Cofrestru ar gyfer TAW
Printable version
1. Pryd i gofrestru ar gyfer TAW
Mae’n rhaid i chi gofrestru os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
-
roedd cyfanswm eich trosiant trethadwy ar gyfer y 12 mis diwethaf dros £90,000 (y trothwy TAW)
-
rydych yn disgwyl i’ch trosiant trethadwy fynd dros £90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae’n rhaid i chi hefyd gofrestru (ni waeth beth fo’r trosiant trethadwy) os yw pob un o’r canlynol yn wir:
-
rydych wedi’ch lleoli y tu allan ¾±â€™r DU
-
mae’ch busnes wedi’i leoli y tu allan ¾±â€™r DU
-
rydych yn cyflenwi unrhyw nwyddau neu wasanaethau ¾±â€™r DU (neu rydych yn disgwyl gwneud hynny yn ystod y 30 diwrnod nesaf)
Os nad ydych yn sicr a yw hyn yn berthnasol i chi, darllenwch yr arweiniad ar bersonau sy’n agored i TAW ond sydd heb eu sefydlu yn y DU (NETPs) - gwybodaeth sylfaenol (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch ddewis cofrestru ar gyfer TAW os yw’ch trosiant yn llai na £90,000 (‘cofrestriad gwirfoddol�).
Mae’n rhaid i chi daluÌýunrhywÌýTAWÌýsydd arnoch i Gyllid a Thollau EF (CThEF) o’r dyddiad y mae’n eich cofrestru.
Nid oes rhaid i chi gofrestru os ydych ond yn gwerthu nwyddau a gwasanaethau sydd wedi’u heithrio rhag TAW neu sydd ‘y tu allan i gwmpas� TAW.
Os ydych yn rhedeg ysgol breifat, dysgwch a oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW.
Cyfrifo’ch trosiant
Trosiant trethadwy yw cyfanswm gwerth yr holl bethau rydych yn eu gwerthu nad ydynt yn nwyddau a gwasanaethau sydd wedi’u heithrio rhag TAW nac yn rhai sydd ‘y tu allan i gwmpas� TAW.
Mae hefyd yn cynnwys:Ìý
-
nwyddau cyfradd seroÌý
-
nwyddau cyfradd isÌý
-
nwyddau cyfradd safonolÌý
-
nwyddau a logwyd neu a roddwyd ar fenthyg gennych i gwsmeriaidÌý
-
nwyddau busnes a ddefnyddiwyd at ddibenion personol Ìý
-
nwyddau y gwnaethoch eu ffeirio, eu rhan-gyfnewid (yn agor tudalen Saesneg) neu eu rhoi yn rhoddÌý
-
gwasanaethau rydych wedi’u cael gan fusnesau mewn gwledydd eraill yr oedd rhaid i chi ddefnyddio’r ‘tâl gwrthdroâ€� arnynt (yn agor tudalen Saesneg)ÌýÌý
-
nwyddau a gwasanaethau sy’n destun ‘tâl gwrthdro domestigâ€� (yn agor tudalen Saesneg)Ìý
-
gwaith adeiladu dros £100,000 (yn agor tudalen Saesneg) a wnaeth eich busnes drosto’i hun
Os aethoch y tu hwnt ¾±â€™r trothwy yn ystod y 12 mis diwethaf
Mae’n rhaid i chi gofrestru os oedd cyfanswm eich trosiant trethadwy ar gyfer y 12 mis diwethaf dros £90,000.
Mae’n rhaid i chi gofrestru cyn pen 30 diwrnod i ddiwedd y mis yr aethoch dros y trothwy. Y dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym yw diwrnod cyntaf yr ail fis ar ôl i chi fynd dros y trothwy.
Enghraifft
Ar 15 Gorffennaf, cyfanswm eich trosiant trethadwy am y 12 mis diwethaf yw £100,000. Dyn²¹â€™r tro cyntaf iddo fynd dros y trothwy TAW. Mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn 30 Awst. 1 Medi yw’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym.
