Codi, adennill a chofnodi TAW

Printable version

1. Codi TAW

Dylai pob busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW fod wedi cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW erbyn hyn. Nid oes angen i chi gofrestru’ch hun mwyach.

Fel busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, mae’n rhaid i chi godi TAW ar y nwyddau a gwasanaethau yr ydych yn eu gwerthu oni bai eu bod wedi’u heithrio.

Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW er mwyn dechrau codi TAW.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Sut i godi TAW

Pan fyddwch yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cyfrifo’r pris sy’n cynnwys TAW gan ddefnyddio’r gyfradd TAW gywir
  • dangos yr wybodaeth TAW ar eich anfoneb â€� mae’n rhaid i anfonebau gynnwys eich rhif TAW a dangos y TAW ar wahân
  • dangos y trafodyn yn eich cyfrif TAW â€� crynodeb o’ch TAW
  • cofnodi’r swm ar eich Ffurflen TAW

Cyfraddau TAW

Mae 3 cyfradd TAW (cyfradd safonol, cyfradd is a chyfradd sero). Mae cyfraddau TAW yn gallu newid. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio unrhyw newidiadau i’r cyfraddau yn syth â€� hynny yw, o’r dyddiad y maent yn newid.Ìý

Gwiriwch y cyfraddau TAW cyfredol (yn agor tudalen Saesneg).

Pryd i godi cyfradd TAW safonol

Fel arfer, byddwch yn codi cyfradd TAW safonol (20% ar hyn o bryd) ar y rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau. Dylech fod yn defnyddio’r gyfradd safonol oni bai bod y nwyddau neu’r gwasanaethau wedi’u hystyried ar gyfradd is neu gyfradd sero.

Pryd i godi cyfradd TAW is

Byddwch yn codi cyfradd TAW is (5% ar hyn o bryd) yn hytrach na’r gyfradd safonol ar nwyddau neu wasanaethau penodol, neu pan fydd amgylchiadau’r gwerthiant yn bodloni rheolau penodol. Er enghraifft, gellir defnyddio’r gyfradd is ar y canlynol:

  • seddi car i blant
  • tanwydd neu bŵer domestig
  • cymhorthion symud os maent ar gyfer rhywun sydd dros 60 oed, ac maent wedi’u gosod yn ei gartref

Mae rhestr o nwyddau a gwasanaethau ar gyfradd is (yn agor tudalen Saesneg) ar gael yma.

Pryd i godi cyfradd TAW sero

Byddwch yn codi cyfradd TAW sero ar nwyddau a gwasanaethau os ydych yn eu hallforio � a hynny’n dibynnu ar ble yn y DU y mae’r nwyddau’n cael eu cyflenwi, ac i ble y maent yn mynd.

Mae cyfradd sero yn golygu bod yn rhaid i chi godi TAW, a rhoi cyfrif amdani o hyd (er enghraifft, mae’n rhaid i chi ei chynnwys ar eich anfonebau), ond gan ddefnyddio cyfradd o 0%.

Codwch y gyfradd sero ar nwyddau y gwnaethoch eu hallforio o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • nwyddau o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) i rywle y tu allan i’r DU
  • nwyddau o Ogledd Iwerddon i rywle y tu allan i’r DU a’r UE
  • nwyddau yr ydych yn eu cyflenwi o Ogledd Iwerddon i fusnes yn yr UE sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW â€� gallwch

Sut i gyfrifo prisiau sy’n cynnwys TAW a phrisiadau heb gynnwys TAW

Bydd angen i chi gyfrifo cyfanswm y pris gan gynnwys TAW (y ‘pris sy’n cynnwys TAW�) pan fyddwch yn gwerthu nwyddau a gwasanaethau.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi hefyd gyfrifo faint o TAW rydych wedi’i thalu ar nwyddau a brynwyd gennych � er enghraifft, os ydych yn adhawlio TAW. Gallwch wneud hyn drwy gyfrifo’r pris y byddai’r nwyddau wedi bod os nad oedd TAW wedi cael ei hychwanegu (y ‘pris heb gynnwys TAW�).

Prisiau sy’n cynnwys TAW

I gyfrifo pris sy’n cynnwys cyfradd TAW safonol (20% ar hyn o bryd), lluoswch y pris heb gynnwys TAW ag 1.2.

