Canllawiau

Cofrestru 芒 MyHMCTS: rheoli achosion ar-lein ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith

Sut i greu cyfrif MyHMCTS ar gyfer sefydliad i reoli, cyflwyno a thalu am rai achosion sifil, teulu a thribiwnlys.

Lluniwyd y cyfarwyddyd hwn i helpu gweinyddwyr cyfrif MyHMCTS i gofrestru eu sefydliad ac i ychwanegu defnyddwyr. Am ragor o wybodaeth ar fewngofnodi i MyHMCTS i reoli achos, gweler ein cyfarwyddyd ar cyflwyno neu ymateb i gais.

Gwybodaeth am MyHMCTS

Adnodd rheoli achosion yw MyHMCTS sy鈥檔 eich galluogi i gyflwyno a thalu am geisiadau a hefyd rheoli ceisiadau neu ymatebion ar-lein ar gyfer:

  • hawliadau am iawndal yn y llys sifil
  • hawliadau am arian yn y llys sifil
  • ysgariad
  • tribiwnlysoedd cyflogaeth
  • gorchmynion cyfraith deulu gyhoeddus
  • rhwymedi ariannol
  • apeliadau mewnfudo a lloches
  • profiant

Cyn ichi ddechrau

Os oes gennych Rif Trosglwyddiad Cyfrif (PBA) GLlTEF, gallwch ei ychwanegu pan fyddwch yn cofrestru, er nid oes rhaid ichi wneud hyn. Gallwch ei ychwanegu yn hwyrach ymlaen.

Gwasanaeth credyd i sefydliadau sy鈥檔 defnyddio gwasanaethau GLlTEF yn aml yw PBA. Mae sefydliad sydd wedi cofrestru yn dod yn ddaliwr cyfrif ffi a gall dalu ffioedd gan ddefnyddio rhif PBA a ddynodwyd iddo. Gwiriwch gyda鈥檆h cydweithwyr eraill nad yw eich sefydliad wedi cofrestru鈥檔 barod 芒 MyHMCTS. Gallwch hefyd gael cymorth gyda MyHMCTS.

Creu cyfrif MyHMCTS ar gyfer eich sefydliad

I greu cyfrif byddwch angen:

  • rhif PBA eich sefydliad
  • cyfeirnod DX y brif swyddfa, os oes gennych un
  • rhif cofrestru Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) eich sefydliad neu fanylion cofrestriad proffesiynol cyfatebo, os yw hynny鈥檔 berthnasol
  • enw a chyfeiriad e-bost gwaith rhywun yn eich sefydliad fydd wedyn yn 鈥榳einyddwr cyfrif鈥� MyHMCTS - nhw fydd yn gyfrifol am greu a rheoli defnyddwyr MyHMCTS yn eich sefydliad

Os byddwch yn defnyddio eich enw a鈥檆h cyfeiriad e-bost chi, yna chi fydd gweinyddwr y cyfrif wedyn. Gallwch newid gweinyddwr y cyfrif ar 么l i鈥檙 cyfrif gael ei greu.

Gall sefydliadau gael gweinyddwyr eraill ac nid oes angen ichi fod yn weinyddwr y cyfrif i allu cyflawni tasgau gweinyddol. Gallwch gofrestru gweinyddwyr eraill pan fyddwch yn creu eu cyfrif neu ar 么l i鈥檞 cyfrif gael ei greu.

Ni ddylech ddefnyddio cyfeiriad e-bost t卯m neu gyfeiriad e-bost cyffredinol i gofrestru ar gyfer MyHMCTS ac agor cyfrif eich sefydliad. Rhaid i gyfeiriad e-bost gweinyddwr y cyfrif fod yn gyfeiriad e-bost unigolyn penodol.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Byddwn yn anfon neges e-bost cadarnhau atoch o fewn 3 diwrnod gwaith, unwaith y byddwn wedi dilysu鈥檙 cais.

