Costau tai a Chredyd Cynhwysol
Printable version
1. Beth gallwch ei gael
Os ydych yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol. Gallwch gael swm ychwanegol o arian i helpu i dalu eich costau tai.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gall yr arian rydych yn ei gael ar gyfer chostau tai eich helpu i dalu eich:
- rhent i landlord preifat
- rhent a thaliadau gwasanaeth os ydych yn rhentu gan gymdeithas dai neu awdurdod lleol, er enghraifft tai cyngor
- taliadau gwasanaeth os ydych chi neu鈥檆h partner yn berchen ar yr eiddo rydych chi鈥檔 byw ynddo
Unwaith y byddwch wedi dechrau hawlio, mae angen i chi rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau. Os na wnewch hyn, gall eich budd-daliadau stopio.
Os ydych mewn tai 芒 chymorth, tai gwarchod, neu dai dros dro
Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol i helpu 芒 chostau byw. Mae a fydd yn gallu eich helpu 芒 chostau tai yn dibynnu ar eich llety ac sut mae鈥檔 eich cefnogi.
Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol i helpu 芒 chostau tai os yw鈥檙 ddau鈥檔 berthnasol:
- rydych yn byw mewn tai 芒 chymorth neu dai gwarchod
- nid ydych yn cael 鈥榞ofal, cymorth, neu oruchwyliaeth鈥� trwy eich tai
Ni allwch gael Credyd Cynhwysol i dalu am gostau tai os yw unrhyw un o鈥檙 canlynol yn berthnasol:
- rydych yn byw mewn tai 芒 chymorth neu dai gwarchod (fel hostel) sy鈥檔 darparu 鈥榞ofal, cymorth, neu oruchwyliaeth鈥� i chi
- rydych yn byw mewn llety dros dro a drefnir gan eich cyngor gan eich bod yn ddigartref
- rydych yn byw mewn lloches i ddioddefwyr trais domestig
Gwnewch gais am Fudd-dal Tai yn lle.
Help arall 芒 chostau tai
Gallwch wneud cais am help ag anawsterau ariannol o鈥檆h prif daliad Credyd Cynhwysol.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael:
- Gostyngiad Treth Cyngor
- Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI), os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun ac wedi bod ar Gredyd Cynhwysol am 3 mis yn olynol
Efallai y bydd eich budd-daliadau yn gostwng os byddwch yn cael mwy na鈥檙 symiau cap ar fudd-daliadau.
Os nad yw鈥檙 arian a gewch ar gyfer tai yn ddigon i dalu鈥檆h holl rent
Efallai y gallwch gael help ychwanegol gan eich cyngor lleol gyda鈥檆h rhent a chostau tai eraill, er enghraifft blaendal rhent neu gostau symud. Gelwir hyn yn 鈥�Taliad Disgresiwn at Gostau Tai鈥�.
I wneud cais am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai, cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol.
Os byddwch yn newid eich cyfeiriad
Bydd y swm o arian a gewch am dai bob mis yn seiliedig ar eich costau tai ar ddiwedd eich cyfnod asesu.
Os ydych yn dod yn ddigartref tra rydych yn cael Credyd Cynhywsol
Mae rhaid i chi roi gwybod am hyn yn eich cyfrif ar-lein. Gall eich anogwr gwaith roi seibiant i chi (gelwir hyn yn 鈥榟awddfraint鈥�) o鈥檆h cyfrifoldebau Ymrwymiad Hawlydd fel bod gennych amser i chwilio am lety. Gallwch barhau i hawlio Credyd Cynhwysol.
Os ydych yn byw yn yr Alban
Gallwch gael eich swm ychwanegol am gostau tai naill ai wedi eu:
- talu i chi yn eich taliad Credyd Cynhwysol
- talu鈥檔 syth i鈥檙 landlord
Gallwch ddewis a yw Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu unwaith neu ddwywaith y mis.
Os ydych yn gwneud cais newydd, cewch hysbysiad am hyn ar 么l eich taliad cyntaf.
