Rhoi gwybod i CThEF am gyflogai newydd
Cael gwybodaeth am y cyflogai
Bydd angen i chi gael gwybodaeth benodol gen eich cyflogai fel y gallwch sefydlu’r cod treth cywir a’r datganiad cyflogai newydd sy’n cychwyn ar ei gyfer, ar eich meddalwedd gyflogres.
Fel arfer, byddwch yn cael y rhan fwyaf o’r wybodaeth hon o P45 eich cyflogai, ond bydd angen iddo lenwi �rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn� (sydd wedi cymryd lle ffurflen P46) os nad oes ganddo P45 diweddar.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
- dyddiad geni’r cyflogai
- rhywedd y cyflogai
- cyfeiriad llawn y cyflogai
- dyddiad dechrau’r cyflogai
Bydd angen y manylion canlynol arnoch o P45 y cyflogai:
- enw llawn y cyflogai
- dyddiad y gadawodd y cyflogai ei swydd ddiwethaf
- cyfanswm y cyflog a’r dreth a dalwyd hyd yn hyn ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol
- statws y cyflogai o ran didyniadau benthyciad myfyriwr
- rhif Yswiriant Gwladol y cyflogai
- cod treth presennol y cyflogai
Mae’n rhaid i chi gadw’r wybodaeth hon yn eich cofnodion cyflogres ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol a’r 3 blwyddyn dreth sy’n dilyn.
Os nad oes gan eich cyflogai P45
Gofynnwch i’ch cyflogai gwblhau ‘rhestr wirio ar gyfer cyflogeion� os nad oes gennych eu P45, neu os ydynt wedi gadael eu swydd olaf cyn 6 Ebrill 2024.
Os oes gan eich cyflogai fwy nag un P45
Dylech ddefnyddio’r P45 gyda’r dyddiad diweddaraf a rhoi’r llall yn ôl i’r cyflogai.
Os oes gan y ddwy ffurflen yr un dyddiad gadael, defnyddiwch y P45 gyda’r lwfans rhydd o dreth uchaf (neu’r lleiaf o dâl ychwanegol ar gyfer cod K) a rhoi’r llall yn ôl i’r cyflogai.
Cyfrifo cod treth eich cyflogai
Pan fydd gennych yr wybodaeth am eich cyflogai, gallwch ddefnyddio offeryn er mwyn:
-
cyfrifo’i god treth a’i ddatganiad ar gyfer cyflogeion newydd sy’n cychwyn
-
dysgu beth arall i’w wneud cyn talu’ch cyflogai am y tro cyntaf
Cyfrifo cod treth eich cyflogai
Cyflogeion y byddwch yn eu talu unwaith yn unig a secondiadau o dramor
Mae yna ffordd wahanol i gyfrifo codau treth ar gyfer cyflogeion y byddwch yn eu talu unwaith yn unig neu sydd wedi’u secondio o dramor (yn agor tudalen Saesneg).