Cerbydau hanesyddol (clasurol): MOT a threth cerbyd

Sgipio cynnwys

Eithriad rhag talu treth ar gyfer cerbydau hanesyddol

Gallwch wneud cais i roi鈥檙 gorau i dalu am dreth cerbyd o 1 Ebrill 2025 os adeiladwyd eich cerbyd cyn 1 Ionawr 1985. Rhaid ichi drethu eich cerbyd hyd yn oed os nad oes rhaid ichi ei thalu.

Os nad ydych yn gwybod pryd y cafodd eich cerbyd ei adeiladu, ond cafodd ei gofrestru鈥檔 gyntaf cyn 8 Ionawr 1985, gallwch wneud cais o hyd i roi鈥檙 gorau i dalu treth cerbyd.

Ni fydd eich cerbyd wedi鈥檌 eithrio rhag treth cerbyd os:

  • yw鈥檔 cael ei ddefnyddio ar gyfer hurio neu d芒l (er enghraifft, fe鈥檌 defnyddir fel tacsi ar gyfer cwsmeriaid sy鈥檔 talu)

  • yw鈥檔 cael ei ddefnyddio鈥檔 fasnachol ar gyfer masnach neu fusnes

Cysylltwch 芒 DVLA os nad ydych yn si诺r a yw鈥檆h cerbyd wedi鈥檌 eithrio.

Cerbydau cymwys

Gallwch wneud cais i鈥檙 cerbydau hyn gael eu heithrio:

  • ceir

  • faniau

  • beiciau modur

  • beiciau modur tair olwyn

Cerbydau mawr a bysiau

Gallwch wneud cais i鈥檙 cerbydau hyn gael eu heithrio:

  • cerbydau nwyddau trwm preifat - ni ellir eu dylunio na鈥檜 haddasu ar gyfer cludo nwyddau, na chael eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant gyrwyr

  • bysiau a ddefnyddir at ddibenion gwirfoddol neu gymunedol

Cerbydau arbenigol

Gallwch hefyd wneud cais i鈥檙 cerbydau hyn gael eu heithrio:

  • craeniau a phympiau symudol

  • rholeri ffyrdd, tryciau gwaith a pheiriannau cloddio

  • peiriannau amaethyddol a pheiriannau torri gwair

  • erydr eira a pheiriannau graeanu

  • cerbydau trydan

  • cerbydau ager