Os ydych eisioes yn cael Credyd Cynhwysol ac nad ydych wedi cael hysbysiad, gallwch ofyn i鈥檆h anogwr gwaith.
Dyddiadau talu yn yr Alban
Gallwch ddewis cael eich talu unwaith neu ddwywaith y mis.
Pan fyddwch yn cael eich talu ddwywaith y mis, bydd eich taliad cyntaf am fis llawn. Fe gewch hanner cyntaf o daliad eich ail fis, mis ar 么l hyn. Bydd yr ail hanner yn cael ei dalu 15 diwrnod yn ddiweddarach. Mae hyn yn golygu y bydd tua mis a hanner rhwng eich taliad cyntaf a鈥檙 swm llawn ar gyfer eich ail fis.
Ar 么l hyn, cewch eich talu ddwywaith y mis.
Enghraifft
Rydych yn cael eich taliad cyntaf ar 14 Rhagfyr. Mae鈥檙 taliad hwn am fis llawn.
Os ydych yn cael eich talu ddwywaith y mis, cewch hanner eich ail daliad ar 14 Ionawr a鈥檙 hanner arall ar 29 Ionawr.
Byddwch yn cael eich talu ar y 14eg a鈥檙 29ain o bob mis ar 么l hynny.
2. Rhentu gan landlord preifat
Os ydych yn gymwys ar gyfer credyd cynhwysol gallwch gael help i dalu am eich rhent a rhai taliadau gwasanaeth.
Rydych fel arfer yn cael y swm ychwanegol ar gyfer chostau tai yn eich taliad Credyd Cynhwysol ac fel arfer mae鈥檔 rhaid i chi ei dalu i鈥檆h landlord.
Gallwch wneud cais am help gydag anawsterau ariannol o鈥檆h prif daliad Credyd Cynhwysol.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael Gostyngiad Treth Cyngor.
Faint byddwch yn ei gael am gostau tai
Mae鈥檙 swm o arian rydych yn ei gael am gostau tai yn dibynnu ar:
- faint eich aelwyd
- eich oedran
- ble rydych chi鈥檔 byw
Os ydych o dan 35 oed a鈥檔 byw ar eich pen eich hun
Os ydych o dan 35 ac nad yn byw gyda phartner neu blant, fel arfer gallwch ond hawlio ar gyfer ystafell sengl mewn t欧 a rennir. Gelwir hyn yn gyfradd llety a rennir y Lwfans Tai Lleol (SAR).
Gallwch ddefnyddio鈥檙 i ddarganfod y gyfradd yn eich ardal. Dewiswch 鈥榮hared accommodation鈥� ar gyfer y nifer o ystafelloedd gwely.
Gallwch gael mwy na鈥檙 SAR, os ydych:
- yn ymadawr gofal ac rydych o dan 25 oed
- wedi byw mewn hostel ar gyfer pobl ddigartref am o leiaf 3 mis mewn cyfanswm
- yn gyn-droseddwr ac o dan reolaeth
- yn cael elfen bywyd bob dydd Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- yn cael elfen gofal Lwfans Byw i鈥檙 Anabl (DLA) ar y gyfradd ganolig neu uwch
- yn cael Lwfans Gweini neu Lwfans Gweini Cyson
- yn cael Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- yn ddioddefwr camdriniaeth ddomestig
- yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern
Os ydych dros 35 oed a鈥檔 byw ar eich pen eich hun
Os ydych yn 35 oed neu鈥檔 h欧n a鈥檔 byw ar eich pen eich hun, gallwch hawlio ar gyfer eiddo ag un ystafell wely. Gallwch ddefnyddio鈥檙 i ddod o hyd i鈥檙 gyfradd yn eich ardal.
Os ydych yn byw gyda phartner neu deulu
Os ydych yn byw gyda phartner neu os oes gennych blant, mae鈥檙 swm o arian a gewch yn seiliedig ar faint o ystafelloedd gwely sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich teulu.
