Gwneud cais am ysgariad
Sut i wneud cais
Bydd arnoch angen y canlynol i wneud cais am ysgariad:
- eich enw a鈥檆h cyfeiriad llawn chi ac enw a chyfeiriad llawn eich g诺r neu鈥檆h gwraig
- eich tystysgrif priodas wreiddiol neu gopi wedi鈥檌 ardystio (a chyfieithiad wedi鈥檌 ardystio os nad yw鈥檙 dystysgrif yn Saesneg)
- prawf eich bod wedi newid eich enw os ydych wedi ei newid ers i chi briodi - er enghraifft, eich tystysgrif priodas neu weithred newid enw
Gofynnir am gyfeiriad cyfredol eich g诺r neu鈥檆h gwraig. Mae hyn fel bod y llys yn gallu anfon copi o鈥檙 cais am ysgariad atynt. Darllenwch beth i鈥檞 wneud os nad ydych yn gwybod beth yw cyfeiriad eich g诺r neu鈥檆h gwraig.
Os byddwch yn darparu cyfeiriad e-bost eich g诺r neu鈥檆h gwraig, bydd y llys yn anfon y papurau ysgaru atynt trwy e-bost. Os na fyddwch yn darparu cyfeiriad e-bost, bydd y papurau yn cael eu hanfon drwy鈥檙 post.
Ffi
Mae ffi o 拢593 yn daladwy i wneud cais am ysgariad. Mae鈥檙 ffordd y byddwch yn talu yn dibynnu ar sut rydych yn gwneud cais. Ni fydd eich ffi yn cael ei had-dalu ar 么l i鈥檙 hysbysiad bod eich cais am ysgariad wedi cychwyn gael ei anfon atoch.
Os oes arnoch angen help i dalu鈥檙 ffi
Efallai y gallwch gael help i dalu鈥檙 ffi os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel. Gallwch wneud cais am yr help hwn ar-lein neu drwy lenwi ffurflen gais bapur.
Os byddwch yn gwneud cais am help i dalu ffioedd ar-lein, byddwch yn cael cyfeirnod. Rhowch y cyfeirnod hwnnw pan fyddwch yn gwneud cais am ysgariad fel na fydd rhaid ichi dalu鈥檙 ffi ymlaen llaw.
Os byddwch yn defnyddio ffurflen papur i wneud cais am help i dalu ffioedd, ni fyddwch yn cael cyfeirnod. Os nad ydych eisiau talu鈥檙 ffi ymlaen llaw, gwnewch gais am ysgariad trwy鈥檙 post a chynnwys eich ffurflen bapur am help i dalu ffioedd gyda鈥檆h cais am ysgariad.
Yna gwneir penderfyniad ynghylch eich cais am help i dalu ffioedd. Yn ddibynnol ar y penderfyniad a wneir, efallai gofynnir i chi dalu rhan o鈥檙 ffi, neu鈥檙 ffi lawn.
Os ydych yn gwneud cais ar y cyd am ysgariad ac rydych eisiau help i dalu鈥檙 ffi, rhaid i鈥檙 ddau ohonoch wneud cais am help. Os nad yw eich g诺r neu鈥檆h gwraig yn gymwys neu ddim yn gwneud cais, bydd rhaid ichi dalu鈥檙 ffi lawn.
Gwneud cais ar-lein neu barhau 芒 chais sy鈥檔 bodoli鈥檔 barod
Bydd arnoch angen cerdyn debyd neu gredyd i wneud cais ar-lein.
Gall cyfreithwyr wneud cais ar-lein gan ddefnyddio cyfrif MyHMCTS.
Os bu ichi gychwyn gwneud cais cyn 6 Ebrill 2022
.
Os oes arnoch angen help i wneud cais ar-lein
Mae pwy y dylech gysylltu 芒 hwy yn dibynnu ar y math o help sydd ei angen arnoch.
Os ydych yn cael problemau technegol neu angen cyfarwyddyd ar sut i wneud cais
Canolfan Gwasanaethau鈥檙 Llysoedd a鈥檙 Tribiwnlysoedd
Rhif ff么n ar gyfer siaradwyr Cymraeg: 0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau
Os nad oes gennych fynediad i鈥檙 rhyngrwyd neu os nad ydych yn teimlo鈥檔 hyderus yn defnyddio鈥檙 rhyngrwyd
We Are Group
support@wearegroup.com
Rhif ff么n: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio鈥檔 么l
Gwybodaeth am gost galwadau
Gwneud cais drwy鈥檙 post
Llenwch ffurflen gais am ysgariad D8 i gychwyn cais am ysgariad.
Gallwch gael cymorth i lenwi鈥檙 ffurflen mewn swyddfa .
Anfonwch gopi o鈥檙 ffurflen i:
Gwasanaeth Ysgariadau a Diddymiadau GLlTEF
Blwch Post 13226
Harlow
CM20 9UG
Cadwch gopi o鈥檙 ffurflen i chi eich hun.
Sut i dalu
Gallwch dalu un ai gyda:
- cherdyn debyd neu gredyd - Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn eich ffonio neu鈥檔 anfon e-bost atoch gyda鈥檙 manylion talu
- siec - yn daladwy i 鈥楪wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF鈥