Cerbydau hanesyddol (clasurol): MOT a threth cerbyd

Printable version

1. Cymhwysedd

Mae鈥檙 dyddiad y cafodd eich cerbyd ei adeiladu neu ei gofrestru鈥檔 gyntaf yn effeithio ar p鈥檜n a oes angen:

  • cael MOT

  • talu treth cerbyd听

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cerbydau nad oes angen MOT arnynt

Nid oes angen ichi gael MOT os:

  • cafodd y cerbyd ei adeiladu neu ei gofrestru鈥檔 gyntaf dros 40 mlynedd yn 么l听听

  • na wnaed 鈥榥ewidiadau sylweddol鈥� i鈥檙 cerbyd yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, er enghraifft disodli鈥檙 siasi, y corff, yr echelau neu鈥檙 injan i newid y ffordd y mae鈥檙 cerbyd yn gweithio听

Os nad ydych yn si诺r a fu unrhyw newidiadau sylweddol, gallwch:

Cerbydau wedi鈥檜 heithrio rhag treth cerbyd

Os adeiladwyd eich cerbyd cyn 1 Ionawr 1985, gallwch roi鈥檙 gorau i dalu treth cerbyd o 1 Ebrill 2025.

Os nad ydych yn gwybod pryd y cafodd eich cerbyd ei adeiladu, ond cafodd ei gofrestru cyn 8 Ionawr 1985, nid oes angen ichi dalu treth cerbyd o 1 Ebrill 2025.

Beth sydd rhaid ichi ei wneud

Mae鈥檔 rhaid ichi wneud cais am eithriad treth cerbyd i roi鈥檙 gorau i dalu treth cerbyd. Weithiau gelwir hyn yn rhoi cerbyd yn y 鈥榙osbarth treth hanesyddol鈥�.

Nid oes rhaid ichi wneud cais i roi鈥檙 gorau i gael MOT ar gyfer eich cerbyd bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae鈥檔 rhaid ichi ei gadw mewn cyflwr sy鈥檔 addas i鈥檙 ffordd.

Gallwch gael dirwy o hyd at 拢2,500 a chael 3 phwynt cosb am ddefnyddio cerbyd mewn cyflwr peryglus.

2. Eithriad rhag talu treth ar gyfer cerbydau hanesyddol

Gallwch wneud cais i roi鈥檙 gorau i dalu am dreth cerbyd o 1 Ebrill 2025 os adeiladwyd eich cerbyd cyn 1 Ionawr 1985. Rhaid ichi drethu eich cerbyd hyd yn oed os nad oes rhaid ichi ei thalu.

Os nad ydych yn gwybod pryd y cafodd eich cerbyd ei adeiladu, ond cafodd ei gofrestru鈥檔 gyntaf cyn 8 Ionawr 1985, gallwch wneud cais o hyd i roi鈥檙 gorau i dalu treth cerbyd.

Ni fydd eich cerbyd wedi鈥檌 eithrio rhag treth cerbyd os:

  • yw鈥檔 cael ei ddefnyddio ar gyfer hurio neu d芒l (er enghraifft, fe鈥檌 defnyddir fel tacsi ar gyfer cwsmeriaid sy鈥檔 talu)

  • yw鈥檔 cael ei ddefnyddio鈥檔 fasnachol ar gyfer masnach neu fusnes

Cysylltwch 芒 DVLA os nad ydych yn si诺r a yw鈥檆h cerbyd wedi鈥檌 eithrio.

Cerbydau cymwys

Gallwch wneud cais i鈥檙 cerbydau hyn gael eu heithrio:

  • ceir

  • faniau

  • beiciau modur

  • beiciau modur tair olwyn

Cerbydau mawr a bysiau

Gallwch wneud cais i鈥檙 cerbydau hyn gael eu heithrio:

  • cerbydau nwyddau trwm preifat - ni ellir eu dylunio na鈥檜 haddasu ar gyfer cludo nwyddau, na chael eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant gyrwyr

  • bysiau a ddefnyddir at ddibenion gwirfoddol neu gymunedol

Cerbydau arbenigol

Gallwch hefyd wneud cais i鈥檙 cerbydau hyn gael eu heithrio:

  • craeniau a phympiau symudol

  • rholeri ffyrdd, tryciau gwaith a pheiriannau cloddio

  • peiriannau amaethyddol a pheiriannau torri gwair

  • erydr eira a pheiriannau graeanu

  • cerbydau trydan

  • cerbydau ager

3. Gwneud cais am eithriad treth cerbyd

Gwnewch gais mewn sy鈥檔 delio 芒 threth cerbyd.

Bydd angen ichi gymryd:

  • y llyfr log (V5CW) yn eich enw

  • eich llythyr atgoffa treth cerbyd (V11W), os oes gennych un

  • tystiolaeth o MOT cyfredol (os oes angen un ar eich cerbyd) - er enghraifft, copi o hanes MOT eich cerbyd neu eich tystysgrif MOT, os oes gennych un

  • tystiolaeth os yw鈥檆h cerbyd wedi鈥檌 eithrio rhag cael MOT (V112W)

Os nad oes gennych y llyfr log, lawrlwythwch a llenwch gais am lyfr log (V62W). Ewch ag ef i Swyddfa鈥檙 Post gyda鈥檙 ffi o 拢25.

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon听

Bydd angen ichi gymryd:

  • tystysgrif MOT sy鈥檔 ddilys pan fydd y dreth yn dechrau

  • tystysgrif yswiriant neu sicrwydd yswiriant

Beth sy鈥檔 digwydd nesaf

  1. Mae Swyddfa鈥檙 Post yn anfon eich llyfr log i DVLA.

  2. Bydd DVLA yn anfon llyfr log wedi鈥檌 ddiweddaru atoch.

  3. Byddwch yn cael ad-daliad (os yw鈥檔 ddyledus ichi). Cysylltwch 芒 DVLA os nad ydych wedi cael eich ad-daliad o fewn 6 wythnos o gael eich llyfr log wedi鈥檌 ddiweddaru.

Gallwch barhau i ddefnyddio鈥檆h cerbyd tra bod eich cais yn cael ei brosesu.

4. Adnewyddu treth cerbyd eich cerbyd hanesyddol

Bydd DVLA yn anfon llythyr atgoffa treth cerbyd atoch cyn i鈥檆h treth ddod i ben. Bydd angen ichi drethu eich cerbyd, ond ni fydd angen ichi dalu.

Mae鈥檔 anghyfreithlon gyrru eich cerbyd os nad ydych wedi鈥檌 drethu. Gallwch gael dirwy o 拢80 os na fyddwch yn trethu鈥檆h cerbyd ar amser.听