Disgwylir i鈥檙 ganlynol rhannu ystafell wely:
- 聽cwpl sy鈥檔 oedolion
- 2 blentyn o dan 16 oed o鈥檙 un rhyw
- 2 blentyn dan 10 oed (waeth beth fo鈥檜 rhyw)
Gall y canlynol cael ystafell i鈥檞 hun:
- oedolyn sengl (16 oed neu鈥檔 h欧n)
- plentyn a fyddai fel arfer yn rhannu ond mae鈥檙 ystafelloedd gwely a rennir eisoes wedi鈥檜 cymryd, er enghraifft mae gennych 3 o blant ac mae 2 eisoes yn rhannu
- cwpl neu blant na allant rannu oherwydd anabledd neu gyflwr meddygol
- gofalwr dros nos i chi, eich partner, eich plentyn neu oedolyn arall - dim ond os nad yw鈥檙 gofalwr yn byw gyda chi ond weithiau mae鈥檔 rhaid iddo aros dros nos
Gallwch ddefnyddio鈥檙 i ddarganfod y gyfradd yn eich ardal.
Os ydych yn byw gyda rhywun sy鈥檔 21 oed neu鈥檔 h欧n ac nad ydynt yn bartner i chi
Mae鈥檙 swm o arian rydych yn ei gael ar gyfer chostau tai fel arfer yn cael ei leihau os ydych yn byw gyda rhywun sy鈥檔 21 oed neu鈥檔 h欧n ac nad ydynt yn bartner i chi.
Ni fydd eich taliad yn cael ei leihau os ydych yn un o鈥檙 canlynol:
- cael elfen gofal Lwfans Byw i鈥檙 Anabl (DLA) ar y gyfradd ganol neu uwch
- cael elfen bywyd bob dydd Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- cael Lwfans Gweini
- cael Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- wedi eich cofrestru鈥檔 ddall
Hefyd ni chaiff ei leihau os yw鈥檙 person 21 oed neu h欧n yn un o鈥檙 canlynol:
- cael Credyd Pensiwn
- cael elfen gofal Lwfans Byw i鈥檙 Anabl (DLA) ar y gyfradd ganol neu uwch
- cael elfen bywyd bob dydd Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- cael Lwfans Gweini
- cael Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- cael Lwfans Gofalwr
- cael Taliad Gymorth i Ofalwyr
- yn gyfrifol am blentyn o dan 5 oed
- yn aelod o鈥檙 lluoedd arfog i ffwrdd ar weithrediadau ac yn blentyn neu鈥檔 Llysblentyn i chi
- eich is-denant, lletywr neu breswylydd
- yn garcharor
Os ydych yn talu rhent ar 2 gartref
Gallwch hawlio rhent ar 2 gartref ar yr un pryd os yw鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol yn berthnasol:
- rydych wedi symud allan oherwydd ofn trais neu gamdriniaeth, rydych yn talu rhent yn rhywle arall, ac yn bwriadu dod yn 么l
- rydych wedi dechrau rhentu cartref newydd gydag aelod o鈥檙 teulu sy鈥檔 anabl ond nad yw wedi鈥檌 chael ei addasu i鈥檞 hanghenion eto
Os ydych ar ei h么l hi 芒鈥檆h rhent
Os ydych ar ei h么l hi 芒鈥檆h rhent, gallai鈥檙 arian rydych yn ei gael ar gyfer chostau tai gael ei anfon yn syth i鈥檆h landlord. Gelwir hyn yn drefniant talu amgen (APA).
Gallwch wneud cais am APA trwy鈥檆h anogwr gwaith. Gall eich landlord hefyd wneud y cais.
Gallwch wneud cais am daliadau ymlaen llaw neu daliadau caledi o鈥檆h prif daliad Credyd Cynhwysol.
Os nad yw鈥檙 arian rydych yn ei gael ar gyfer chostau tai yn cwmpasu eich holl rent
Ni fydd y swm ychwanegol o arian rydych yn ei gael ar gyfer chostau tai yn cwmpasu eich holl rent pob tro. Efallai bydd angen i chi dalu gweddill eich rhent o鈥檆h taliad Credyd Cynhwysol neu incwm arall.