Os ydych yn mynd i fynd y tu hwnt ¾±â€™r trothwy yn ystod y 30 diwrnod nesaf
Mae’n rhaid i chi gofrestru os sylweddolwch fod cyfanswm eich trosiant trethadwy yn mynd i fynd dros y trothwy £90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf.Ìý
Mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn diwedd y cyfnod 30 diwrnod hwnnw. Mae’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym yn cyfateb ¾±â€™r dyddiad y gwnaethoch sylweddoli, nid y dyddiad yr aeth eich trosiant dros y trothwy.
Enghraifft
Ar 1 Mai, rydych yn trefnu contract gwerth £100,000 i ddarparu gwasanaethau. Cewch eich talu ar ddiwedd mis Mai. Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch cais i gofrestru ar gyfer TAW erbyn 30 Mai. 1 Mai yw’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym.
Os ydych wedi’ch lleoli yng Ngogledd Iwerddon ac yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau sydd wedi’u heithrio rhag TAW
Bydd yn rhaid i chi gofrestru os ydych dim ond yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau sydd wedi’u heithrio rhag TAW neu sydd ‘y tu allan i gwmpasâ€� TAW,Ìýond eich bod yn prynu nwyddau am fwy na £90,000 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, gan , i’w defnyddio yn eich busnes.
Os ydych yn cymryd drosodd fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW
Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW os yw trosiant trethadwy cyfunol y busnes newydd a’ch busnes presennol dros y trothwy.
Cofrestru’n hwyr
Os ydych yn cofrestru’n hwyr, mae’n rhaid i chi dalu TAW ar unrhyw werthiannau rydych wedi’u gwneud ers y dyddiad y dylech fod wedi’ch cofrestru.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb, yn dibynnu ar faint sydd arnoch a pha mor hwyr yw’ch cofrestriad.
Os byddwch yn mynd dros y trothwy dros dro
Gallwch wneud cais am ‘eithriad� rhag cofrestru os bydd eich trosiant trethadwy yn mynd dros y trothwy dros dro.
Cysylltwch â CThEF i ofyn am y ffurflen gofrestru VAT1. Bydd angen i chi roi tystiolaeth sy’n dangos pam eich bod o’r farn na fydd eich trosiant trethadwy yn mynd dros y trothwy datgofrestru o £88,000 yn y 12 mis nesaf.
Bydd CThEFÌýyn ystyried eich eithriad ac yn rhoi gwybod i chi’n ysgrifenedig os byddwch yn cael un. Os na fyddwch yn cael eithriad, bydd CThEF yn eich cofrestru ar gyferÌýTAW.
Eithriad rhag cofrestru
Os oes gan y rhan fwyaf o’ch nwyddau neu wasanaethau trethadwy gyfradd TAW o 0% (cyflenwadau cyfradd sero), mae’n bosibl na fydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW. Bydd angen i chi ofyn i CThEF am ganiatâd - gelwir hyn yn eithriad rhag cofrestru.
Os ydych chi’n berson sy’n agored i TAW ond sydd heb ei sefydlu yn y DU, mae’n rhaid i’ch holl nwyddau neu wasanaethau trethadwy fod yn gyfradd sero er mwyn bod yn gymwys i gael eich eithrio rhag cofrestru.
Gallwch wneud cais am eithriad rhag cofrestru naill ai:Ìý
-
ar-lein, gan ddefnyddio’r gwasanaeth cofrestru ar gyfer TAW ar-lein
-
»å°ù·É²â’r post, gan gysylltu â CThEF i ofyn am y ffurflen gofrestru VAT1
Os ydych yn gwaredu asedion ac wedi hawlio ad-daliad TAW arnynt, bydd angen i chi lenwi ffurflen VAT1C ²¹â€™r ffurflen gofrestru VAT1.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi a yw eich cais am eithriad wedi’i gymeradwyo. Os gwrthodir eich cais, bydd CThEF yn eich cofrestru ar gyfer TAW.
2. Sut i gofrestru ar gyfer TAW
Fel arfer, gallwch gofrestru ar gyfer TAW ar-lein.