Byddwn hefyd yn anfon neges e-bost i greu cyfrinair i orffen agor y cyfrif. Fe anfonir y neges e-bost o hm.courts.and.tribunals.registrations@notifications.service.gov.uk. Bydd pob neges e-bost, gan gynnwys codau dilysu, yn cael ei hanfon o鈥檙 cyfeiriad e-bost hwn.

Mae鈥檔 rhaid i chi ychwanegu鈥檙 cyfeiriad hwn i鈥檆h rhestr o gyfeiriadau e-bost diogel. Os oes gan eich sefydliad feddalwedd diogelwch ychwanegol, rhaid i chi ychwanegu鈥檙 cyfeiriad e-bost i鈥檙 rhestr o gyfeiriadau e-bost diogel hon hefyd. Os oes gennych adran TG, gallant eich helpu i wneud hyn. Os nad oes gennych adran TG, rhowch yr ymadrodd 鈥榬hestr o gyfeiriadau e-bost diogel鈥� yn adnodd cymorth eich meddalwedd e-bost.

Mae鈥檔 rhaid i chi greu eich cyfrinair o fewn 20 diwrnod. Os na fyddwch yn creu鈥檙 cyfrinair o fewn y cyfnod hwn, gallwch gael cymorth gyda MyHMCTS. Dylech wirio eich ffolder 鈥榮pam鈥� neu 鈥榡unk鈥� os na fyddwch wedi cael neges e-bost.

Unwaith y bydd eich cyfrif wedi鈥檌 agor gallwch reoli cyfrif eich sefydliad yn .

Problemau gyda chofrestru

Os oes yna broblem gyda chofrestru eich sefydliad 芒 MyHMCTS, byddwn yn anfon neges i鈥檙 cyfeiriad e-bost a ddarparwyd.

Os na chafodd rhif cyfrif PBA eich sefydliad ei ychwanegu pan wnaethoch gofrestru, gallwch ei ychwanegu i鈥檙 cyfrif yn hwyrach ymlaen - gweler ein cyfarwyddyd ar reoli eich cyfrif.

Dilysu eich cyfrif

Bob tro y byddwch yn mewngofnodi i鈥檆h cyfrif, byddwn yn anfon cod dilysu atoch. Bydd y cod yn gweithio am 90 munud.

Os byddwch yn cymryd mwy o amser na hyn i ddefnyddio鈥檙 cod, bydd rhaid ichi fewngofnodi i鈥檙 system eto a gofyn am god newydd.

Os nad ydych wedi cael cod ar 么l aros am 20 munud, cysylltwch 芒 [email protected].

Cyfrifoldebau gweinyddwr cyfrif MyHMCTS

Gweinyddwr cyfrif yw unrhyw ddefnyddiwr sydd 芒 mynediad llawn 芒 chyfrifoldebau i MyHMCTS. Fel arfer, gweinyddwr cyfrif yw鈥檙 unigolyn a wnaeth gofrestru鈥檙 sefydliad ar gyfer MyHMCTS ac sy鈥檔 gallu creu gweinyddwyr cyfrif eraill.

Fel gweinyddwr y cyfrif, gallwch:

  • wahodd a rheoli defnyddwyr
  • rheoli cyfrif y sefydliad
  • rheoli pa ddefnyddwyr yn y sefydliad sy鈥檔 gallu rheoli achosion

Gall unrhyw un yn y sefydliad fod yn weinyddwr cyfrif ond rhaid iddynt fod yn unigolyn penodol - ni allwch ddefnyddio cyfeiriad e-bost cyffredinol. Rydym yn cynghori pob sefydliad i fod ag o leiaf 2 weinyddwr cyfrif rhag ofn y bydd un ohonynt ar wyliau neu鈥檔 gadael y sefydliad. Gallwch benodi unigolion sy鈥檔 gweithio yn y sefydliad yn barod i fod yn weinyddwr cyfrif.