Efallai gallwch gael help ychwanegol gan eich cyngor lleol gyda鈥檆h rhent a chostau tai eraill, er enghraifft blaendal rhent neu gostau symud. Gelwir hyn yn 鈥�Daliad Disgresiwn at Gostau Tai鈥�.
I wneud cais am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai, cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol
3. Rhentu gan yr awdurdod lleol neu'r gymdeithas dai
Os ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol gallwch gael help i dalu eich rhent a rhai taliadau gwasanaeth.
Rydych fel arfer yn cael y swm ychwanegol ar gyfer chostau tai yn eich taliad Credyd Cynhywsol ac mae鈥檔 rhaid i chi ei dalu i鈥檆h landlord.
Gallwch hefyd gael help 芒鈥檆h biliau o鈥檆h prif daliad Credyd Cynhwysol.
Os ydych yn byw mewn eiddo perchenogaeth ar y cyd, gallech gael Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI) hefyd.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael Gostyngiad Treth Cyngor.
Talu taliadau gwasanaeth
Gall Credyd Cynhwysol helpu i dalu am rhai taliadau gwasanaeth, gan gynnwys:
- defnyddio cyfleusterau a rennir, fel casglu sbwriel neu lifftiau cymunedol
- defnyddio eitemau hanfodol yn eich cartref, fel offer domestig
- glanhau ffenestri鈥檙 lloriau uchaf
Os ydych chi鈥檔 byw gyda rhywun sy鈥檔 21 oed neu鈥檔 h欧n ac nad ydynt yn bartner i chi
Bydd y swm o arian rydych yn ei gael ar gyfer chostau tai yn cael ei leihau os ydych yn byw gyda rhywun sy鈥檔 21 oed neu鈥檔 h欧n nad yw鈥檔 bartner i chi.
Ni fydd y swm yn cael ei leihau os ydych yn un o鈥檙 canlynol:
- cael elfen gofal Lwfans Byw i鈥檙 Anabl (DLA) ar y gyfradd ganolig neu uwch
- cael elfen bywyd bob dydd Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- cael Lwfans Gweini
- cael Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- wedi eich cofrestru鈥檔 ddall
Hefyd ni chaiff ei leihau os yw鈥檙 person 21 oed neu h欧n yn un o鈥檙 canlynol:
- cael Credyd Pensiwn
- cael elfen gofal Lwfans Byw i鈥檙 Anabl (DLA) ar y gyfradd ganolig neu uwch
- cael elfen bywyd bob dydd Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- cael Lwfans Gweini
- cael Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- cael Lwfans Gofalwr
- yn gyfrifol am blentyn o dan 5 oed
- yn aelod o鈥檙 lluoedd arfog i ffwrdd ar weithrediadau ac yn blentyn neu鈥檔 llysblentyn i chi
- eich is-denant, lletywr neu breswylydd
- yn garcharor
Os ydych yn talu rhent ar 2 gartref
Gallwch hawlio rhent ar 2 gartref ar yr un pryd os yw鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 ganlynol yn berthnasol:
- mae鈥檙 awdurdod tai wedi cartrefu eich teulu mewn 2 eiddo oherwydd bod eich teulu鈥檔 fawr
- rydych wedi symud allan oherwydd ofn trais neu gamdriniaeth, yn talu rhent yn rhywle arall, a鈥檔 bwriadu dod yn 么l
- rydych wedi dechrau rhentu cartref newydd gydag aelod o鈥檙 teulu sy鈥檔 anabl ond nad yw wedi鈥檌 gael ei addasu i鈥檞 hanghenion eto
Os oes gennych fwy o ystafelloedd nag sydd eu hangen ar eich cartref
Gellir lleihau鈥檙 swm o arian rydych yn ei gael ar gyfer chostau tai os oes gennych fwy o ystafelloedd nag sydd eu hangen arnoch. Gelwir hyn yn 鈥榗ael gwared ar y cymhorthdal ystafell sb芒r鈥�.