Gallwch ddechrau codi TAW ar eich gwerthiannau ac adhawlio TAW ar eitemau rydych wedi prynu o’r ‘dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym�.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch i gofrestru ar gyfer TAW
Mae’r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i gofrestru ar gyfer TAW yn dibynnu ar y math o fusnes sydd gennych.
Cofrestru cwmni cyfyngedig
Bydd angen y canlynol arnoch:
- rhif cofrestru eich cwmni
- manylion cyfrif banc eich busnes
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
- manylion eich trosiant blynyddol
Bydd hefyd angen gwybodaeth ynghylch y canlynol arnoch:
- eich Hunanasesiad
- eich Treth Gorfforaeth
- Talu Wrth Ennill (TWE)
Cofrestru fel unigolyn neu fel partneriaeth
Bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- dogfen adnabod, fel pasbort neu drwydded yrru
- manylion eich cyfrif banc
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), os oes un gennych
- manylion eich trosiant blynyddol
Bydd hefyd angen gwybodaeth ynghylch y canlynol arnoch:
- eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad
- slipiau cyflog
- P60
Cofrestru ar gyfer TAW ar-lein
Mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch er mwyn cofrestru ar gyfer TAW. Os nad oes gennych ID Defnyddiwr eisoes, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.
Nid oes rhaid i chi gwblhau’ch cofrestriad cyfan ar un tro. Gallwch gadw’ch cofnod a mynd yn ôl ato’n nes ymlaen os oes angen.
Bydd angen i chi lenwi ffurflenni ychwanegol yn ystod eich cofrestriad ar-lein, yn dibynnu ar y math o fusnes sydd gennych.
Pan na allwch gofrestru ar-lein
Mae’n rhaid i chi gofrestru »å°ù·É²â’r post gan ddefnyddio ffurflen VAT1:
- os ydych am wneud cais am �eithriad rhag cofrestru� oherwydd bod eich trosiant trethadwy wedi mynd dros y trothwy dros dro
- os ydych yn ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf Amaethyddol (yn agor tudalen Saesneg)
- os ydych yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy’n cofrestru fel aelod cynrychiadol o grŵp TAW
- os ydych yn cofrestru adrannau neu unedau busnes corff corfforaethol o dan rifau cofrestru TAW gwahanol
- os ydych yn gwneud cais i gofrestru partneriaeth tramor
- os ydych yn awdurdod lleol, yn gyngor plwyf neu’n gyngor dosbarth
- os ydych yn ymarferwr ansolfedd sy’n gwneud cais i gofrestru busnes
Defnyddio asiant
Gallwch benodi cyfrifydd (neu asiant) i gyflwyno’ch Ffurflenni TAW a delio â CThEF ar eich rhan.
Os ydych yn defnyddio asiant, byddwch yn dal i allu pan fyddwch yn cael eich rhif TAW.
Ar ôl i chi gofrestru
Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer TAW byddwch yn cael y canlynol:
- rhif cofrestru TAW 9 digid y mae’n rhaid i chi ei gynnwys ar bob anfoneb a godwch
- gwybodaeth am sut i drefnu’ch cyfrif treth busnes (os nad oes gennych un eisoes) â€� bydd angen hyn arnoch i gael mynediad ¾±â€™r gwasanaeth TAW ar-lein
- gwybodaeth ynghylch pryd y bydd angen i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW gyntaf a’ch taliad cyntaf
- cadarnhad o’ch dyddiad cofrestru (enw arall am hyn yw ‘dyddiad y daw’r cofrestriad i rym�)
Byddwch yn cael yr wybodaeth hon »å°ù·É²â’r post.
Bydd CThEF yn cofrestru’ch busnes ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW, oni bai bod eich busnes wedi’i eithrio neu’ch bod chi wedi gwneud cais ar gyfer esemptiad (yn agor tudalen Saesneg).
Cofrestru ar gyfer cyfrif TAW ar-lein
Unwaith i chi gael eich rhif cofrestru TAW, bydd yn rhaid i chi .
-
Mewngofnodwch i Borth y Llywodraeth.
