Debyd Uniongyrchol

Trefnwch Ddebyd Uniongyrchol drwy’ch i wneud taliadau unigol ar gyfer 31 Ionawr.

Gallwch hefyd drefnu Debyd Uniongyrchol arall os oes angen i chi wneud taliad ar gyfrif.

Os ydych am wneud mwy nag un taliad cyn y dyddiad cau, bydd angen i chi drefnu taliadau unigol bob tro y byddwch am dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Er mwyn gwneud taliadau Debyd Uniongyrchol wythnosol neu fisol tuag at eich bil treth Hunanasesiad nesaf, trefnwch Gynllun Talu Cyllidebol.

Os nad ydych wedi defnyddio’ch Debyd Uniongyrchol am 2 flynedd neu fwy, gwiriwch â’ch banc ei fod wedi’i drefnu o hyd.

Dod o hyd i’r cyfeirnod ar gyfer eich Debyd Uniongyrchol

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau. Dyma’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K�.

Bydd hwn naill ai:

  • yn eich
  • ar eich slip talu, os ydych yn cael datganiadau papur

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.