Bydd y swm yn cael ei leihau:
- gan 14% os oes gennych 1 ystafell wely sb芒r
- gan 25% os oes gennych 2 neu fwy o ystafelloedd gwely sb芒r
Os ydych ar ei h么l hi 芒鈥檆h rhent
Os ydych ar ei h么l hi 芒鈥檆h rhent, gallai鈥檙 arian a gewch ar gyfer chostau tai gael eu hanfon yn uniongyrchol i鈥檆h landlord. Gelwir hyn yn drefniant talu amgen (APA).
Gallwch wneud cais am APA trwy鈥檆h anogwr gwaith neu reolwr achosion. Gall eich landlord hefyd wneud y cais.
Os nad yw鈥檙 arian rydych yn ei gael ar gyfer chostau tai yn cwmpasu eich holl rent
Ni fydd y swm ychwanegol o arian rydych yn ei gael ar gyfer chostau tai yn cwmpasu eich holl rent pob tro. Efallai bydd angen i chi dalu gweddill eich rhent o鈥檆h taliad Credyd Cynhwysol neu incwm arall.
Efallai gallwch gael help ychwanegol gan eich cyngor lleol gyda鈥檆h rhent a chostau tai eraill, er enghraifft blaendal rhent neu gostau symud. Gelwir hyn yn 鈥�Daliad Disgresiwn at Gostau Tai鈥�.
I wneud cais am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai, cysylltwch 芒鈥檆h cyngor lleol
4. Byw mewn eiddo rydych yn berchen arno
Gallech gael taliad Credyd Cynhwysol i鈥檆h helpu i dalu am daliadau gwasanaeth os yw鈥檙 canlynol yn berthnasol:
- rydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol
- rydych chi neu鈥檆h partner yn berchen ar y cartref rydych yn byw ynddo (gan gynnwys os yw鈥檔 eiddo berchnogaeth ar y cyd
- os ydych yn byw mewn eiddo lesddaliadol
Mae taliadau gwasanaeth yn cynnwys:
- defnyddio cyfleusterau a rennir, fel casglu sbwriel neu lifftiau cymunedol
- glanhau ffenestri鈥檙 lloriau uchaf
- atgyweiriadau a cynnal a chadw
Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI)
Efallai y byddwch yn gallu cael Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI) os ydych wedi bod ar Gredyd Cynhwysol am 3 mis yn olynol.
Benthyciad yw SMI a all helpu tuag at daliadau llog ar:
- eich morgais
- benthyciadau rydych wedi鈥檜 cymryd ar gyfer rhai atgyweiriadau a gwelliannau i鈥檆h cartref
Os ydych yn gymwys i gael benthyciad SMI, gallwch gael help i dalu鈥檙 llog ar hyd at 拢200,000 o鈥檆h benthyciad neu鈥檆h morgais.
Mae鈥檙 swm a gewch yn seiliedig ar gyfradd llog sefydlog ar yr hyn sydd ar 么l o鈥檆h morgais. Fe鈥檌 telir yn syth i鈥檆h benthyciwr.
Bydd angen i chi ad-dalu鈥檆h benthyciad SMI 芒 llog pan fyddwch yn gwerthu neu鈥檔 trosglwyddo perchnogaeth eich cartref (oni bai eich bod yn symud y benthyciad i eiddo arall)
Help gyda chostau gwasanaeth
Efallai y gallwch gael help i dalu am eich t芒l gwasanaeth os ydych yn berchen ar eiddo lesddaliad ac wedi bod ar Gredyd Cynhwysol am 9 mis.
Ni allwch gael help gyda thaliadau gwasanaeth os ydych yn cael incwm gan:
- eich swydd os ydych yn gyflogedig neu鈥檔 hunangyflogedig
- ad-daliad treth
- T芒l Salwch Statudol
- T芒l Mamolaeth Statudol
- T芒l Tadolaeth Statudol
- T芒l Mabwysiadu Statudol
- T芒l Rhiant a Rennir Statudol
5. Sut i wneud cais
Os ydych eisoes yn cael Credyd Cynhwysol, gwnewch gais am gymorth gyda chostau tai yn eich cyfrif ar-lein.