-
Dewiswch ‘Ychwanegu treth, toll neu gynllun nawr�.
-
Dewiswch �TAW a Gwasanaethau TAW�.
-
Dewiswch o’r rhestr o wasanaethau.
Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer TAW a’ch bod yn aros i glywed yn ôl am hynny, gwiriwch pryd y gallwch ddisgwyl ateb.
Rhoi cyfrif am TAW tra byddwch yn aros am eich rhif cofrestru TAW
Ni allwch gynnwys TAW ar eich anfonebau hyd nes eich bod yn cael eich rhif cofrestru TAW, ond gallwch godi’ch prisiau yn y cyfamser i roi cyfrif am y TAW y bydd angen i chi ei thalu i CThEF.
Enghraifft
Ar 1 Mai, rydych yn trefnu contract gwerth £100,000 i ddarparu gwasanaethau i gwsmer newydd. Rydych yn cofrestru ar gyfer TAW gan eich bod yn gwybod y byddwch yn mynd dros y trothwy yn ystod y 30 diwrnod nesaf.
1 Mai yw’r dyddiad y daw’ch cofrestriad i rym. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi dalu TAW i CThEF ar unrhyw anfonebau a godwch o’r dyddiad hwnnw.
I roi cyfrif am y TAW y bydd angen i chi ei thalu, rhowch wybod i’ch cwsmer y byddwch yn ychwanegu 20% at swm gwreiddiol y contract o £100,000 ac yna codwch anfoneb am £120,000.
Ar ôl i chi gael eich rhif cofrestru TAW, ailanfonwch yr anfoneb gan ddangos y swm llawn gan gynnwys y TAW o £20,000. Nid oes angen i’ch cwsmer wneud taliad ychwanegol ond mae bellach yn gallu adhawlio’r £20,000 ychwanegol oddi wrth CThEF ar ei Ffurflen TAW nesaf.
3. Newid eich manylion
Mae’n rhaid i chi gadw’ch manylion cofrestruÌýTAWÌýyn gyfredol. Mae rhai newidiadau’n golygu bod yn rhaid i chi ganslo’ch cofrestriad TAW neu drosglwyddo’ch cofrestriad TAW.
Rhowch wybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) cyn pen 30 diwrnod os bydd unrhyw newidiadau ¾±â€™r canlynol:
- enw, enw masnachu neu brif gyfeiriad eich busnes
- y cyfrifydd neu’r asiant sy’n delio â’ch TAW
- aelodau partneriaeth, neu enw neu gyfeiriad cartref unrhyw un o’r partneriaid
Efallai y bydd yn rhaid i chiÌýdalu cosbÌýos na rowch wybod i CThEF am newidiadau cyn pen 30 diwrnod.
Diweddaru manylion yn eich cyfrif ar-lein
Defnyddiwch eich cyfrif ar-lein i ddiweddaru’r canlynol:
- eich enw a chyfeiriad cyswllt
- eich manylion banc ar gyfer ad-daliadau
- dyddiadau cau ar gyfer Ffurflenni TAW (oni bai bod gennych gyfnod treth ansafonol)
- aelodau partneriaeth
Mewngofnodi i’ch cyfrif TAW ar-lein.
Os na allwch ddefnyddio’r cyfrif ar-lein
Cysylltwch â CThEF i roi gwybod am y newid.
Newid manylion partner mewn partneriaeth
Mae’n rhaid i chi anfon ffurflen VAT2 ¾±â€™r Gwasanaeth Cofrestru TAW er mwyn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i fanylion partner megis enw neu gyfeiriad.
Newid enw’ch cwmni
Os yw enw eich cwmni’n newid, mae pwy sydd angen i chi roi gwybod iddo yn gallu amrywio. Mae’n dibynnu a oes gennych Rif Cofrestru’r Cwmni (CRN) neu a ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Os oes gennych CRN, rhowch wybod i Dŷ’r Cwmnïau.ÌýBydd Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi gwybod i CThEF.
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad, rhowch wybod i Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Bydd eich cyfrif treth busnes yn dangos enw newydd y cwmni cyn pen 15 diwrnod.