Enghraifft

Rydych yn gwerthu cadair am £60 ac mae angen ychwanegu 20% o TAW i gael y pris sy’n cynnwys TAW.

60 x 1.2 = 72

Y pris sy’n cynnwys TAW yw £72.

I gyfrifo pris sy’n cynnwys cyfradd TAW is (5% ar hyn o bryd), lluoswch y pris heb gynnwys TAW ag 1.05.

Enghraifft

Rydych yn gwerthu sedd car i blant am £200 ac mae angen ychwanegu 5% o TAW i gael y pris sy’n cynnwys TAW.

200 x 1.05 = 210

Y pris sy’n cynnwys TAW yw £210.

Prisiau heb gynnwys TAW

I gyfrifo pris heb gynnwys cyfradd TAW safonol (20% ar hyn o bryd), rhannwch y pris sy’n cynnwys TAW ag 1.2.

Enghraifft

Gwnaethoch brynu bwrdd a chyfanswm y pris, yn cynnwys TAW o 20%, oedd £180.

180 ÷ 1.20 = 150

Y pris heb gynnwys TAW yw £150. Y swm y gallwch ei adhawlio yw’r gwahaniaeth rhwng y ddau rif, sef £30.

I gyfrifo pris heb gynnwys cyfradd TAW is (5% ar hyn o bryd), rhannwch y pris sy’n cynnwys TAW ag 1.05.

Enghraifft

Gwnaethoch brynu lifft risiau a chyfanswm y pris, yn cynnwys TAW o 5%, oedd £483.

483 ÷ 1.05 = 460

Y pris heb gynnwys TAW yw £460. Y swm y gallwch ei adhawlio yw’r gwahaniaeth rhwng y ddau rif, sef £23.

2. Pryd i beidio â chodi TAW

Ni allwch godi TAW ar nwyddau neu wasanaethau sydd wedi’u heithrio.

Os byddwch yn prynu neu� gwerthu eitem sydd wedi’i heithrio, dylech gofnodi’r trafodyn yn eich cyfrifon busnes cyffredinol o hyd.

Dyma rai enghreifftiau o nwyddau a gwasanaethau sydd wedi’u heithrio rhag TAW:

  • gwasanaethau ariannol, buddsoddiadau ac yswiriant
  • garejys, llefydd parcio ac angorau cwch preswyl
  • eiddo, tir ac adeiladau
  • addysg a hyfforddiant (ac eithrio ysgolion preifat)
  • gofal iechyd a thriniaeth feddygol
  • cynlluniau angladd, gwasanaethau claddu neu amlosgi
  • digwyddiadau elusennol
  • hynafolion
  • hapchwarae neu docynnau loteri
  • gweithgareddau chwaraeon

Mae rhestr lawn o’r nwyddau sydd wedi’u heithrio rhag TAW (yn agor tudalen Saesneg) ar gael yma.

Nwyddau a gwasanaethau sydd ‘y tu hwnt i gwmpas�

Mae rhai nwyddau a gwasanaethau tu allan i’r system TAW (‘y tu hwnt i gwmpas�), felly ni allwch godi nac adennill TAW arnynt. Er enghraifft:

  • nwyddau neu wasanaethau rydych yn eu prynu a’u defnyddio y tu allan i’r DU
  • ffioedd statudol, megis
  • nwyddau rydych yn eu gwerthu fel hobi, megis stampiau o gasgliad
  • cyfraniadau i elusen, os fe’u rhoddir heb gael unrhyw beth yn ôl

Codi TAW ar elusennau

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW werthu rhai nwyddau a gwasanaethau i elusennau ar y gyfradd sero neu’r gyfradd is o TAW.

Dysgwch beth sy’n gymwys ar gyfer y gyfradd is (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, eich cyfrifoldeb chi yw gwirio a yw’r elusen yn gymwys, ac i ddefnyddio’r gyfradd gywir.

Nid yw clybiau chwaraeon amatur cymunedol yn gymwys i gael y rhyddhadau TAW ar gyfer elusennau.

