Rhoi gwybod i CThEF am gyflogai newydd
Printable version
1. Trosolwg
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) pan fyddwch yn croesawu cyflogai newydd a chael eich cofrestru fel cyflogwr.
Mae’r tudalen hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cyn i chi dalu’ch cyflogai sydd newydd gychwyn, dilynwch y camau hyn.
-
Dysgwch beth yw gwybodaeth y cyflogai er mwyn cyfrifo’i god treth - os nad oes gennych ei P45, defnyddiwch y ‘rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn� gan CThEF (sydd wedi cymryd lle’r P46).
-
Darganfyddwch a oes angen iddo ad-dalu benthyciad myfyriwr.
-
Defnyddiwch y manylion hyn i osod eich cyflogai newydd ar eich meddalwedd gyflogres.
-
Cofrestrwch eich cyflogai gyda CThEF gan ddefnyddio Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS).
Mae’n rhaid i chi hefyd ddilyn yr un camau ag yr oeddech wedi’u dilyn pan ddechreuoch chi gyflogi staff am y tro cyntaf, er enghraifft gwirio y gall y cyflogai weithio yn y DU.
2. Gwirio a oes angen i chi dalu rhywun drwy TWE
Fel arfer, bydd angen i chi dalu eich cyflogeion drwy TWE os ydynt yn ennill £96 yr wythnos neu fwy (£417 y mis neu £5,000 y flwyddyn).
Nid oes angen i chi dalu gweithwyr hunangyflogedig drwy TWE.
Deall a yw rhywun yn gyflogai neu’n hunangyflogedig
Fel rheol gyffredinol:
-
mae rhywun yn gyflogedig os yw’n gweithio i chi ac nad oes ganddo unrhyw un o’r risgiau sy’n gysylltiedig â rhedeg busnes
-
mae rhywun yn hunangyflogedig os yw’n rhedeg ei fusnes ei hun a’i fod yn gyfrifol am ei lwyddiant neu ei fethiant
Mae’n rhaid i chi wirio statws cyflogaeth pob gweithiwr (yn agor tudalen Saesneg) i wneud yn siŵr nad ydynt yn hunangyflogedig. Os ydych yn cael y statws cyflogaeth anghywir, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu treth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol ychwanegol, llog a chosb.
Gweithwyr dros dro neu weithwyr asiantaeth
Mae angen i chi weithredu TWE ar weithwyr dros dro yr ydych yn eu talu’n uniongyrchol, cyhyd â bo’r gweithiwr wedi’i ystyried yn gyflogai.
Nid oes angen i chi weithredu TWE os yw asiantaeth yn talu’r gweithiwr, oni bai bod yr asiantaeth wedi’i lleoli tramor ac nid oes ganddi’r naill o’r canlynol:
-
cyfeiriad masnach yn y DU
-
cynrychiolydd yn y DU
Mae yna reolau arbennig ar gyfer gweithwyr cynhaeaf neu gurwyr ar gyfer criw hela (yn agor tudalen Saesneg) sy’n gyflogedig am lai na 2 wythnos.
Cyflogeion rydych yn eu talu unwaith yn unig
Byddwch yn gweithredu TWE yn wahanol ar gyfer cyflogeion rydych yn eu talu unwaith yn unig.
Crëwch gofnod ar y gyflogres gan ddefnyddio’i enw llawn a’i gyfeiriad. Os byddwch yn rhoi ID ar y gyflogres, gwnewch yn siŵr ei fod yn unigryw.
Pan fyddwch yn anfon eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (yn agor tudalen Saesneg) (FPS):
-
defnyddiwch god �0T� ar sail ‘Wythnos 1� neu ‘Mis 1�
-
rhowch ‘IO� yn y maes ‘Amlder y cyflog�
-
peidiwch â rhoi dyddiad dechrau na dyddiad gadael
Rhowch ddatganiad i’ch cyflogai’n dangos ei dâl cyn ac ar ôl didyniadau, yn ogystal â’r dyddiad talu, er enghraifft slip cyflog (yn agor tudalen Saesneg) neu lythyr. Peidiwch â rhoi P45 iddo.
Gwirfoddolwyr
Nid oes angen i chi weithredu TWE ar gyfer gwirfoddolwyr sydd dim ond yn cael treuliau nad ydynt yn agored i dreth neu Yswiriant Gwladol - gwiriwch a yw hyn yn berthnasol i’w treuliau (yn agor tudalen Saesneg).
Myfyrwyr
Gweithredwch TWE ar gyfer myfyrwyr yn yr un modd ag y byddwch yn ei wneud ar gyfer cyflogeion eraill.
3. Cael gwybodaeth am y cyflogai
Bydd angen i chi gael gwybodaeth benodol gen eich cyflogai fel y gallwch sefydlu’r cod treth cywir a’r datganiad cyflogai newydd sy’n cychwyn ar ei gyfer, ar eich meddalwedd gyflogres.