Os ydych dramor, cysylltwch â CThEF i ddiweddaru enw eich cwmni.
Newid eich manylion banc
Mae’n rhaid i chi roi gwybod iÌýCThEFÌýo leiaf 14 diwrnod ymlaen llaw os ydych yn newid eich manylion banc.
Os ydych yn talu’ch TAW drwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd angen i chi roi gwybod i’ch banc hefyd. Peidiwch â gwneud hyn yn y 5 diwrnod banc cyn neu ar ôl dyddiad dyledus eich Ffurflen TAW - gallai olygu y byddwch yn talu ddwywaith.
Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol (yn agor tudalen Saesneg), mae’n rhaid i chi ysgrifennu at yr Uned Gofrestru ar gyfer Cyfrifyddu Blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn newid manylion eich Debyd Uniongyrchol. Cofiwch gynnwys eich rhif cofrestru.
Os byddwch yn cymryd cyfrifoldebau TAW rhywun arall drosodd
Mae’n rhaid i chi roi gwybod iÌýCThEFÌýcyn pen 21 diwrnod os byddwch yn cymryd drosodd gyfrifoldebauÌýTAWÌýrhywun sydd wedi marw neu sy’n sâl ac nad yw’n gallu rheoli ei faterion ei hun.Ìý
I roi gwybod i CThEF, bydd angen i chi wneud y ddau beth canlynol:
- cofrestru ar gyfer TAW ar-leinÌý
- llenwi a phostio ffurflen VAT68 - dylech gynnwys manylion dyddiad y farwolaeth neu’r dyddiad y dechreuodd y salwch
Os ydych yn rhoi gwybod am salwch, mae angen i chi gynnwys copi o’r Pŵer Atwrnai gyda ffurflen VAT68.
Os ydych yn ymarferydd ansolfedd
Os ydych yn ymarferydd ansolfedd gweithredol ac am newid manylion cofrestru TAW, mae’n rhaid i chi gysylltu â CThEF.
Os byddwch yn ymuno â grŵp TAW
Os ydych yn ymuno â grŵp TAW, mae’n rhaid ¾±â€™r grŵp lenwi ffurflen VAT50-51. Bydd angen i chi ddefnyddio rhif cofrestru TAW y grŵp unwaith y byddwch wedi ymuno ag ef. Dyla¾±â€™r grŵp TAW roi gwybod i CThEF am yr aelod newydd.
4. Canslo’ch cofrestriad
Mae’n rhaid i chi ganslo’ch cofrestriad os nad ydych bellach yn gymwys i fod wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW. Er enghraifft:
-
rydych yn rho¾±â€™r gorau i fasnachu neu’n rho¾±â€™r gorau i wneud cyflenwadau sy’n agored i TAW
-
rydych yn ymuno â grŵp TAW
Mae’n rhaid i chi ganslo cyn pen 30 diwrnod os nad ydych yn gymwys mwyach, neu gallech wynebu cosb.
Os yw’ch trosiant trethadwy yn mynd o dan £88,000, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ganslo’ch cofrestriad, oni bai bod pob un o’r canlynol yn wir:
-
rydych chi a’ch busnes wedi’ch lleoli y tu allan ¾±â€™r DU
-
rydych yn cyflenwi unrhyw nwyddau neu wasanaethau ¾±â€™r DU (neu rydych yn disgwyl gwneud hynny yn ystod y 30 diwrnod nesaf)
Os oes gennych rif EORI
Bydd CThEF yn canslo’ch Rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EORI) yn awtomatig ac ar yr un pryd yn canslo’ch cofrestriad TAW.
