Anghytuno 芒 phenderfyniad treth neu gosb
Printable version
1. Trosolwg
Gallwch herio penderfyniadau neu gosbau treth penodol gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallwch herio rhai penderfyniadau ynghylch:
- cosb (er enghraifft, os gwnaethoch dalu鈥檆h treth yn hwyr neu gyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth yn hwyr)
- eich bil treth (er enghraifft, Treth Incwm, Treth Gorfforaeth, TAW)
- hawliad am ryddhad treth
- cais am wybodaeth neu gais i wirio鈥檆h cofnodion busnes
Os ydych yn dymuno, gallwch benodi rhywun arall i ddelio 芒 CThEF ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg).听
Mae鈥檔 bosibl y gallwch oedi cyn talu鈥檙 bil neu鈥檙 gosb hyd nes bod y mater wedi鈥檌 setlo.
Mae proses wahanol os na wnaeth CThEF weithredu ar wybodaeth.
2. Anghytuno 芒 phenderfyniad treth
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn rhoi gwybod i chi yn ei lythyr o benderfyniad beth i鈥檞 wneud os ydych yn anghytuno.
Fel arfer bydd gennych 30 diwrnod i ddyddiad y llythyr o benderfyniad i naill ai apelio neu dderbyn adolygiad.
Os byddwch yn methu鈥檙 dyddiad cau, bydd angen i chi ddarparu esgus rhesymol.
Mae sut rydych yn herio penderfyniad yn dibynnu a yw鈥檔 dreth uniongyrchol neu anuniongyrchol.
Treth uniongyrchol听
Mae treth uniongyrchol yn cynnwys:
- Treth Incwm (gan gynnwys TWE)
- Treth Gorfforaeth
- Treth Enillion Cyfalaf
- Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
- Treth Etifeddiant
Treth anuniongyrchol
Mae treth anuniongyrchol yn cynnwys:
- TAW
- Toll Ecs茅is
- Toll Dramor
- Trethi Amgylcheddol fel y Dreth Deunydd Pacio Plastig, Treth Dirlenwi neu鈥檙 Ardoll Newid yn yr Hinsawdd
Anghytuno 芒 phenderfyniad treth uniongyrchol
Bydd eich llythyr o benderfyniad yn rhoi gwybod i chi sut i wneud ap锚l ac erbyn pryd y mae鈥檔 rhaid i chi apelio. Mae鈥檙 dyddiad cau fel arfer cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad y llythyr.
Gallwch wneud y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:
- defnyddio鈥檙 ffurflen apelio a gawsoch gyda鈥檆h llythyr o benderfyniad
- ysgrifennu at CThEF gan ddefnyddio鈥檙 cyfeiriad ar y llythyr
Os nad oes gennych lythyr na ffurflen ap锚l, gallwch ysgrifennu at y swyddfa CThEF sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檆h Ffurflen Dreth.听
Bydd rhaid i chi roi gwybod i CThEF beth rydych yn anghytuno ag ef a pham.
Gallwch hefyd gynnwys:
- eich enw neu enw鈥檆h busnes
- eich cyfeirnod 鈥� er enghraifft eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
- unrhyw wybodaeth ychwanegol neu unrhyw beth yr ydych yn meddwl bod CThEF wedi鈥檌 fethu
- y ffigurau cywir yn eich barn chi, a sut yr ydych wedi鈥檜 cyfrifo
Ar 么l i chi anfon eich ap锚l
Bydd y gweithiwr achos a wnaeth y penderfyniad yn edrych ar eich achos eto ac yn ystyried eich ap锚l.听
Bydd eich gweithiwr achos yn ceisio dod i gytundeb 芒 chi. Datrysir y rhan fwyaf o anghytundebau drwy鈥檙 dull hwn. Bydd yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi beth sydd wedi ei benderfynu.
Os na fydd yn newid ei benderfyniad neu os na allwch ddod i gytundeb, bydd adolygiad yn cael ei gynnig i chi.