Fel arfer, byddwch yn cael y rhan fwyaf o’r wybodaeth hon o P45 eich cyflogai, ond bydd angen iddo lenwi �rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn� (sydd wedi cymryd lle ffurflen P46) os nad oes ganddo P45 diweddar.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
- dyddiad geni’r cyflogai
- rhywedd y cyflogai
- cyfeiriad llawn y cyflogai
- dyddiad dechrau’r cyflogai
Bydd angen y manylion canlynol arnoch o P45 y cyflogai:
- enw llawn y cyflogai
- dyddiad y gadawodd y cyflogai ei swydd ddiwethaf
- cyfanswm y cyflog a’r dreth a dalwyd hyd yn hyn ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol
- statws y cyflogai o ran didyniadau benthyciad myfyriwr
- rhif Yswiriant Gwladol y cyflogai
- cod treth presennol y cyflogai
Mae’n rhaid i chi gadw’r wybodaeth hon yn eich cofnodion cyflogres ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol a’r 3 blwyddyn dreth sy’n dilyn.
Os nad oes gan eich cyflogai P45
Gofynnwch i’ch cyflogai gwblhau ‘rhestr wirio ar gyfer cyflogeion� os nad oes gennych eu P45, neu os ydynt wedi gadael eu swydd olaf cyn 6 Ebrill 2024.
Os oes gan eich cyflogai fwy nag un P45
Dylech ddefnyddio’r P45 gyda’r dyddiad diweddaraf a rhoi’r llall yn ôl i’r cyflogai.
Os oes gan y ddwy ffurflen yr un dyddiad gadael, defnyddiwch y P45 gyda’r lwfans rhydd o dreth uchaf (neu’r lleiaf o dâl ychwanegol ar gyfer cod K) a rhoi’r llall yn ôl i’r cyflogai.
Cyfrifo cod treth eich cyflogai
Pan fydd gennych yr wybodaeth am eich cyflogai, gallwch ddefnyddio offeryn er mwyn:
-
cyfrifo’i god treth a’i ddatganiad ar gyfer cyflogeion newydd sy’n cychwyn
-
dysgu beth arall i’w wneud cyn talu’ch cyflogai am y tro cyntaf
Cyfrifo cod treth eich cyflogai
Cyflogeion y byddwch yn eu talu unwaith yn unig a secondiadau o dramor
Mae yna ffordd wahanol i gyfrifo codau treth ar gyfer cyflogeion y byddwch yn eu talu unwaith yn unig neu sydd wedi’u secondio o dramor (yn agor tudalen Saesneg).
4. Ad-daliadau benthyciad myfyriwr
Dylech wneud didyniadau benthyciad myfyriwr os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
-
mae P45 eich cyflogai newydd yn dangos y dylai didyniadau barhau
-
mae’ch cyflogai newydd yn rhoi gwybod i chi ei fod yn ad-dalu benthyciad myfyriwr neu fenthyciad ôl-raddedig, er enghraifft mewn rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn
-
mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon ffurflen SL1 neu ffurflen PGL1 atoch a bod eich cyflogai newydd yn ennill dros drothwy’r incwm ar gyfer ei fenthyciad
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud
Dylech ddilyn y camau hyn hyd yn oed os oes gan eich cyflogai P45 o’i swydd ddiwethaf.
Gofynnwch i’ch cyflogai newydd a oes ganddo fenthyciad myfyriwr neu fenthyciad ôl-raddedig - efallai y bydd y ddau ganddo. Os oedd y cyflogai wedi gorffen astudio ar ôl 6 Ebrill yn y flwyddyn dreth bresennol, ni fydd yn dechrau ad-dalu ei fenthyciad tan y flwyddyn dreth nesaf.
Cadwch gofnod o’i ateb yn eich meddalwedd gyflogres. Nid oes angen i chi gyfrifo’i ad-daliadau o ran adennill benthyciad - bydd eich meddalwedd gyflogres yn gwneud hyn ar eich rhan.
Os oes gan eich cyflogai fenthyciad myfyriwr, gofynnwch iddo fewngofnodi i’w cyfrif ad-dalu a gwirio pa gynllun i’w ddefnyddio ar gyfer didyniadau. Gall gysylltu â Chwmni Benthyciadau Myfyrwyr os nad yw’n siŵr o hyd.
Os nad oes modd iddo ddweud, defnyddiwch Gynllun 1 yn eich meddalwedd gyflogres hyd nes y byddwch yn cael hysbysiad dechrau o ran benthyciad myfyriwr (SL1).
Pan fo cyflogai â mwy nag un cynllun, dechreuwch ddidyniadau ar gyfer y cynllun sydd â’r trothwy isaf o ran adennill hyd nes y byddwch yn cael SL1. Gwiriwch drothwyon adennill benthyciad myfyriwr.
Rhoi gwybod am y didyniadau hyn i CThEF (yn agor tudalen Saesneg) pan fyddwch yn talu’ch cyflogai.