Pryd nad oes yn angen i chi ganslo
Does dim angen i chi ganslo’ch cofrestriad TAW os yw’r canlynol yn wir:
-
rydych yn newid statws cyfreithiol y busnes, neu’n ei werthu, a’ch bod am gadw’r un rhif cofrestru TAW (dylech drosglwyddo’ch cofrestriad)
-
mae cwmni unigol mewn grŵp TAW yn cau i lawr (rhaid i chi lenwi ffurflen VAT50-51 i newid eich grŵp TAW)
-
rydych yn ymuno â grŵp TAW (rhaid i chi lenwi ffurflen VAT50-51)
-
rydych yn creu grŵp TAW newydd (rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW a llenwi ffurflen VAT50-51)
Canslo ar-lein
Gallwch ganslo’ch cofrestriadÌýTAWÌýar-lein os yw’r canlynol yn wir:
-
rydych wedi rho¾±â€™r gorau i fasnachu ac nid ydych yn rhan o grŵp TAW
-
mae’ch trosiant trethadwy yn is na £88,000
-
rydych wedi rho¾±â€™r gorau i wneud nwyddau neu wasanaethau sy’n agored i TAW
-
rydych yn gwneud cais am eithriad os yw’r rhan fwyaf o’r hyn rydych yn ei werthu, neu’r cyfan, ar gyfradd sero TAW
I ganslo’ch cofrestriad TAW ar-lein, bydd angen eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch.
Pryd na allwch ganslo ar-lein
Mae’n rhaid i chi ganslo »å°ù·É²â’r post os yw’r canlynol yn wir:
-
mae’ch statws cyfreithiol wedi newid a’ch bod am gael rhif cofrestru TAW newydd
-
rydych wedi gwerthu’ch busnes ac nid yw’r perchennog yn cadw’r rhif cofrestru TAW
-
mae’ch grŵp TAW yn cau (‘diddymu�) - bydd hefyd angen i chi lenwi ffurflen VAT50-51 ac anfon y ddwy ffurflen gyda’i gilydd at CThEF
-
stopiodd eich busnes fasnachu ar ôl diddymiad
.
Bydd angen i chi lenw¾±â€™r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol.
Argraffwch eich ffurflen VAT7 wedi’i llenwi, a’i hanfon - ynghyd ag unrhyw ffurflenni eraill sydd wedi’u llenwi - at CThEF. Mae’r cyfeiriad y dylid anfon y VAT7 iddo yn y ffurflen.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Fel arfer, mae’n cymryd 3 wythnos i CThEFÌýgadarnhau bod eich cofrestriad wedi’i ganslo ac i gadarnhau’ch dyddiad canslo swyddogol. Dyma naill a¾±â€™r dyddiad pan ddaeth y rheswm dros ganslo’ch cofrestriad i rym (er enghraifft, pan wnaethoch ro¾±â€™r gorau i fasnachu), neu’r dyddiad pan wnaethoch ofyn am gael canslo.
Bydd CThEFÌýyn anfon cadarnhad i’ch neu »å°ù·É²â’r post os na fyddwch yn gwneud cais ar-lein.
Mae’n rhaid i chi ro¾±â€™r gorau i godi TAW o’r dyddiad canslo ymlaen. Bydd angen i chi gadw’r holl gofnodion TAW am 6 blynedd.
Bydd CThEF yn eich ailgofrestru’n awtomatig os bydd yn sylweddoli na ddylech fod wedi canslo. Bydd yn rhaid i chi roi cyfrif am unrhywÌýTAWÌýy dylech fod wedi’i thalu yn y cyfamser.
TAW ar ôl i chi ganslo
Bydd yn rhaid i chi gyflwynoÌýFfurflen TAW derfynolÌýar gyfer y cyfnod hyd at a chan gynnwys y dyddiad canslo.
Mae’n rhaid i chi roi cyfrif am unrhyw stoc ac asedion eraill sydd gennych ar y dyddiad hwn os yw’r ddau beth canlynol yn wir:
-
gwnaethoch adhawlio TAW pan brynoch yr asedion, neu gallech fod wedi’i adhawlio
-
mae cyfanswm y TAW sy’n ddyledus ar yr asedion hyn dros £1,000
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW derfynol cyn pen mis ¾±â€™r dyddiad canslo, oni bai eich bod yn rhan o’r Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn rhan o’r Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod, cyflwynwch eich Ffurflen TAW derfynol cyn pen 2 fis ¾±â€™r dyddiad canslo.
