Aros yn eiddo eich partner pan fyddwch yn ysgaru neu’n gwahanu

Sgipio cynnwys

Trosolwg

Gallwch gofrestru eich ‘hawliau cartref� gyda Chofrestrfa Tir EF � gall hyn helpu i atal eich partner rhag gwerthu eich cartref.

Ni allwch wneud cais am hawliau cartref os yw’ch priod neu’ch partner sifil yn berchen ar yr eiddo gyda rhywun arall � oni bai y byddai’ch priod neu’ch partner sifil yn cael yr holl arian pe bai’r eiddo yn cael ei werthu (hefyd yn cael ei alw’n ‘unig berchennog buddiol�).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyn ichi wneud cais am hawliau cartref

Bydd yn rhaid ichi wybod a yw’r eiddo wedi’i gofrestru yn enw eich partner, ac os ydyw, ei rif teitl.

Gallwch chwilio’r gofrestr i gael y wybodaeth hon.

Sut i wneud cais

Rhaid ichi gwblhau proses gwneud cais wahanol ar gyfer hawliau cartref yn dibynnu a yw’r:

Pa mor hir allwch chi aros yn yr eiddo

Fel arfer gallwch fyw yn yr eiddo dim ond hyd nes bod yr ysgariad, y dirymiad neu’r diddymiad wedi’i gwblhau ac mae setliad llys wedi’i gytuno.

Efallai y gallwch barhau i fyw yn yr eiddo am gyfnod hwy, er enghraifft, yn ystod anghydfod parhaus ynghylch pwy sy’n berchen ar beth, os yw llys wedi gwneud ‘gorchymyn parhau� sy’n caniatáu ichi wneud hynny.

Beth arall allwch chi ei wneud

Efallai y gallwch ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn eich partner os yw’n ceisio:

  • eich gorfodi i symud allan
  • eich atal rhag symud yn ôl i gartref nad ydych yn byw ynddo ar hyn o bryd, er enghraifft, os oeddech wedi symud allan dros dro

Gall cyfreithiwr eich cynghori ynglŷn â hyn.