Aros yn eiddo eich partner pan fyddwch yn ysgaru neu’n gwahanu

Printable version

1. Trosolwg

Gallwch gofrestru eich ‘hawliau cartref� gyda Chofrestrfa Tir EF � gall hyn helpu i atal eich partner rhag gwerthu eich cartref.

Ni allwch wneud cais am hawliau cartref os yw’ch priod neu’ch partner sifil yn berchen ar yr eiddo gyda rhywun arall � oni bai y byddai’ch priod neu’ch partner sifil yn cael yr holl arian pe bai’r eiddo yn cael ei werthu (hefyd yn cael ei alw’n ‘unig berchennog buddiol�).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyn ichi wneud cais am hawliau cartref

Bydd yn rhaid ichi wybod a yw’r eiddo wedi’i gofrestru yn enw eich partner, ac os ydyw, ei rif teitl.

Gallwch chwilio’r gofrestr i gael y wybodaeth hon.

Sut i wneud cais

Rhaid ichi gwblhau proses gwneud cais wahanol ar gyfer hawliau cartref yn dibynnu a yw’r:

Pa mor hir allwch chi aros yn yr eiddo

Fel arfer gallwch fyw yn yr eiddo dim ond hyd nes bod yr ysgariad, y dirymiad neu’r diddymiad wedi’i gwblhau ac mae setliad llys wedi’i gytuno.

Efallai y gallwch barhau i fyw yn yr eiddo am gyfnod hwy, er enghraifft, yn ystod anghydfod parhaus ynghylch pwy sy’n berchen ar beth, os yw llys wedi gwneud ‘gorchymyn parhau� sy’n caniatáu ichi wneud hynny.

Beth arall allwch chi ei wneud

Efallai y gallwch ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn eich partner os yw’n ceisio:

  • eich gorfodi i symud allan
  • eich atal rhag symud yn ôl i gartref nad ydych yn byw ynddo ar hyn o bryd, er enghraifft, os oeddech wedi symud allan dros dro

Gall cyfreithiwr eich cynghori ynglŷn â hyn.

2. Gwneud cais os yw’r eiddo yn gofrestredig

Llwythwch i lawr a llenwch y cais i gofrestru rhybudd ar gyfer hawliau cartref.

Anfonwch y ffurflen i Ganolfan Dinasyddion Cofrestrfa Tir EF. Ni chodir ffi.

HM Land Registry 
Citizen Centre 
PO Box 74 
³Ò±ô´Ç³Ü³¦±ð²õ³Ù±ð°ùÌý
GL14 9BB

Cewch lythyr gan Gofrestrfa Tir EF yn dweud wrthych pan fydd eich hawliau wedi eu cofrestru. Bydd eich priod neu’ch partner sifil yn cael llythyr hefyd yn dweud eich bod wedi gwneud hyn.

Os ydych am symud i eiddo gwahanol

Gallwch ddiogelu eich hawl i fyw mewn un eiddo ar y tro yn unig.

Gallwch ofyn i Gofrestrfa Tir EF drosglwyddo eich hawliau cartref i eiddo arall y mae’ch priod neu’ch partner sifil yn berchen arno os oes gennych hawliau cartref eisoes ar gyfer un eiddo.

Llwythwch i lawr a llenwch y cais i gofrestru rhybudd ar gyfer hawliau cartref.

Anfonwch y ffurflen i Ganolfan Dinasyddion Cofrestrfa Tir EF. Ni chodir ffi.

HM Land Registry 
Citizen Centre 
PO Box 74 
³Ò±ô´Ç³Ü³¦±ð²õ³Ù±ð°ùÌý
GL14 9BB

Dilynwch y broses gwneud cais ar gyfer eiddo digofrestredig os nad yw’r eiddo rydych yn symud iddo wedi’i gofrestru � gallwch chwilio’r gofrestr i weld a yw wedi’i gofrestru.

Aros yn yr eiddo ar ôl ysgaru neu wahanu

Efallai y gallwch barhau i fyw yn eich cartref am gyfnod hwy, er enghraifft, os yw llys wedi gwneud ‘gorchymyn parhau� sy’n caniatáu ichi wneud hynny yn ystod anghydfod parhaus ynghylch pwy sy’n berchen ar beth.

Mae’r modd rydych yn gwneud cais yn dibynnu ar a ydych eisoes wedi cofrestru eich hawliau cartref.

Llwythwch i lawr a llenwch naill ai:

Anfonwch y ffurflen, ynghyd â chopi swyddogol o orchymyn parhau’r llys, i Ganolfan Dinasyddion Cofrestrfa Tir EF. Ni chodir ffi.

HM Land Registry 
Citizen Centre 
PO Box 74 
³Ò±ô´Ç³Ü³¦±ð²õ³Ù±ð°ùÌý
GL14 9BB

Cewch lythyr gan Gofrestrfa Tir EF yn dweud wrthych pan fydd eich hawliau parhau wedi eu cofrestru. Bydd eich cyn-briod neu’ch cyn-bartner sifil yn cael llythyr hefyd yn dweud eich bod wedi gwneud hyn.

3. Gwneud cais os yw’r eiddo yn ddigofrestredig

Llwythwch i lawr a llenwch y cais i gofrestru ‘Pridiant Tir Dosbarth F�.

Codir ffi o £1 � mae’r cyfarwyddiadau talu ar y ffurflen.

Anfonwch y ffurflen a’r taliad i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Os ydych am symud i eiddo gwahanol

Gallwch ddiogelu eich hawl i fyw mewn un eiddo ar y tro yn unig.

Gallwch ofyn i Gofrestrfa Tir EF drosglwyddo eich hawliau cartref i eiddo arall y mae’ch priod neu’ch partner sifil yn berchen arno os ydych eisoes wedi cofrestru eich hawl i fyw mewn un eiddo.

Llwythwch i lawr a llenwch y cais i gofrestru ‘Pridiant Tir Dosbarth F�.

Codir ffi o £1 � mae’r cyfarwyddiadau talu ar y ffurflen.

Anfonwch y ffurflen a’r taliad i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Dilynwch y broses gwneud cais ar gyfer eiddo cofrestredig os yw’r eiddo rydych yn symud iddo wedi’i gofrestru � gallwch chwilio’r gofrestr i weld a yw wedi’i gofrestru.

Aros yn yr eiddo ar ôl ysgaru neu wahanu

Efallai y gallwch barhau i fyw yn eich cartref am gyfnod hwy, er enghraifft, os yw llys wedi gwneud ‘gorchymyn parhau� sy’n caniatáu ichi wneud hynny yn ystod anghydfod parhaus ynghylch pwy sy’n berchen ar beth.

Mae’r modd rydych yn gwneud cais yn dibynnu ar a ydych eisoes wedi cofrestru eich hawliau cartref.

Llwythwch i lawr a llenwch naill ai:

Codir ffi o £1 � mae’r cyfarwyddiadau talu ar y ffurflen.

Anfonwch y ffurflen a’r taliad i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Cewch lythyr gan Gofrestrfa Tir EF pan fydd eich hawliau parhau wedi eu cofrestru.

Bydd eich cyn-briod neu’ch cyn-bartner sifil yn cael llythyr hefyd yn dweud eich bod wedi cyflwyno’r cais.