Peidiwch ag aros hyd nes i chi gael eich holl anfonebau cyn cyflwyno’ch Ffurflen TAW derfynol. Pan fyddwch yn eu cael, byddwch yn dal i allu adhawlio TAW.
5. Trosglwyddo’ch cofrestriad
Gallwch drosglwyddo rhif cofrestru TAW os oes newid mewn perchnogaeth busnes neu statws cyfreithiol.
Er enghraifft:
-
os byddwch yn cymryd busnes drosodd a’ch bod am barhau i ddefnyddio’i rifÌýcofrestru TAW
-
os bydd eich busnes yn newid o fod yn bartneriaeth i fod yn unig fasnachwr
Mae hyn yn golygu y bydd y busnes yn cadw’r un rhif cofrestru TAW.
Gwneud cais am drosglwyddiad
Newid statws cyfreithiol eich busnes
I drosglwyddo’ch rhif cofrestru TAW pan fydd statws cyfreithiol eich busnes yn newid (a elwir hefyd yn ‘newid endid cyfreithiol�):
-
argraffwch, llenwch a phostiwch ffurflen VAT68 i Gyllid a Thollau EF (CThEF)
Gallwch wirio cynnydd eich cais.
Prynu busnes
I drosglwyddo’r rhif cofrestru TAW:
-
mae’n rhaid i chi a’ch gwerthwr gwblhau ffurflen VAT68 - argraffu, llenwi a phostio’r ffurflen i CThEF
Bydd CThEF yn trin y ffurflen VAT68 fel y gwerthwr yn canslo ac yn trosglwyddo i chi. Nid oes angen i chi lenwi ffurflen VAT7.
Gallwch wirio cynnydd eich cais.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Os ydych yn gwerthu’ch busnes:
-
canslwch fynediad eich cyfrifydd at eich cyfrif TAW ar-lein - er enghraifft, os gwnaethoch ei awdurdodi i ddelio â’ch TAW
-
canslwch unrhyw Ddebydau Uniongyrchol ar eich cyfrif TAW ar-lein
Hefyd, mae’n rhaid i chi roi’ch cofnodion ¾±â€™r prynwr os ydych yn pasio’ch rhif TAW ymlaen.
Os ydych yn prynu busnes:
-
cysylltwch â CThEF cyn pen 21 diwrnod ¾±â€™r cais i drosglwyddo os ydych am gadw cyfrifydd y gwerthwr
-
newidiwch unrhyw drefniadau hunan-filio (yn agor tudalen Saesneg) am rai newydd
-
trefnwch Ddebydau Uniongyrchol newydd ar eich cyfrif TAW ar-lein
Os yw’n well gennych gael rhif TAW newyddÌý
Os ydych am gael rhif TAW newydd yn hytrach na chadw’r un presennol, mae angen i chi ganslo’r cofrestriad TAW presennol a chofrestru ar gyfer TAW.
6. Cofrestru ar gyfer TAW yng ngwledydd yr UE
Mae’r hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu a ydych yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau ac o ble rydych yn gwerthu.
Os ydych yn gwerthu nwyddau o Ogledd Iwerddon ¾±â€™r UE
Os ydych wedi gwerthu dros gyfanswm o £8,818 mewn nwyddau i gwsmeriaid yn yr UE (y ‘trothwy ar gyfer gwerthu o bell�), mae’n rhaid i chi dalu TAW yn y gwledydd y mae’r nwyddau’n cael eu hanfon iddynt.
Dylech gofrestru ar gyfer TAW naill ai:
-
»å°ù·É²â’r cynllun undeb y Gwasanaeth Un Cam (GUC) ar gyfer TAW (yn agor tudalen Saesneg)
-
ym mhob gwlad lle rydych yn cyflenwi nwyddau
Os ydych yn gwerthu nwyddau o’r DU ¾±â€™r UE
Fel arfer nid oes angen i chi godi TAW ar nwyddau rydych yn eu gwerthu i unrhyw gwsmeriaid y tu allan ¾±â€™r DU. Dim ond gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) y mae angen i chi fod wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW. Gallwch godi TAW ar gyfradd sero am y gwerthiannau hyn.