Gwirio bod yr elusen yn gymwys

Gofynnwch i’r elusen roi tystiolaeth i chi ei bod yn elusen. Gall hyn fod yn un o’r canlynol:

  • rhif cofrestru’r Comisiwn Elusennau
  • llythyr o gydnabyddiaeth gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) os nad yw wedi’i gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau (er enghraifft, os yw’n elusen yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon)

Cael datganiad ysgrifenedig

Mae angen i chi hefyd ofyn i’r elusen roi datganiad ysgrifenedig neu dystysgrif i chi yn cadarnhau ei bod yn bodloni’r amodau ar gyfer y rhyddhad TAW penodol.

Mae’n rhaid i elusennau ddilyn fformat penodol ar gyfer y datganiad neu dystysgrif (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n rhaid i’r datganiad fod ar wahân i’r ffurflen archebu neu anfoneb.

Mae’n rhaid i chi gadw unrhyw ddatganiad neu dystysgrif am o leiaf 4 blynedd.

3. TAW ar ostyngiadau neu roddion

Mae gwahanol reolau ar gyfer codiÌýTAWÌýar ostyngiadau, rhoddion a gwasanaethau sy’n rhad ac am ddim.

°ä´Ç»å¾±ÌýTAWÌýar ostyngiadau

Pan ddaw i ostyngiadau sylfaenol (er enghraifft, gostyngiad o 20%) codwchÌýTAWÌýar y pris gostyngol.

Cynigion amleitem

Cynigion amleitem yw pan fo’r cwsmer yn cael gostyngiad am brynu rhagor o eitemau, er enghraifft 3 eitem am £20.

Ar gyfer cynigion amleitem lle mae pob eitem â’r un gyfraddÌýTAWÌý(fel arfer y gyfradd safonol), codwchÌýTAWÌýar y pris cyfunol.

Os oes gan yr eitemau yn y cynnig gyfraddau gwahanol oÌýTAW, mae angen i chi ddefnyddio dull o’r enw ‘dosrannuâ€�.

Darllenwch adran 8 o’r arweiniad ar reolau a gweithdrefnauÌýTAWÌýi weld sut mae dosrannu’n gweithio (yn agor tudalen Saesneg).

Cynigion drwy arbedion-cyswllt

Cynigion drwy arbedion-cyswllt yw pan fo’r cwsmer yn cael ail eitem am bris gostyngol (neu am ddim) gyda’i bryniant, er enghraifft ‘prynu un, cael un am ddim�.

Defnyddiwch y dull ‘dosrannuâ€� i gyfrifo’rÌýTAW, oni bai bod yr eitem sy’n rhad ac am ddim neu’n ostyngol:

  • â gwerth o ran ailwerthu sy’n llai na £1
  • â gwerth o ran gwerthu sy’n llai na £5
  • yn costio llai nag 20% o gyfanswm yr eitemau eraill yn y cynnig i chi
  • ddim yn cael ei gwerthu am bris ar wahân i’r prif gynnyrch

Os yw unrhyw un o’r uchod yn berthnasol, codwchÌýTAWÌýar werth cyfun yr eitemau.

°ä´Ç»å¾±ÌýTAWÌýar gwponau neu dalebau

Peidiwch â chodiÌýTAWÌýar y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • cwpon neu daleb rydych chi’n ei roi am ddim gydag eitem arall ar adeg y prynu
  • talebau ‘gwerth enwolâ€� y gellir eu defnyddio ar gyfer mwy nag un math o nwyddau neu wasanaeth (os cânt eu gwerthu am eu gwerth ariannol neu am lai)

CodwchÌýTAWÌýpan fydd cwsmer yn defnyddio taleb ‘gwerth enwolâ€� i brynu rhywbeth oddi wrthych. Os gwnaethoch werthu’r daleb am bris gostyngol, codwchÌýTAWÌýar y gwerth gostyngol.

TAWÌýar roddion

Nid oes arnochÌýTAWÌýos yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn rhoi’ch nwyddau a gwasanaethau eich hunan i ffwrdd
  • mae cyfanswm gwerth y rhoddion a roddir i’r un person mewn cyfnod o 12 mis yn llai na £50

TAWÌýar nwyddau a gwasanaethau sy’n rhad ac am ddim

Fel arfer nid oes arnochÌýTAWÌýar nwyddau a gwasanaethau a rowch i ffwrdd am ddim.