Byddwch yn cael 30 diwrnod i ddyddiad y cynnig i naill ai dderbyn y cynnig o adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth.听
Fel arfer, mae adolygiadau鈥檔 gynt nag apeliadau i鈥檙 tribiwnlys treth.
Gallwch hefyd ofyn am adolygiad ar unrhyw adeg ar 么l i chi wneud ap锚l 鈥� does dim rhaid i chi aros am ganlyniad yr ap锚l.
I ofyn am adolygiad, ysgrifennwch at yr un swyddfa CThEF yr ydych wedi anfon yr ap锚l ati.
Anghytuno 芒 phenderfyniad treth anuniongyrchol
Bydd adolygiad yn cael ei gynnig i chi gan CThEF yn y llythyr o benderfyniad.
Byddwch yn cael 30 diwrnod i ddyddiad y cynnig i naill ai dderbyn y cynnig o adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth.
Fel arfer, mae adolygiadau鈥檔 gynt nag apeliadau i鈥檙 tribiwnlys treth.
Os hoffech gael adolygiad ond bod angen mwy o amser arnoch (er enghraifft, i gasglu gwybodaeth i鈥檞 rhoi i鈥檙 swyddog adolygu), gallwch ofyn i CThEF ymestyn y dyddiad cau. Mae鈥檔 rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad y cynnig.
Ni allwch gael estyniad i鈥檙 dyddiad cau ar gyfer apelio ar y tribiwnlys treth.
Os yw鈥檆h eitemau wedi鈥檜 hatafaelu, gallwch ofyn am eu cael yn 么l (yn agor tudalen Saesneg).
3. Anghytuno 芒 chosb
Mae鈥檔 bosibl y bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn codi cosb arnoch os byddwch yn gwneud y canlynol:
- cyflwyno Ffurflen Dreth yn hwyr
- talu鈥檆h treth yn hwyr
- cyflwyno Ffurflen Dreth wallus
- methu 芒 chadw cofnodion digonol
Os ydych yn anghytuno 芒鈥檙 gosb, bydd angen i chi egluro鈥檙 rhesymau wrth CThEF. Er enghraifft, os oes gennych esgus rhesymol neu os ydych o鈥檙 farn bod y gosb yn anghywir.
Fel arfer, cewch gysylltu 芒 CThEF neu apelio cyn pen 30 diwrnod i鈥檙 dyddiad yr anfonwyd eich cosb. Os byddwch yn methu鈥檙 dyddiad cau, bydd angen i chi roi rheswm.
Mae gwahanol ffyrdd o herio鈥檙 gosb, yn dibynnu a yw鈥檔 dreth uniongyrchol neu anuniongyrchol.
Cosbau treth uniongyrchol (gan gynnwys Hunanasesiad)
Gwiriwch pryd a sut i apelio yn erbyn cosb Hunanasesiad.
Mae yna ffurflenni penodol mae鈥檔 rhaid i chi eu defnyddio i wneud y canlynol:
- apelio yn erbyn cosb hwyr ar gyfer TWE os ydych chi鈥檔 gyflogwr (yn agor tudalen Saesneg)
- rhoi gwybod i CThEF bod eich Ffurflen Dreth y Cwmni鈥檔 hwyr oherwydd problem gyfrifiadurol (yn agor tudalen Saesneg)听
Ar gyfer unrhyw fath arall o gosb treth uniongyrchol (er enghraifft Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf), dilynwch y cyfarwyddiadau ar y llythyr o gosb neu defnyddiwch y ffurflen ap锚l a ddaeth gydag ef.
Os nad oes gennych ffurflen apelio
Anfonwch lythyr wedi鈥檌 lofnodi i鈥檙 swyddfa CThEF sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檆h Ffurflen Dreth.
Esboniwch pam mae鈥檆h Ffurflen Dreth neu鈥檆h taliad yn hwyr, gan gynnwys dyddiadau.