Dysgwch ragor am godi TAW ar nwyddau rydych yn eu hallforio (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn cyflenwi gwasanaethau o’r DU ¾±â€™r UE
Os ydych yn cyflenwi gwasanaethau o’r DU i gwsmeriaid yn yr UE, gallwch gofrestru ar gyfer cynllun di-undeb y GUC TAW.
Dysgwch ragor am gynllun di-undeb y ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.
Dysgwch beth i wneud os ydych yn cyflenwi gwasanaethau digidol i gwsmeriaid yn yr UE (yn agor tudalen Saesneg).
7. Gwerthu neu symud nwyddau rhwng Gogledd Iwerddon ²¹â€™r UE
Mae angen rhif cofrestru TAW arnoch sy’n dechrau gydag XI i fasnachu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon.
Rydych yn gymwys i weithredu o dan delerau Protocol Gogledd Iwerddon os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
-
mae’ch nwyddau wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon ar adeg eu gwerthu
-
rydych yn cael nwyddau yng Ngogledd Iwerddon gan fusnesau yn yr UE sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW at ddibenion busnes
-
rydych yn gwerthu neu’n symud nwyddau o Ogledd Iwerddon i wlad yn yr UE
fel masnachu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon.
Bydd rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) yn ei helpu i nodi eich bod yn masnachu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon. Bydd hyn yn golygu’r canlynol:
-
gallwch ddefnyddio symleiddiadau TAW wrth i chi fasnachu â’r UE
-
gall eich cyflenwyr godi tâl ar nwyddau y maent yn eu hanfon atoch o’r UE ar gyfradd sero
-
gall eich masnach â’r UE gael ei rhestru o hyd fel ‘caffaeliadau ac anfoniadau� ar eich Ffurflen TAW
Rhoi gwybod i CThEF eich bod yn gymwys
.
Bydd angen y canlynol arnoch:
-
y Dynodydd Defnyddiwr (ID) ²¹â€™r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru ar gyfer TAW
-
eich rhif cofrestru TAW
-
enw’ch busnes
Ar ôl i chi roi gwybod i CThEF
Cewch e-bost gan CThEF i gadarnhau eich bod wedi cael eich cofnodi fel un sy’n gweithredu o dan Brotocol Gogledd Iwerddon.
Ar ôl i chi gael yr e-bost, bydd angen i chi ddechrau defnyddio’r rhagddodiad XI cyn eich rhif cofrestru TAW arferol - er enghraifft, XI 123456789 yn lle GB 123456789.
Defnyddio’ch rhif cofrestru TAW XI
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’ch rhif cofrestru TAW XI ar bob dogfen wrth gyfathrebu â chwsmeriaid neu gyflenwyr yn yr UE (er enghraifft, ar anfonebau).
Os ydych yn gwerthu nwyddau o Ogledd Iwerddon i gwsmeriaid sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn yr UE, cwblhewch Restr Gwerthiannau yn y GE (yn agor tudalen Saesneg).
Os na fyddwch yn rhoi gwybod i CThEF neu’n defnyddio rhif cofrestru TAW XI, gallai olygu eich bod yn talu neu’n cod¾±â€™r TAW anghywir ar nwyddau.
Os ydych wedi rho¾±â€™r gorau i werthu neu symud nwyddau yng Ngogledd Iwerddon
.
Mae’n rhaid i chi gwblhau unrhyw rwymedigaethau sydd gennych ar gyfer y cynlluniau canlynol cyn i chi ddirymu’ch statws masnachwr yng Ngogledd Iwerddon:
-
Ffurflenni Treth cynllun undeb y Gwasanaeth Un Cam (GUC) ar gyfer TAW
-
rhestr gwerthiannau yn y GE
-
ad-daliadau TAW yr UE
Ni fyddwch yn gallu cwblhau unrhyw rwymedigaethau ar gyfer y cynlluniau hyn unwaith y byddwch wedi rhoi gwybod i CThEF eich bod yn dymuno dirymu’ch statws.