Eitem neu wasanaeth Amod i’w fodloni i fod wedi eich eithrio rhag taluÌýTAW
Samplau rhad ac am ddim I’w defnyddio at ddibenion marchnata a rhoi digon ohonynt i ganiatáu i ddarpar gwsmeriaid brofi’r cynnyrch
Benthyciadau am ddim o asedion busnes Mae cost llogi’r ased wedi’i chynnwys mewn rhywbeth arall rydych yn ei werthu i’r cwsmer
Gwasanaethau rhad ac am ddim Nid ydych yn cael unrhyw daliad neu nwyddau neu wasanaethau yn gyfnewid

4. Adennill TAW ar dreuliau busnes

Os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW, gallwch adennill TAW ar eitemau rydych yn eu prynu i’w defnyddio yn eich busnes. Gwnewch hyn yn eich Ffurflen TAW.

Mae rheolau gwahanol os nad yw’ch sefydliad wedi ei gofrestru ar gyfer TAW (er enghraifft, awdurdod lleol, academi, corff cyhoeddus neu elusen gymwys). Darllenwch yr arweiniad ynghylch adennill TAW fel sefydliad sydd heb gofrestru ar gyfer TAW (VAT126) (yn agor tudalen Saesneg).

Os oes unrhyw un o’r eitemau hyn hefyd yn cael eu defnyddio at ddibenion personol, dim ond cyfran fusnes y TAW y gallwch ei hawlio.

Enghreifftiau

Mae hanner eich galwadau ffôn symudol yn bersonol. Gallwch adennill 50% o’r TAW ar y pris prynu a’r cynllun gwasanaeth.

Rydych yn gweithio gartref ac mae’ch swyddfa’n cymryd 20% o arwynebedd llawr eich tŷ. Gallwch adennill 20% o’r TAW ar eich biliau cyfleustodau.

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion i gefnogi’ch hawliad ac i ddangos sut y gwnaethoch gyfrifo’r gyfran busnes ar gyfer pryniant. Mae’n rhaid i chi hefyd fod ag anfonebau TAW dilys.

Os ydych yn adennill TAW ar nwyddau neu wasanaethau nad ydych wedi talu amdanynt, bydd yn rhaid i chi ad-dalu CThEF. Gelwir hyn yn ‘adfachu�. Darllenwch yr arweiniad ar adfachu i gael gwybod pryd i ad-dalu TAW yr ydych wedi’i hadennill yn flaenorol, a sut i wneud hynny (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn gwerthu nwyddau sy’n drethadwy a nwyddau sydd wedi’u heithrio rhag TAW

Os ydych yn gwerthu nwyddau sy’n gymysgedd o nwyddau trethadwy a nwyddau sydd wedi’u heithrio rhag TAW, ystyrir bod eich busnes wedi’i ‘eithrio’n rhannol�. Dysgwch am eithriad rhannol a sut i gyfrifo’r hyn y gallwch ei adennill (yn agor tudalen Saesneg).

Pryniannau a wnaed cyn cofrestru

Gallwch adennill TAW ar nwyddau neu wasanaethau a brynwyd cyn i chi gofrestru ar gyfer TAW os gwnaethoch eu prynu o fewn:

  • 4 blynedd, ar gyfer nwyddau sydd gennych o hyd, neu ar gyfer nwyddau a ddefnyddiwyd i wneud nwyddau eraill sydd gennych o hyd
  • 6 mis, ar gyfer gwasanaethau

Gallwch dim ondÌýadennill TAWÌýar bryniannau ar gyfer busnesau sydd bellach wedi cofrestru ar gyferÌýTAW. Mae’n rhaid iddynt ymwneud â’ch ‘dibenion busnesâ€�. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt ymwneud â nwyddau neu wasanaethau trethadwy TAW yr ydych yn eu cyflenwi.

Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfradd Unffurf TAW

Ni allwch adennill TAW ar eich pryniannau � ar wahân i asedion cyfalaf penodol dros £2,000.

