu mae gennych hawl i鈥檙 premiwm anabledd uwch
- 拢172, os ydych yn cael, neu mae gennych hawl i鈥檙 premiwm anabledd
Os ydych chi mewn cwpl fe gewch yn ychwanegol:
- 拢120, os ydych yn cael, neu mae gennych hawl i鈥檙 premiwm anabledd uwch
- 拢246, os ydych yn cael, neu mae gennych hawl i鈥檙 premiwm anabledd
Os ydych yn cael y premiwm plentyn anabl
Efallai y byddwch yn cael y premiwm plentyn anabl fel rhan o鈥檆h
- Cymhorthdal 鈥嬧€婭ncwm
- JSA yn seiliedig ar incwm
- Credyd Treth Plant (a elwir yn 鈥榚lfen blentyn anabl鈥�)
Gallwch gael mwy o arian yn eich taliad gwarchodaeth drosiannol os:
-
ydych yn cael, neu mae gennych hawl i鈥檙, premiwm plentyn anabl o fewn y mis yn syth cyn diwrnod cyntaf eich cais Credyd Cynhwysol
-
ydych yn dal i fod yn gymwys am y premiwm plentyn anabl ar ddechrau eich cais Credyd Cynhwysol
-
mae cyfradd is yr elfen plentyn anabl wedi鈥檌 chynnwys yn eich taliad Credyd Cynhwysol
Byddwch yn cael 拢177 ychwanegol ar gyfer pob plentyn cymwys.
Newidiadau i鈥檙 swm gwarchodaeth drosiannol
Mae gwarchodaeth drosiannol yn gostwng dros amser yn unol ag unrhyw gynnydd yn eich Credyd Cynhwysol. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw gynnydd i dalu costau gofal plant.
Bydd yn dod i ben os bydd unrhyw un o鈥檙 canlynol yn berthnasol:
-
rydych yn hawlydd sengl ac yn dechrau byw gyda鈥檆h partner
-
rydych yn stopio byw gyda鈥檆h partner
-
mae eich Credyd Cynhwysol yn cynyddu mwy na鈥檙 swm gwarchodaeth drosiannol
-
mae eich enillion yn is na鈥檙 Trothwy Enillion Gweinyddol (AET) am fwy na 3 chyfnod asesu (mae鈥檙 AET yn 拢494 y mis i unigolyn a 拢782 y mis i b芒r)
-
mae eich hawliad Credyd Cynhwysol yn dod i ben
Os bydd eich Credyd Cynhwysol yn dod i ben am lai na 3 mis oherwydd bod eich enillion yn rhy uchel, efallai y byddwch yn cael gwarchodaeth drosiannol eto pan fydd eich cais yn ailddechrau.