Os ydych yn newydd i Gredyd Cynhwysol, gwnewch gais am Gredyd Cynhwysol.
Gallwch gael help i wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch a gallu gwirio鈥檆h hunaniaeth ar-lein.
Os nad oes gennych gyfeiriad parhaol
Gallwch ddefnyddio cyfeiriad:
- hostel lle rydych yn aros
- aelod o鈥檙 teulu neu ffrind
Gallwch ddefnyddio cyfeiriad y Ganolfan Gwaith lleol os nad oes gennych unrhyw gyfeiriad arall y gallwch ei ddefnyddio.
Os nad oes gennych gyfrif banc
Os na allwch agor cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd, ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol neu ewch i Ganolfan Byd Gwaith i ofyn am ffyrdd eraill i gael eich talu.
Ar 么l i chi wneud cais
Os ydych yn rhentu
Anfonir ffurflen dilysu costau tai (HCV) at eich landlord. Unwaith y byddant wedi ei gwblhau a鈥檌 anfon yn 么l, bydd yn cael ei wirio yn erbyn eich cais a鈥檌 lanlwytho i鈥檆h cyfrif ar-lein.
Mynychu cyfweliad
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd rhaid i chi fynd i gyfweliad yn eich Canolfan Byd Gwaith leol. Fel arfer bydd hyn o fewn 7 diwrnod.
Fe ddywedir wrthych a oes angen i chi wneud apwyntiad a pha ddogfennau i fynd 芒 hwy. Efallai y gofynnir i chi ddod 芒 thystiolaeth, er enghraifft:
- cytundeb tenantiaeth cyfredol, datganiad rhent neu lyfr rhent
- llythyr wedi鈥檌 lofnodi gan eich landlord (sy鈥檔 dweud eich bod yn byw yno, yn talu rhent ac yn byw yno yn gyfreithlon)
- manylion am daliadau gwasanaeth rydych yn gyfrifol amdanynt
- cytundeb morgais cyfredol, datganiad morgais neu ddatganiad banc sy鈥檔 dangos taliadau morgais
- manylion unrhyw gytundebau benthyciad a sicrhawyd ar eich eiddo
Byddwch yn cael eich penodi i anogwr gwaith yn y cyfweliad. Dywedwch wrth eich anogwr gwaith am unrhyw faterion sy鈥檔 effeithio arnoch, er enghraifft os ydych yn ddigartref, neu os oes gennych ddibyniaeth neu broblem iechyd meddwl. Efallai y cewch help a chymorth ychwanegol.
Os ydych wedi symud o Fudd-dal Tai
Bydd eich Budd-dal Tai yn parhau am 2 wythnos ar 么l i鈥檆h cais am Gredyd Cynhwysol gael ei gymeradwyo. Bydd yn cael ei dalu yn syth i chi. Bydd angen i chi dalu rhent i鈥檆h landlord.
Pan gymeradwyir eich cais Credyd Cynhwysol, gofynnir i chi a ydych am i鈥檙 arian ar gyfer chostau tai cael ei dalu鈥檔 syth i鈥檆h landlord 鈥� er enghraifft os ydych mewn 么l-ddyledion. Bydd eich landlord yn cael ei hysbysu os dewiswch hyn.
Nid oes angen i chi ddweud wrth eich awdurdod lleol eich bod yn symud i Gredyd Cynhwysol.
Gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw os ydych angen talu eich costau tra byddwch yn aros.
Ar 么l i chi wneud cais
Fe gewch amcangyfrif o鈥檆h dyddiad talu yn eich cyfrif ar-lein o fewn 3 wythnos o wneud cais.
Gallwch ofyn cwestiynau am eich cais yn eich dyddlyfr ar-lein.