Darllenwch adran 15 o’r arweiniad ynghylch y Cynllun Cyfradd Unffurf ar gyfer busnesau bach i weld os gallwch adennill TAW (yn agor tudalen Saesneg).

Cerbydau

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu adennill y TAW i gyd ar gar newydd neu ar gerbyd masnachol os ydych yn ei ddefnyddio at ddibenion busnes yn unig. Mae’n rhaid i chi allu dangos nad yw’n cael ei ddefnyddio at ddibenion personol, er enghraifft mae wedi’i nodi’n benodol yng nghontract eich cyflogai.

Mae ‘dibenion personol� yn cynnwys teithio rhwng eich cartref a’ch gwaith, oni bai ei fod yn fan gweithio dros dro.

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu adennill y TAW i gyd ar gar newydd os yw’n cael ei ddefnyddio’n bennaf:

  • fel tacsiÌý
  • ar gyfer gwersi gyrruÌý
  • ar gyfer hunan-yrru ar log

Os ydych yn prynu car ail-law at ddibenion busnes, bydd yn rhaid i’r anfoneb gwerthu ddangos y TAW.Ìý

Os ydych yn llogi car i gymryd lle car cwmni sydd oddi ar y ffordd, fel arfer gallwch hawlio 50% o’r TAW ar y gost o’i logi.

Os ydych yn llogi car at ddibenion busnes yn unig, gallwch adennill y TAW i gyd os byddwch yn ei logi am 10 diwrnod neu lai.

Costau tanwydd

Mae gwahanol ffyrdd o adennill TAW ar danwydd, os nad ydych yn talu cyfradd sefydlog o dan y Cynllun Cyfradd Unffurf (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch adennill y TAW i gyd ar danwydd os yw’ch cerbyd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion busnes yn unig.

Os ydych yn defnyddio’r cerbyd at ddibenion personol yn ogystal â dibenion busnes, gallwch naill ai:

Mae’n bosibl y byddwch yn dewis peidio ag adennill unrhyw TAW, er enghraifft os yw’ch milltiroedd busnes mor isel fel y byddai’r tâl graddfa tanwydd yn uwch na’r TAW y gallwch ei hadennill.

Os ydych yn dewis peidio ag adennill TAW ar danwydd ar gyfer un cerbyd, ni allwch adennill TAW ar unrhyw danwydd ar gyfer cerbydau a ddefnyddir gan eich busnes.

Costau ychwanegol cerbyd

Fel arfer gallwch adennill TAW ar y canlynol:

  • yr holl gostau o ran defnyddio’r car, a’i gynnal a chadw, sy’n gysylltiedig â’r busnes â€� fel gwaith atgyweirio a’i barcio oddi ar y stryd
  • unrhyw ategolion rydych wedi’u gosod at ddibenion busnes

Gallwch wneud hyn hyd yn oed os na allwch adennill TAW ar y cerbyd ei hun.

Treuliau teithio

Gallwch adennill TAW ar dreuliau teithio cyflogai ar gyfer teithiau busnes. Gall treuliau teithio gynnwys trafnidiaeth, prydau a llety yr ydych yn talu amdanynt. Dysgwch pwy sy’n cael ei ystyried yn gyflogai (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch adennill TAW ar fathau eraill o dreuliau (nid dim ond y rhai sy’n ymwneud â theithio) ar gyfer pobl hunangyflogedig sy’n cael eu trin fel cyflogeion.

Ni allwch adennill TAW os ydych yn talu cyfradd unffurf i’ch cyflogeion ar gyfer treuliau.

Asedion busnes o £50,000 neu fwy

Mae rheolau arbennig ar gyfer adennill TAW yn y Cynllun Nwyddau Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg), sy’n golygu bod yn rhaid i chi rannu’r TAW a gafodd ei hawlio yn y lle cyntaf dros nifer o flynyddoedd.

Yr hyn na allwch ei adennill

Ni allwch adennill TAW ar y canlynol:

5. Cadw cofnodion TAW

Efallai y bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn gwirio’ch cofnodion i wneud yn siŵr eich bod yn talu’r swm cywir o dreth.

Cofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw

Mae’n rhaid i chi gadw cofnod o’r canlynol:

  • popeth yr ydych yn ei brynu neu’n ei werthu (gan gynnwys eitemau sydd ar y gyfradd sero, y gyfradd is neu sydd wedi’u heithrio rhag TAW)
  • copïau o’r holl anfonebau rydych yn eu rhoi
  • pob anfoneb a gewch (copïau gwreiddiol neu electronig)
  • cytundebau hunan-filio (pan fo cwsmeriaid yn paratoi’r anfoneb)
  • enw, cyfeiriad a rhif TAW unrhyw gyflenwyr hunan-filio
  • nodiadau debyd neu gredyd
  • unrhyw nwyddau rydych yn eu rhoi i ffwrdd neu’n eu cymryd o stoc ar gyfer eich defnydd preifat (yn agor tudalen Saesneg)

Cadwch gofnodion busnes cyffredinol fel datganiadau banc, llyfrau arian parod, bonion sieciau, slipiau talu i mewn a rholiau til.

Dysgwch pa gofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw pan ydych yn allforio nwyddau (yn agor tudalen Saesneg).

Cofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw’n ddigidol

​​Mae’n rhaid i chi gadw rhai cofnodion TAW yn ddigidol (a elwir hefyd yn ‘cofnod electronig�) � oni bai eich bod wedi’ch eithrio rhag dilyn rheolau Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW.

Cadwch gofnodion digidol o’r canlynol:

  • y TAW ar nwyddau a gwasanaethau yr ydych yn eu cyflenwi (cyflenwadau a wnaed)
  • y TAW ar nwyddau a gwasanaethau yr ydych yn eu cael (cyflenwadau a gafwyd)
  • yr ‘amser cyflenwiâ€� a ‘gwerth y cyflenwadâ€� (gwerth heb gynnwys TAW) am bopeth rydych wedi’i brynu a’i werthu
  • unrhyw addasiadau a wnewch i Ffurflen TAW
  • trafodion tâl gwrthdro â€� lle rydych yn cofnodi’r TAW ar bris gwerthu a phris prynu y nwyddau a’r gwasanaethau rydych yn eu prynu
  • unrhyw gynlluniau cyfrifyddu TAW rydych yn eu defnyddio
  • cyfanswm eich derbyniadau gros dyddiol os ydych yn defnyddio cynllun manwerthu (yn agor tudalen Saesneg)
  • eitemau y gallwch adennill TAW arnynt os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfradd Unffurf (yn agor tudalen Saesneg)
  • cyfanswm eich gwerthiannau, a’r TAW ar y gwerthiannau hynny, os ydych yn masnachu aur ac yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Aur

Cadwch gopïau digidol o ddogfennau sy’n ymdrin â nifer o drafodion a wnaed ar ran eich busnes drwy’r canlynol:

  • gwirfoddolwyr ar gyfer codi arian elusennol
  • busnes trydydd parti
  • cyflogeion ar gyfer treuliau mewn arian mân

Sut i gadw cofnodion digidol

Defnyddiwch becyn meddalwedd sy’n cydweddu, neu feddalwedd arall (megis taenlenni) sy’n cysylltu â systemau Cyllid a Thollau EF (CThEF).

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW yn ddiweddar, dylech aros i CThEF gadarnhau eich cofrestriad cyn i chi lawrlwytho meddalwedd sy’n cydweddu. Dylech gadw’ch cofnodion ar bapur wrth i chi aros.

Cysylltu’ch cofnodion mewn ffordd ddigidol

Os ydych yn defnyddio mwy nag un pecyn meddalwedd neu gynnyrch sy’n cadw cofnodion a chyflwyno Ffurflenni TAW, mae angen i chi eu cysylltu. Mae’n rhaid i hyn fod yn gysylltiad digidol. Ni allwch drosglwyddo’r data hyn rhwng un feddalwedd a’r llall â llaw, na chwaith eu copïo a’u gludo i wneud hynny.