Gwasanaeth Cymraeg i weithwyr proffesiynol

Gallwch greu a rheoli eich achosion yn Gymraeg drwy glicio ar y botwm Cymraeg sydd ar ochr dde uchaf unrhyw dudalen yn MyHMCTS. Dim ond pan fyddwch yn rheoli achos y mae鈥檙 opsiwn hwn ar gael, ac nid pan fyddwch yn cofrestru neu鈥檔 rheoli cyfrif sefydliad.鈥� 鈥� Os nad yw鈥檙 botwm iaith yn gweithio, anfonwch e-bost i [email protected]. 鈥� Os nad yw cyfieithiad Cymraeg yn ymddangos yn gywir, anfonwch e-bost i鈥�[email protected]. Pan fydd y gwasanaeth newydd gael ei ddiweddaru, efallai y byddwch yn gweld testun Saesneg yn hytrach na thestun Cymraeg tra bydd y testun yn cael ei gyfieithu. 鈥� Os ydych angen cymorth gydag achos, cyfeiriwch at y cyfarwyddyd ar reoli achosion a chael mynediad i achosion yn MyHMCTS

Cymorth gyda MyHMCTS

Mewngofnodi i鈥檆h cyfrif MyHMCTS a鈥檌 reoli

Cyfarwyddyd i sefydliadau a thasgau gweinyddol defnyddwyr yn MyHMCTS

Os ydych yn cael trafferth defnyddio MyHMCTS, gwnewch yn si诺r eich bod yn defnyddio鈥檙 ddolen gywir:

  • i reoli cyfrif y sefydliad neu ddefnyddiwr, neu i weld achosion sydd wedi鈥檜 haseinio neu heb eu haseinio. defnyddiwch https://manage-org.platform.hmcts.net
  • i reoli achos, defnyddiwch https://manage-case.platform.hmcts.net Dylech hefyd wneud yn si诺r eich bod yn:
  • defnyddio porwr we sydd wedi鈥檌 ddiweddaru - rydym yn argymell eich bod yn defnyddio Google Chrome neu Microsoft Edge (ni allwch ddefnyddio Internet Explorer neu Apple Safari)
  • clirio eich cwcis a鈥檆h cof dros dro (cache)
  • gwirio eich gosodiadau diogelwch a wal t芒n

Rydym yn argymell eich bod yn rhoi nod tudalen ar dudalen we MyHMCTS neu鈥檔 ei hychwanegu at eich rhestr ffefrynnau. Dylech ond wneud hyn ar 么l i chi fewngofnodi i MyHMCTS ac rydych ar y dudalen gartref. Peidiwch 芒 gwneud hyn o鈥檙 dudalen fewngofnodi neu鈥檙 dudalen ddilysu, neu tra bod gennych fanylion achos neu sefydliad ar agor.

Os ydych dal i gael trafferth mewngofnodi i MyHMCTS, ceisiwch ddefnyddio dyfais wahanol.

Os oes gennych d卯m cymorth TG yn eich sefydliad, yna byddant yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau gyda鈥檆h dyfais, porwr we a gosodiadau diogelwch.

Os ydych angen cymorth pellach gyda鈥檆h cyfrif MyHMCTS, anfonwch neges e-bost i [email protected]. Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Rheoli achosion a chael mynediad at achosion yn MyHMCTS

Cyfarwyddyd ar dasgau gweinyddol achosion yn MyHMCTS, gan gynnwys ffeilio hysbysiad o gais am newid.

Os ydych angen cymorth gydag achos penodol neu i reoli achos yn MyHMCTS, cyfeiriwch at y cyfarwyddyd perthnasol i ganfod gyda phwy y dylech gysylltu.

Mae yna ddolenni i ganllawiau gwasanaeth amrywiol yn ein cyfarwyddyd ar cyflwyno neu ymateb i gais.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Mawrth 2024 show all updates
  1. Added guidance about managing cases in Welsh

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon