Apelio i'r tribiwnlys treth
Printable version
1. Trosolwg
Gallwch apelio i鈥檙 Tribiwnlys Haen Gyntaf (Treth) os ydych am herio rhai penderfyniadau gan:
- Gyllid a Thollau EF (CThEF)
- Llu鈥檙 Ffiniau
- Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA)
- Awdurdod Cyllid Cymru (WRA)
- Y Comisiwn Hapchwarae (dim ond
Mae鈥檙 tribiwnlys yn annibynnol ar y llywodraeth, CThEF, Llu鈥檙 Ffiniau, NCA, WRA a鈥檙 Comisiwn Hapchwarae. Bydd yn gwrando ar ddwy ochr y ddadl cyn gwneud penderfyniad.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Apelio yn erbyn penderfyniad CThEF
Gallwch apelio yn erbyn y rhan fwyaf o benderfyniadau ynghylch 鈥榯reth uniongyrchol鈥� a 鈥榯hreth anuniongyrchol鈥�.
Mae treth uniongyrchol yn cynnwys:
- Treth Incwm
- Treth Talu Wrth Ennill
- Treth Gorfforaeth
- Treth Enillion Cyfalaf
- Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
- Treth Etifeddiant
Mae treth anuniongyrchol yn cynnwys:
- Treth ar Werth
- Toll Gartref
- Toll Dramor
Mae sut i apelio yn erbyn penderfyniad yn dibynnu ar p鈥檜n a yw鈥檔 ymwneud 芒 threth uniongyrchol neu dreth anuniongyrchol.
Mae鈥檔 rhaid i chi apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch treth uniongyrchol i CThEF cyn y gallwch apelio i鈥檙 tribiwnlys.
Gan amlaf, gallwch apelio yn erbyn penderfyniadau treth anuniongyrchol yn syth i鈥檙 tribiwnlys. Cyn apelio i鈥檙 tribiwnlys, gallwch wneud cais am adolygiad statudol. Gall hyn fod yn gynt ac yn rhatach na mynd at y tribiwnlys. Gallwch apelio i鈥檙 tribiwnlys o hyd os nad ydych yn cytuno 芒鈥檙 canlyniad.
Mae鈥檔 rhaid i chi apelio cyn pen y terfyn amser - fel arfer, bydd wedi鈥檌 nodi ar unrhyw lythyr o benderfyniad a gewch.
Os ydych wedi apelio i鈥檙 tribiwnlys a bod eich ap锚l wedi鈥檌 derbyn, gallwch wneud cais i CThEF am ddull amgen o ddatrys anghydfod (ADR).
Mae yna ffordd wahanol i apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch credydau treth a Treth y Cyngor.
Os na allwch dalu
Fel arfer mae鈥檔 rhaid i chi dalu unrhyw dreth anuniongyrchol y mae CThEF yn dweud sy鈥檔 ddyledus gennych ar unwaith. Gwnewch gais caledi os na allwch wneud hynny. Gwnewch ap锚l i鈥檙 tribiwnlys os na fydd CThEF yn gadael i chi oedi cyn talu.
Gan amlaf, gallwch oedi cyn talu unrhyw dreth uniongyrchol tan ar 么l i鈥檙 ap锚l gael ei phenderfynu. Gwnewch ap锚l i鈥檙 tribiwnlys os na fydd CThEF yn gadael i chi oedi cyn talu.
Nid oes rhaid i chi dalu ar unwaith os ydych chi鈥檔 apelio yn erbyn cosb.
Ap锚l am nwyddau wedi鈥檜 hatafaelu
Rhaid i chi ofyn i Lu鈥檙 Ffiniau neu CThEF fynd 芒鈥檆h achos i鈥檙 llys ynadon (gelwir hyn yn dechrau 鈥榓chos condemnio鈥�) os credwch na ddylent fod wedi cymryd (neu 鈥榓tafaelu鈥�) eich nwyddau.
Efallai y gallwch apelio i鈥檙 tribiwnlys os yw Llu鈥檙 Ffiniau neu CThEF:
- yn gwrthod dychwelyd eich nwyddau wedi鈥檜 hatafaelu
- yn dweud bod angen i chi dalu i gael eich nwyddau wedi鈥檜 hatafaelu yn 么l
Cyn y gallwch apelio yn erbyn gwrthod dychwelyd eich nwyddau wedi鈥檜 hatafaelu, rhaid i chi ofyn i naill ai Llu鈥檙 Ffiniau neu CThEF adolygu eu penderfyniad. Os ydych wedi methu鈥檙 terfyn amser ar gyfer adolygiad, gallwch wneud cais i鈥檙 tribiwnlys i gael caniat芒d i ofyn am adolygiad hwyr.
Os gofynnwyd i chi dalu toll neu gosb
Efallai y gallwch apelio os yw CThEF:
- yn anfon asesiad atoch ar gyfer toll
- yn gosod cosb arnoch
Cyn i chi apelio, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu am asesiad toll. Os na allwch, gallwch wneud cais i CThEF i ohirio ei dalu tan ar 么l i鈥檙 ap锚l ddod i ben.
Nid oes angen i chi dalu cosb cyn i chi apelio.
Ceisiadau cau
Gallwch wneud cais am 鈥榟ysbysiad cau鈥� os yw CThEF yn agor ymholiad i wirio鈥檆h ffurflen dreth am 鈥榙reth uniongyrchol鈥� ac rydych chi am iddo gael ei gau.
Bydd y tribiwnlys yn penderfynu pryd y dylai CThEF gau鈥檙 ymchwiliad.
Ni allwch wneud cais am hysbysiad cau os yw鈥檆h ffurflen dreth yn cael ei gwirio am dreth anuniongyrchol.
Apelio yn erbyn penderfyniad gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA)
Gall NCA wirio鈥檆h ffurflen dreth yn lle CThEF mewn rhai achosion.
Gallwch wneud ap锚l os nad ydych yn cytuno 芒鈥檙 penderfyniad trwy ysgrifennu at NCA. Mae鈥檔 rhaid i chi apelio i鈥檙 NCA cyn y gallwch apelio i鈥檙 tribiwnlys.
Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol / National Crime Agency
Units 1 - 6 Citadel Place
Tinworth Street
Llundain
SE11 5EF
Apelio yn erbyn penderfyniad gan Awdurdod Cyllid Cymru (WRA)
Gallwch apelio yn erbyn rhai penderfyniadau a wnaed gan WRA ynghylch y Dreth Trafodiadau Tir a鈥檙 Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Gallwch hefyd wneud cais i gau ymholiad i鈥檆h ffurflen dreth.
Rhaid i chi apelio o fewn y terfyn amser - nodir hwn fel arfer ar eich llythyr penderfyniad.
Fel arfer mae鈥檔 rhaid i chi dalu鈥檙 hyn y mae WRA yn ei ddweud sy鈥檔 ddyledus gennych ymlaen llaw. Gallwch ofyn am gael talu ar 么l i chi gael penderfyniad am eich ap锚l. Os byddwch yn oedi cyn talu, efallai y codir llog arnoch ar y swm sy鈥檔 ddyledus gennych.
Cyn i chi apelio, gallwch .
Cymorth y gallwch ei gael
Efallai y byddwch am gael cymorth a chyngor cyn i chi apelio. Efallai y gall cyfrifydd, cynghorydd treth neu gynghorydd cyfreithiol eich helpu chi.
Gallwch gael cyngor am ddim gan:
- , os ydych chi dros 60 oed
Darllenwch wybodaeth fwy manwl ynghylch apelio i鈥檙 tribiwnlys.
2. Apelio i'r tribiwnlys
Gallwch apelio i鈥檙 tribiwnlys treth ar-lein.
Bydd arnoch angen:
- sgan neu lun o鈥檆h hysbysiad gwreiddiol neu lythyr casgliad adolygiad
- rhesymau dros eich ap锚l, fel y gall y barnwr ddeall eich ochr chi o鈥檙 ddadl
Os byddwch yn apelio mwy na 30 diwrnod ar ol y dyddiad ar eich llythyr penderfynu, bydd angen ichi egluro pam bod eich apel yn hwyr.
Gallwch hefyd ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn i wneud cais i gau ymholiad.
Os ydych chi am i rywun eich cynrychioli chi
Mae angen i chi lawrlwytho a llenwi ffurflen awdurdodi os nad yw鈥檙 sawl sy鈥檔 eich cynrychioli yn gyfreithiwr neu鈥檔 fargyfreithiwr sy鈥檔 ymarfer.
Apelio drwy鈥檙 post
Lawrlwythwch a llenwch ffurflen hysbysiad o ap锚l (T240).
Os ydych yn gwneud cais i gau ymholiad sy鈥檔 bodoli鈥檔 barod, lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais (T245).
Anfonwch eich ffurflen wedi鈥檌 llenwi i鈥檙 tribiwnlys. Mae鈥檙 cyfeiriad ar y ffurflen.
Os oes angen help arnoch
Cysylltwch 芒鈥檙 tribiwnlys treth os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich ap锚l. Ni all y tribiwnlys roi cyngor cyfreithiol i chi.
Tribiwnlys treth
[email protected]
Ff么n: 0300 303 5176
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am - 5pm, dydd Gwener, 9am - 4:30pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Beth fydd yn digwydd nesaf
Cewch lythyr gan y tribiwnlys yn esbonio beth fydd yn digwydd nesaf. Efallai y gofynnir i chi ddarparu mwy o ddogfennau i gefnogi eich achos.
Ni fydd pob achos yn cael gwrandawiad, ond gallwch ofyn am un. Fel arfer, byddwch yn cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd o ddyddiad y gwrandawiad. Bydd y tribiwnlys yn ysgrifennu atoch gyda manylion yr hyn y mae angen i chi ei wneud.
3. Os oes gennych wrandawiad
Byddwch yn cael gwybod pryd a sut y cynhelir y gwrandawiad.
Gall eich gwrandawiad ddigwydd dros y ff么n, drwy fideo neu wyneb yn wyneb. Darllenwch sut i gymryd rhan mewn gwrandawiad ff么n neu fideo.
Gallwch .
Os ydych chi neu eich tyst neu gynrychiolydd y tu allan i鈥檙 DU ac eisiau rhoi tystiolaeth trwy gyswllt fideo neu sain byw, cysylltwch 芒鈥檙 tribiwnlys i wneud cais am hyn. Dywedwch wrth y tribiwnlys ym mha wlad ydych chi, y tyst neu鈥檙 cynrychiolydd a pha fath o dystiolaeth sy鈥檔 cael ei rhoi. Mae鈥檔 rhaid i chi wneud hyn cyn gynted 芒 phosibl.
Dogfennau y bydd arnoch eu hangen
Gofynnir i chi am gop茂au o鈥檙 holl ddogfennau sy鈥檔 berthnasol i鈥檆h ap锚l (fel llythyrau, anfonebau a chyfrifon) ynghyd 芒鈥檆h hysbysiad o ap锚l.
Rhaid i chi hefyd roi eich llythyr penderfyniad i鈥檙 tribiwnlys ac unrhyw ymateb a wnaethoch.
Efallai y cewch 鈥榝wndel鈥� o ddogfennau cyn y gwrandawiad. Gan amlaf, fe anfonir hwn atoch ar e-bost, ond gallwch ofyn am gael copi papur. Bydd eich llythyr cydnabod ap锚l yn dweud wrthych sut i wneud hyn.
Rhaid i chi ddod 芒鈥檙 鈥榖wndel鈥� o ddogfennau i鈥檙 gwrandawiad.
Pwy fydd yn y gwrandawiad
Gallwch gynrychioli eich hun yn y gwrandawiad neu drefnu bod cynrychiolydd yn gweithredu ar eich rhan. Gall y cynrychiolydd fod yn gynghorydd cyfreithiol, yn gynghorydd treth neu鈥檔 gyfrifydd
Bydd panel tribiwnlys yn cael ei arwain gan farnwr. Mewn rhai achosion, gall y tribiwnlys benodi aelodau eraill i鈥檙 panel.
Gall cynrychiolwyr o鈥檙 sefydliad rydych yn apelio yn ei erbyn ddod i鈥檙 gwrandawiad.
Bydd y gwrandawiad yn agored i aelodau鈥檙 cyhoedd.
Gallwch hefyd ofyn i unrhyw un o鈥檙 bobl ganlynol ddod i鈥檙 gwrandawiad:
- cynrychiolydd, os oes gennych un
- ffrind, aelod o鈥檙 teulu neu gydweithiwr
- tyst, os oes angen un arnoch
Os ydych yn cael gwrandawiad fideo, bydd angen i chi ddweud wrth y tribiwnlys os oes unrhyw un o鈥檙 bobl hyn yn dod fel y gellir rhoi mynediad iddynt i鈥檙 gwrandawiad.
Ni fydd y tribiwnlys yn talu am unrhyw gostau teithio na llety i ganiat谩u i chi nac unrhyw un o鈥檙 bobl hyn fynychu鈥檙 gwrandawiad.
Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad
Byddwch chi (neu鈥檆h cynrychiolydd) yn cyflwyno鈥檆h achos i鈥檙 tribiwnlys. Rhaid i chi esbonio:
- yr hyn y cytunwyd arno
- beth rydych chi鈥檔 meddwl sy鈥檔 anghywir
- pa dystiolaeth sydd gennych i鈥檆h cefnogi, fel unrhyw ddogfennau neu dystion
Bydd cynrychiolwyr o鈥檙 parti arall yn cyflwyno鈥檙 achos yn eich erbyn.
Gall y tribiwnlys a鈥檙 parti arall ofyn cwestiynau yn ystod y gwrandawiad hefyd.
4. Penderfyniad y tribiwnlys
Fel arfer, byddwch yn cael penderfyniad y tribiwnlys:
- yn ysgrifenedig, os na chawsoch wrandawiad (bydd y penderfyniad yn seiliedig ar y ffurflen ap锚l a鈥檙 gwaith papur arall)
- yn ysgrifenedig o fewn 1 mis, os ydych wedi cael achos 鈥榮ylfaenol鈥� - byddwch weithiau鈥檔 cael penderfyniad ar y diwrnod
- yn ysgrifenedig o fewn 2 fis, os ydych wedi cael gwrandawiad 鈥榮afonol鈥� neu 鈥榞ymhleth鈥�
Os byddwch yn colli eich achos
Os byddwch yn colli eich achos, efallai y gellir:
- 鈥榬hoi鈥檙 penderfyniad o鈥檙 neilltu鈥�
- gofyn am ganiat芒d i apelio
Rhoi penderfyniad o鈥檙 鈥榥eilltu鈥�
Gallwch ofyn i benderfyniad gael ei 鈥榬oi o鈥檙 neilltu鈥� (ei ganslo), dim ond os ydych chi鈥檔 meddwl bod camgymeriad yn y broses. Bydd y llythyr a gewch gyda鈥檙 penderfyniad yn dweud wrthych sut i wneud hyn. Cysylltwch 芒 os oes angen help arnoch.
Gofyn am ganiat芒d i apelio
Efallai y byddwch yn gallu apelio yn erbyn y penderfyniad os gwnaeth y tribiwnlys gamgymeriad cyfreithiol, er enghraifft os na wnaeth:
- weithredu鈥檙 gyfraith yn gywir
- egluro ei benderfyniad yn llawn
-
Gofynnwch am resymau ysgrifenedig llawn os nad ydych eisoes wedi鈥檜 cael. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 28 diwrnod i鈥檙 dyddiad ar yr hysbysiad o benderfyniad - bydd yr hysbysiad o benderfyniad yn dweud wrthych sut i wneud hynny.
-
Gofynnwch am ganiat芒d i apelio - lawrlwythwch y ffurflen ap锚l a darllenwch y nodiadau canllaw. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 56 diwrnod i鈥檙 dyddiad a roddir ar y rhesymau ysgrifenedig llawn.
Anfonwch y ffurflen ap锚l i:
Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Dreth) / First-tier Tribunal (Tax Chamber)
PO Box 16972
Birmingham
B16 6TZ
Tribiwnlys Treth
[email protected]
Ff么n: 0300 303 5176
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am - 5pm, dydd Gwener, 9am - 4:30pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Ar 么l ichi anfon y ffurflen
Bydd barnwr yn penderfynu a allwch fynd 芒鈥檆h achos i dribiwnlys uwch, o enw鈥檙 Uwch Dribiwnlys (Treth a Siawnsri). Apeliwch i鈥檙 Uwch Dribiwnlys os cewch ganiat芒d.
Os gwrthodir caniat芒d i chi apelio
Gallwch wneud cais i鈥檙 Uwch Dribiwnlys am ganiat芒d i apelio os yw鈥檙 Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gwrthod, neu ond yn rhoi caniat芒d i chi apelio ar sail gyfyngedig.
5. Deddfwriaeth a phenderfyniadau blaenorol
Darllenwch y rheolau y mae鈥檔 rhaid i鈥檙 tribiwnlys eu dilyn a鈥檌 benderfyniadau ar achosion blaenorol.
Penderfyniadau blaenorol
Chwiliwch am benderfyniadau鈥檙 tribiwnlys treth i weld sut a pham y cawsant eu gwneud.
Deddfwriaeth
Rhaid i鈥檙 tribiwnlys ddilyn Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlys (Tribiwnlys Haen Gyntaf) (Siambr Dreth) 2009.
Darllenwch y i gael canllawiau manylach.
Sefydlwyd y tribiwnlys gan a .