Rheolau arbennig
Mewn rhai achosion, mae yna reolau arbennig (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer didynnu benthyciad myfyriwr. Mae enghreifftiau’n cynnwys:
-
rydych yn cael gorchymyn llys i gasglu dyled yn uniongyrchol o enillion eich cyflogai
-
rydych yn newid pa mor aml yr ydych yn talu eich cyflogai, er enghraifft o bob wythnos i bob mis
-
mae gan y cyflogai fwy nag un swydd gyda chi a bod angen i chi gyfansymu ei enillion (yn agor tudalen Saesneg)
Dod â didyniadau i ben
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi a oes angen i chi ddod â didyniadau o gyflog eich cyflogai o ran benthyciadau i ben. Bydd yn anfon y canlynol atoch:
-
ffurflen SL2 am fenthyciadau myfyriwr
-
ffurflen PGL2 am fenthyciadau ôl-raddedig
Peidiwch â dod â didyniadau i ben os yw cyflogai’n gofyn i chi wneud hynny.
5. Cofrestru’ch cyflogai newydd
Cofrestru’ch cyflogai newydd gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) drwy gynnwys ei fanylion ar Gyflwyniad Taliadau Llawn (yn agor tudalen Saesneg) (FPS) pan fyddwch yn ei dalu am y tro cyntaf.
Ar yr FPS hwn, dylech gynnwys y canlynol:
-
y cod treth a’r datganiad ar gyfer cyflogeion newydd sy’n cychwyn (yn agor tudalen Saesneg) rydych wedi’i gyfrifo
-
cyflog a didyniadau (er enghraifft, treth, Yswiriant Gwladol a didyniadau benthyciad myfyriwr) ers iddo ddechrau gweithio i chi - peidiwch â chynnwys ffigurau o’i swydd flaenorol
Rhoi ID ar y gyflogres i’ch cyflogai
Gallwch bennu ID ar y gyflogres i’ch cyflogai. Mae’n rhaid bod yr ID yn unigryw - felly defnyddiwch un gwahanol:
- os ydych yn ail-gyflogi rhywun - os byddwch yn gwneud hyn o fewn yr un flwyddyn dreth, ailddechreuwch ei wybodaeth flwyddyn hyd yma o ‘�0.00�
- os oes mwy nag un swydd gan gyflogai yn yr un cynllun TWE
Os byddwch yn ailddefnyddio ID ar y gyflogres, byddwch yn creu cofnod dyblyg ac yn rhoi gwybod am y gyflogres yn anghywir.
Rheolau arbennig
Mae yna reolau arbennig ynghylch gwneud didyniadau ar gyfer y canlynol:
6. Datganiad rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn neu P45 hwyr
Efallai y bydd angen i chi ddiweddaru eich cofnodion cyflogres os bydd eich cyflogai’n rhoi datganiad rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn neu P45 i chi ar ôl i chi ei gofrestru gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF).
Dim ond rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn y mae angen arnoch chi gan eich cyflogai i gyfrifo’i god treth (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r naill o’r canlynol yn wir:
- nid oes ganddo P45
- gwnaeth y cyflogai adael ei swydd ddiwethaf cyn 6 Ebrill 2024
Os yw CThEF wedi anfon cod treth atoch
Defnyddiwch y cod treth y mae CThEF wedi’i anfon atoch os bydd eich cyflogai’n rhoi rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn neu P45 i chi ar ôl i chi ei dalu am y tro cyntaf. Didynnwch unrhyw ad-daliadau benthyciad myfyriwr o’r dyddiad y dechreuodd eich cyflogai gyda chi.
Os nad yw CThEF wedi anfon cod atoch
P45 hwyr
Defnyddiwch P45 eich cyflogai i gyfrifo’i god treth (yn agor tudalen Saesneg) a diweddaru’i fanylion yn eich meddalwedd gyflogres.
Os oedd eich cyflogai wedi gadael ei swydd ddiwethaf ar ôl 5 Ebrill 2024, dylech ddiweddaru’r ddau faes canlynol hefyd yn eich meddalwedd gyflogres:
- ‘Cyfanswm y cyflog hyd yma�
- ‘Cyfanswm y dreth hyd yma�
Gwnewch hyn am yr wythnos gyntaf yr oeddech wedi cynnwys yr wybodaeth hon. Os bydd eich meddalwedd yn darganfod gwallau, diweddarwch y meysydd gyda’r ffigurau cywir.
Rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn hwyr
Defnyddiwch restr wirio’ch cyflogai ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn i ddiweddaru’r datganiad ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn yn eich cofnodion cyflogres.
Parhewch i ddefnyddio’r cod treth rydych wedi’i ddefnyddio yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) hyd nes y bydd CThEF yn anfon un newydd atoch.
Pan fyddwch yn talu’ch cyflogai nesaf
Peidiwch â nodi dyddiad dechrau arall ar yr FPS, hyd yn oed os nad ydych wedi rhoi gwybod am ddyddiad dechrau o’r blaen.