Dylech hefyd gynnwys y canlynol yn eich llythyr:
- eich enw
- eich cyfeirnod 鈥� er enghraifft, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
Os nad oeddech yn gallu cyflwyno neu dalu oherwydd problemau cyfrifiadurol, dylech gynnwys y canlynol:听
- y dyddiad y gwnaethoch geisio cyflwyno neu dalu ar-lein
- manylion unrhyw neges gwall gan y system
Yr hyn sy鈥檔 digwydd ar 么l i chi herio cosb
Os na fydd CThEF yn newid ei benderfyniad neu os na allwch ddod i gytundeb, bydd adolygiad yn cael ei gynnig i chi.
Gallwch hefyd ofyn am adolygiad ar unrhyw adeg ar 么l i chi wneud ap锚l 鈥� does dim rhaid i chi aros am ganlyniad yr ap锚l.
I ofyn am adolygiad, ysgrifennwch at yr un swyddfa CThEF yr ydych wedi anfon yr ap锚l ati.
Cosbau treth anuniongyrchol (gan gynnwys TAW)
Bydd CThEF yn cynnig adolygiad i chi yn eich llythyr o benderfyniad ynghylch cosb.听
Bydd gennych 30 diwrnod i naill ai dderbyn y cynnig o adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth.
Fel arfer, mae adolygiadau鈥檔 gynt nag apeliadau i鈥檙 tribiwnlys treth.
Cosbau TAW hwyr ar gyfer cyfnodau TAW sy鈥檔 dechrau ar neu ar 么l 1 Ionawr 2023
Y ffordd gyflymaf o dderbyn y cynnig o adolygiad yw drwy ddefnyddio eich cyfrif TAW ar-lein.
Fel arall, gallwch ysgrifennu at CThEF yn uniongyrchol. Rhowch wybod pa gosb rydych yn ei herio a pham.
CThEF / HMRC
Swyddfa鈥檙 Cyfreithiwr a Gwasanaethau Cyfreithiol / Solicitor鈥檚 Office and Legal Services
BX9 1ZT
Cosbau TAW hwyr ar gyfer cyfnodau TAW sy鈥檔 dechrau ar neu cyn 31 Rhagfyr 2022
Mae鈥檔 bosibl eich bod wedi cael math o gosb o鈥檙 enw 鈥榞ordal diffygdalu鈥�. Er mwyn herio gordal diffygdalu, llenwch ffurflen WT2.
4. Cael adolygiad
Gallwch gael penderfyniad treth neu gosb wedi鈥檌 adolygu gan rywun o d卯m gwahanol nad oedd yn rhan o鈥檙 penderfyniad gwreiddiol (鈥榮wyddog adolygu鈥�). Yr enw ar hyn yw 鈥榓dolygiad statudol鈥�.
Ar gyfer penderfyniadau a chosbau treth uniongyrchol, mae鈥檔 rhaid i chi apelio ar Gyllid a Thollau EF (CThEF) yn gyntaf cyn y gallwch gael adolygiad.
Ar gyfer penderfyniadau a chosbau treth anuniongyrchol, bydd CThEF yn cynnig adolygiad i chi wrth anfon ei benderfyniad neu gosb atoch.
Faint o amser y mae adolygiad yn ei gymryd
Fel arfer, mae adolygiadau鈥檔 cymryd 45 diwrnod 鈥� bydd y swyddog adolygu yn cysylltu 芒 chi os bydd yn cymryd yn hirach.
Yr hyn i鈥檞 gynnwys
Pan fyddwch yn gofyn am adolygiad neu鈥檔 derbyn y cynnig, mae鈥檔 helpu i roi gwybod i CThEF am y canlynol:
- eich enw
- eich cyfeirnod, er enghraifft eich rhif cofrestru TAW (VRN)
- pam rydych chi鈥檔 anghytuno
Ar 么l i鈥檙 adolygiad gael ei gwblhau
Pan fydd y swyddog adolygu wedi cwblhau鈥檙 adolygiad, bydd yn ysgrifennu atoch i naill ai:
- ategu鈥檙 penderfyniad (mae鈥檙 penderfyniad gwreiddiol heb ei newid)
- newid y penderfyniad (mae鈥檙 penderfyniad gwreiddiol wedi鈥檌 newid)
- canslo鈥檙 penderfyniad
Os bydd swyddog adolygu鈥檔 ategu neu鈥檔 newid y penderfyniad a鈥檆h bod yn cytuno 芒鈥檙 canlyniad, bydd angen i chi dalu unrhyw swm sydd arnoch.
Os bydd CThEF yn canslo ei benderfyniad ar 么l yr adolygiad, does dim angen i chi wneud dim byd.
Os byddwch yn anghytuno 芒 chanlyniad yr adolygiad, gallwch apelio ar y tribiwnlys treth. Fel arfer, bydd yn rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod i鈥檙 dyddiad ar y llythyr ynghylch canlyniad yr adolygiad.
Gallwch hefyd ystyried dull amgen o ddatrys anghydfod (ADR), ond mae鈥檔 rhaid i chi apelio ar y tribiwnlys treth yn gyntaf.
5. Oedi cyn talu yn ystod apeliadau ac adolygiadau
Mae鈥檔 bosibl y gallwch oedi cyn talu bil treth neu gosb os ydych yn y broses o wneud y canlynol:
- gwneud ap锚l ar y tribiwnlys treth
- gwneud ap锚l i Gyllid a Thollau EF (CThEF)
- cael adolygiad o gosb neu benderfyniad treth
Unwaith y bydd yr ap锚l neu鈥檙 adolygiad wedi鈥檌 setlo, bydd angen i chi dalu unrhyw swm sydd arnoch oni bai bod y penderfyniad yn cael ei ganslo.听
Gellir codi llog ar y dreth sy鈥檔 destun anghydfod (yn agor tudalen Saesneg) arnoch, hyd nes y bydd yn cael ei thalu. Mae鈥檔 bosibl hefyd y bydd cosb am dalu鈥檔 hwyr yn cael ei chodi arnoch.
Treth uniongyrchol
Gallwch ofyn am gael oedi cyn talu rhan o鈥檙 dreth sy鈥檔 destun anghydfod, neu鈥檙 cyfan ohoni, pan fyddwch yn gwneud y canlynol:
- apelio ar CThEF yn erbyn penderfyniad treth
- cael adolygiad naill ai o benderfyniad neu o gosb treth
Bydd gennych 30 diwrnod ar 么l dechrau鈥檙 broses i ofyn am gael oedi cyn talu.
Ysgrifennwch at y swyddfa a anfonodd y penderfyniad atoch, gan gynnwys y canlynol:
- pam rydych chi鈥檔 anghytuno
- beth yw鈥檙 swm cywir yn eich barn chi
- pryd y byddwch yn ei dalu
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi ar bapur a yw鈥檔 cytuno y gallwch oedi cyn talu.
Apelio yn erbyn cosb
Os ydych wedi apelio yn erbyn cosb, ni fydd yn rhaid i chi dalu鈥檙 gosb hyd nes bod eich ap锚l wedi鈥檌 setlo.
Treth anuniongyrchol
Os ydych wedi gofyn i CThEF am adolygiad o benderfyniad treth anuniongyrchol 鈥� er enghraifft, TAW neu Dreth Premiwm Yswiriant 鈥� ni fydd CThEF yn casglu unrhyw dreth sy鈥檔 destun anghydfod hyd nes bod yr adolygiad wedi dod i ben.
Os byddwch yn apelio ar y tribiwnlys treth, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu鈥檙 dreth cyn y bydd y tribiwnlys yn ystyried eich ap锚l.听
Pe bai talu鈥檙 dreth yn achosi trafferthion ariannol i chi, gallwch ofyn i CThEF beidio 芒鈥檌 chasglu hyd nes bo鈥檙 tribiwnlys treth wedi gwneud penderfyniad.
Yr enw ar hyn yw 鈥榗ais o ran caledi鈥�. Gallwch wneud cais o ran caledi drwy ysgrifennu at:
CThEF听/ HMRC
Swyddfa鈥檙 Cyfreithiwr a Gwasanaethau Cyfreithiol / Solicitor鈥檚 Office and Legal Services听
T卯m Caledi / Hardship Team听
Apeliadau ac Adolygiadau / Appeals and Reviews听
S0987听
Newcastle听
NE98 1ZZ听
Dylech gynnwys:
- manylion yr ap锚l, gan gynnwys y swm sydd arnoch
- y rhesymau pam y byddai talu nawr yn achosi caledi
- y swm yr hoffech ei dalu yn nes ymlaen
Cosb
Os ydych wedi gofyn am adolygiad, neu wedi apelio ar y tribiwnlys ynghylch cosb, ni fydd CThEF yn gofyn i chi dalu鈥檙 gosb hyd nes bod eich ap锚l wedi鈥檌 setlo.
6. Esgusodion rhesymol
Fel arfer, bydd angen i chi ddarparu esgus rhesymol os ydych:
- yn dymuno herio rhai cosbau, er enghraifft cosbau am anfon Ffurflen Dreth neu daliad yn hwyr
- yn methu dyddiad cau, er enghraifft bod yn hwyr i dderbyn y cynnig o adolygiad neu i apelio yn erbyn penderfyniad
Yr hyn a all gyfrif fel esgus rhesymol
Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth eich rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth am reswm dilys, er enghraifft:
- bu farw eich partner neu berthynas agos arall ychydig cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth neu wneud taliad
- bu鈥檔 rhaid i chi aros yn yr ysbyty鈥檔 annisgwyl, a gwnaeth hynny eich atal rhag delio 芒鈥檆h materion treth
- roedd gennych salwch difrifol neu salwch a oedd yn bygwth eich bywyd
- methodd eich cyfrifiadur neu鈥檆h meddalwedd tra oeddech yn paratoi鈥檆h Ffurflen Dreth ar-lein
- roedd problemau 芒 gwasanaethau ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF)
- gwnaeth t芒n, llifogydd neu ladrad eich atal rhag llenwi鈥檆h Ffurflen Dreth
- roedd oedi gyda鈥檙 post na allech fod wedi鈥檌 ragweld
- roedd oedi yn ymwneud ag anabledd neu salwch meddwl sydd gennych
- nid oeddech yn ymwybodol o鈥檆h ymrwymiad cyfreithiol neu roeddech wedi鈥檌 gamddeall
- roeddech yn dibynnu ar rywun arall (yn agor tudalen Saesneg) i anfon eich Ffurflen Dreth atom, ac ni wnaeth hynny
Mae鈥檔 rhaid i chi anfon eich Ffurflen Dreth neu鈥檆h taliad cyn gynted ag y gallwch.
Yr hyn na fydd yn cael ei gyfrif fel esgus rhesymol
Ni fydd y canlynol yn cael eu derbyn fel esgusodion rhesymol:
- gwrthodwyd eich siec neu methodd eich taliad gan nad oedd gennych ddigon o arian
- gwnaethoch ei chael hi鈥檔 rhy anodd defnyddio system ar-lein CThEF
- ni chawsoch nodyn atgoffa gan CThEF
- gwnaethoch gamgymeriad yn eich Ffurflen Dreth
7. Dod o hyd i help
Gallwch gysylltu 芒 Chyllid a Thollau EF (CThEF) os oes gennych ymholiad am benderfyniad treth neu gosb.
Os nad ydych yn deall y penderfyniad, gallwch hefyd gael cyngor gan CThEF neu help proffesiynol (yn agor tudalen Saesneg).
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch oherwydd eich amgylchiadau personol, gallwch gael help gan CThEF.
Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd mae CThEF wedi delio 芒鈥檆h materion treth, gallwch wneud cwyn.