Gallwch gysylltu’ch meddalwedd mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • defnyddio fformiwlâu i gysylltu celloedd o fewn taenlenni
  • e-bostio cofnodion
  • rhoi cofnodion ar ddyfais gludadwy i’w rhoi i’ch asiant
  • mewnforio ac allforio ffeiliau XML a CSV
  • lawrlwytho ac uwchlwytho ffeiliau

Pan ydych wedi’ch eithrio rhag cadw cofnodion digidol

Mae’n rhaid i chi ddilyn y rheolau ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW drwy gadw rhai cofnodion yn ddigidol oni bai bod y canlynol yn wir:

Pa mor hir y mae’n rhaid i chi gadw cofnodion

Dechreuwch gadw cofnodion pan ydych yn cofrestru ar gyfer TAW. Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion TAW am o leiaf 6 blynedd (neu 10 mlynedd os ydych yn defnyddio’r Gwasanaeth Un Cam (GUC) ar gyfer TAW (yn agor tudalen Saesneg) neu wedi defnyddio’r Gwasanaeth Mini Un Cam (GMUC) ar gyfer TAW (yn agor tudalen Saesneg).

Anfonebau TAW

Dim ond busnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW all anfon anfonebau TAW. Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • anfon anfonebau dilys
  • cadw copïau o’r holl anfonebau gwerthu yr ydych yn eu hanfon hyd yn oed os byddwch yn eu canslo neu’n cynhyrchu un drwy gamgymeriad
  • cadw pob anfoneb prynu ar gyfer eitemau rydych yn eu prynu

Dysgwch am yr hyn i’w gynnwys ar anfoneb TAW dilys (yn agor tudalen Saesneg).

Ni allwch adennill TAW gan ddefnyddio anfoneb annilys, anfoneb pro-forma, datganiad na nodyn dosbarthu.

Os yw cyflenwr yn anfon anfoneb anghywir atoch

Os yw cyflenwr yn anfon anfoneb atoch a bod y swm sydd i’w dalu yn anghywir, mae angen i chi ofyn i’r cyflenwr ei gywiro ac anfon anfoneb newydd atoch.

Os ydych yn talu llai na’r swm sy’n ddyledus ar anfoneb, dim ond ar y swm a dalwyd y gallwch adennill y TAW � nid yr hyn sydd ar yr anfoneb.

Ni allwch hawlio mwy o TAW na ddangosir ar anfoneb TAW ddilys.

Cyfrif TAW

Mae’n rhaid i chi gadw cofnod o’r TAW rydych yn ei chodi ar werthiannau a’r TAW rydych yn ei thalu ar eich pryniannau. Gelwir hyn yn ‘cyfrif TAW�.

Rydych yn defnyddio’r ffigurau o’ch cyfrif TAW i lenwi’ch Ffurflen TAW.

Nid oes unrhyw reolau o ran sut y dylai cyfrif TAW edrych, ond mae’n rhaid iddo ddangos y canlynol:

  • cyfanswm eich gwerthiannau TAW
  • cyfanswm eich pryniannau TAW
  • y TAW sydd arnoch i Gyllid a Thollau EF (CThEF)
  • y TAW y gallwch ei hadennill gan CThEF
  • y ganran gyfradd unffurf a’r trosiant y mae’n berthnasol iddo (os yw’ch busnes yn defnyddio’r Cynllun Cyfradd Unffurf TAW (yn agor tudalen Saesneg)

Os ydych yn fusnes yng Ngogledd Iwerddon sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, mae’n rhaid i chi hefyd ddangos y TAW ar unrhyw bryniannau neu werthiannau yn yr UE.

Os ydych wedi gwneud camgymeriad ar eich Ffurflen TAW, mae’n rhaid bod y cyfrif TAW yn dangos pryd y gwnaethoch sylwi ar y camgymeriad, a phryd y gwnaethoch ei gywiro.

Dychwelyd a chyfnewid

Pan fyddwch yn dychwelyd nwyddau i gyflenwr, neu os bydd cwsmer yn dychwelyd nwyddau i chi, dylech setlo balans y taliad drwy anfon naill ai:

  • anfoneb newydd i ddisodli’r hen un
  • nodyn credyd neu ddebyd

Nodwch y rhain yn eich cyfrifon a chadwch unrhyw nodiadau gwreiddiol.

Os ydych yn cyfnewid y nwyddau am nwyddau sydd â’r un gwerth, nid oes angen i chi anfon anfoneb TAW newydd.

