Codi, adennill a chofnodi TAW
TAW ar ostyngiadau neu roddion
Mae gwahanol reolau ar gyfer codiÌýTAWÌýar ostyngiadau, rhoddion a gwasanaethau sy’n rhad ac am ddim.
°ä´Ç»å¾±ÌýTAWÌýar ostyngiadau
Pan ddaw i ostyngiadau sylfaenol (er enghraifft, gostyngiad o 20%) codwchÌýTAWÌýar y pris gostyngol.
Cynigion amleitem
Cynigion amleitem yw pan fo’r cwsmer yn cael gostyngiad am brynu rhagor o eitemau, er enghraifft 3 eitem am £20.
Ar gyfer cynigion amleitem lle mae pob eitem â’r un gyfraddÌýTAWÌý(fel arfer y gyfradd safonol), codwchÌýTAWÌýar y pris cyfunol.
Os oes gan yr eitemau yn y cynnig gyfraddau gwahanol oÌýTAW, mae angen i chi ddefnyddio dull o’r enw ‘dosrannuâ€�.
Darllenwch adran 8 o’r arweiniad ar reolau a gweithdrefnauÌýTAWÌýi weld sut mae dosrannu’n gweithio (yn agor tudalen Saesneg).
Cynigion drwy arbedion-cyswllt
Cynigion drwy arbedion-cyswllt yw pan fo’r cwsmer yn cael ail eitem am bris gostyngol (neu am ddim) gyda’i bryniant, er enghraifft ‘prynu un, cael un am ddim�.
Defnyddiwch y dull ‘dosrannuâ€� i gyfrifo’rÌýTAW, oni bai bod yr eitem sy’n rhad ac am ddim neu’n ostyngol:
- â gwerth o ran ailwerthu sy’n llai na £1
- â gwerth o ran gwerthu sy’n llai na £5
- yn costio llai nag 20% o gyfanswm yr eitemau eraill yn y cynnig i chi
- ddim yn cael ei gwerthu am bris ar wahân i’r prif gynnyrch
Os yw unrhyw un o’r uchod yn berthnasol, codwchÌýTAWÌýar werth cyfun yr eitemau.
°ä´Ç»å¾±ÌýTAWÌýar gwponau neu dalebau
Peidiwch â chodiÌýTAWÌýar y naill neu’r llall o’r canlynol:
- cwpon neu daleb rydych chi’n ei roi am ddim gydag eitem arall ar adeg y prynu
- talebau ‘gwerth enwol� y gellir eu defnyddio ar gyfer mwy nag un math o nwyddau neu wasanaeth (os cânt eu gwerthu am eu gwerth ariannol neu am lai)
CodwchÌýTAWÌýpan fydd cwsmer yn defnyddio taleb ‘gwerth enwolâ€� i brynu rhywbeth oddi wrthych. Os gwnaethoch werthu’r daleb am bris gostyngol, codwchÌýTAWÌýar y gwerth gostyngol.
TAWÌýar roddion
Nid oes arnochÌýTAWÌýos yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn rhoi’ch nwyddau a gwasanaethau eich hunan i ffwrdd
- mae cyfanswm gwerth y rhoddion a roddir i’r un person mewn cyfnod o 12 mis yn llai na £50
TAWÌýar nwyddau a gwasanaethau sy’n rhad ac am ddim
Fel arfer nid oes arnochÌýTAWÌýar nwyddau a gwasanaethau a rowch i ffwrdd am ddim.
Eitem neu wasanaeth | Amod i’w fodloni i fod wedi eich eithrio rhag taluÌýTAW |
---|---|
Samplau rhad ac am ddim | I’w defnyddio at ddibenion marchnata a rhoi digon ohonynt i ganiatáu i ddarpar gwsmeriaid brofi’r cynnyrch |
Benthyciadau am ddim o asedion busnes | Mae cost llogi’r ased wedi’i chynnwys mewn rhywbeth arall rydych yn ei werthu i’r cwsmer |
Gwasanaethau rhad ac am ddim | Nid ydych yn cael unrhyw daliad neu nwyddau neu wasanaethau yn gyfnewid |