Mae’n rhaid i’ch nodyn credyd neu’ch nodyn debyd gynnwys y canlynol:

  • yr un wybodaeth â’r anfoneb TAW
  • y rheswm pam y cafodd ei hanfon
  • cyfanswm y credyd, heb gynnwys TAW
  • rhif a dyddiad yr anfoneb TAW wreiddiol

Drwgddyledion

Os nad yw cwsmer yn talu’r hyn sydd arno am nwyddau neu wasanaethau, gallwch ddileu’r anfoneb fel ‘drwgddyled�. Mae’n bosibl y gallech hawlio rhyddhad rhag TAW ar ddrwgddyledion. Gwnewch hyn yn eich Ffurflen TAW.

Os byddwch yn dileu anfoneb fel drwgddyled, mae’n rhaid i chi gadw ‘cyfrif drwgddyledion TAW� ar wahân. Mae’n rhaid i’r ddyled fod yn hŷn na 6 mis pan fyddwch yn gwneud eich hawliad.

Mae’n rhaid i chi hawlio ad-daliad gan CThEF o fewn 4 blynedd a 6 mis o’r dyddiad pan oedd y taliad yn ddyledus, neu o ddyddiad y cyflenwad (pa un bynnag oedd hwyraf).

Ar gyfer pob drwgddyled, mae’n rhaid i chi ddangos:

  • cyfanswm y TAW dan sylw
  • y swm sydd wedi’i ddileu ac unrhyw daliadau rydych wedi’u cael
  • y TAW rydych yn ei hawlio ar y ddyled
  • y cyfnod(au) TAW y gwnaethoch dalu’r TAW ac yn hawlio’r rhyddhad
  • manylion yr anfoneb, megis y dyddiad ac enw’r cwsmer

Mae’n rhaid i chi gadw’r wybodaeth hon am 4 blynedd ar ôl gwneud yr hawliad, neu 10 mlynedd os gwnaethoch ddefnyddio’r Gwasanaeth Mini Un Cam ar gyfer TAW.

Amser cyflenwi neu bwynt treth

Mae angen i chi wybod amser cyflenwi (neu ‘pwynt treth�) trafodyn. Dyma’r dyddiad y mae’r trafodyn yn digwydd at ddibenion treth.

Mae’r pwynt treth yn rhoi gwybod i chi i ba gyfnod TAW y mae’r trafodyn yn perthyn iddo, ac ar ba Ffurflen TAW i’w rhoi.

Gall y pwynt treth amrywio, ond, fel arfer, mae fel a ganlyn:

Sefyllfa Pwynt treth
Nid oes angen anfoneb Dyddiad y cyflenwad
Anfoneb TAW wedi’i hanfon Dyddiad yr anfoneb
Anfoneb TAW wedi’i hanfon 15 diwrnod neu fwy ar ôl dyddiad y cyflenwad Dyddiad y digwyddodd y cyflenwad
Taliad neu anfoneb a anfonwyd cyn y cyflenwad Dyddiad talu neu ddyddiad yr anfoneb (pa un bynnag sydd gynharach)

Dyddiad y cyflenwad yw:

  • ar gyfer nwyddau â€� y dyddiad y maent yn cael eu hanfon, eu casglu neu eu darparu (er enghraifft, pan maent wedi’u gosod yn nhŷ’r cwsmer)
  • ar gyfer gwasanaethau â€� y dyddiad y mae’r gwaith wedi’i orffen

Eithriadau i’r rheol pwynt treth

Os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod TAW, y pwynt treth yw’r dyddiad y daw’r taliad i law bob amser.

Darllenwch yr arweiniad ynghylch sut i gyfrifo’r pwynt treth mewn amgylchiadau eraill (yn agor tudalen Saesneg). Er enghraifft, mae rheolau gwahanol o ran pwyntiau treth ar gyfer:

  • masnachau penodol â€� fel bargyfreithwyr, gwaith adeiladu
  • lle nad yw’r cyflenwad yn ‘werthiantâ€� â€� er enghraifft, eitemau busnes a gymerwyd at ddibenion personol

Weithiau, gall un gwerthiant arwain at 2 bwynt treth neu fwy � er enghraifft, lle mae’r cwsmer yn talu blaendal ymlaen llaw, ac yna yn gwneud taliad terfynol.