Talu eich bil TAW

Printable version

1. Trosolwg

Mae’n rhaid i chi dalu’ch bil TAW erbyn y dyddiad cau a ddangosir ar eich Ffurflen TAW.

Mae dyddiadau cau gwahanol os ydych yn defnyddio:

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Talu’ch bil mewn pryd

Sicrhewch y bydd eich taliad yn cyrraedd cyfrif banc CThEF erbyn y dyddiad cau.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu gordal neu gosb os na fyddwch yn talu mewn pryd.

Gwiriwch beth i’w wneud os na allwch dalu’ch bil treth mewn pryd.

Sut i dalu

Gallwch wneud y canlynol:

Cael ad-daliadau TAW

Nid yw CThEF yn defnyddio manylion cyfrif banc Debyd Uniongyrchol ar gyfer ad-daliadau TAW.

I sicrhau y caiff ad-daliadau TAW eu talu i’ch cyfrif banc, . Fel arall, bydd CThEF yn anfon siec atoch.

2. Talu drwy Ddebyd Uniongyrchol

Defnyddiwch eich cyfrif TAW ar-lein er mwyn trefnu Debyd Uniongyrchol.

Dylech drefnu’r Debyd Uniongyrchol o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW. Fel arall, ni fydd y taliad yn cael ei gymryd o’ch cyfrif banc.

Os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen TAW yn hwyr, bydd eich taliad yn cael ei gymryd 3 diwrnod ar ôl i chi ei chyflwyno.

Os nad ydych wedi defnyddio’ch Debyd Uniongyrchol am 2 flynedd neu fwy, gwiriwch â’ch banc ei fod wedi’i drefnu o hyd.

Sefydlu Debyd Uniongyrchol

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen eich rhif cofrestru TAW 9 digid arnoch i wneud taliad.

Gallwch ddod o hyd i’ch rhif cofrestru:Ìý

  • yn eich Ìý

  • ar eich tystysgrif cofrestru TAW

Peidiwch â rhoi unrhyw fylchau rhwng y digidau wrth dalu’ch bil TAW.

Os oes angen i chi dalu gordal TAW neu gosb

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod 14 o gymeriadau sy’n dechrau gydag X pan fyddwch chi’n talu.

Gallwch ddod o hyd iddo ar y llythyr a anfonodd Cyllid a Thollau EF (CThEF) atoch am eich gordal neu gosb.

Ar ôl i chi drefnu Debyd Uniongyrchol

Unwaith y byddwch wedi trefnu’r Debyd Uniongyrchol a chyflwyno’ch ffurflen TAW, cesglir taliadau yn awtomatig o’ch cyfrif banc 3 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad cau ar gyfer talu sydd ar eich Ffurflen TAW.Ìý

Pryd na allwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol

Mae’n rhaid i chi dalu gan ddefnyddio dull arall os ydych yn gwneud y canlynol:

Ni allwch sefydlu Debyd Uniongyrchol i gymryd taliadau yn awtomatig am ordal neu gosb TAW, gallwch dalu’r rhain mewn ffordd wahanol.

3. Talu gan ddefnyddio dull talu arall

Bydd angen i chi defnyddio eich rhif cofrestru TAW 9 digid, heb fylchau, fel y cyfeirnod talu. Mae’ch rhif cofrestru i’w weld:

  • yn eich

  • ar eich tystysgrif cofrestru TAW

Os ydych yn talu gordal neu gosb, bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod, sy’n 14 o gymeriadau ac sy’n dechrau gydag ‘X�.

Gallwch ddod o hyd iddo ar y llythyr a anfonom atoch ynghylch eich gordal neu gosb.

Gallwch gyfrifo’r dyddiad cau ar gyfer talu TAW, a faint o amser i’w ganiatáu, drwy ddefnyddio’r gyfrifiannell benodol hon (yn agor tudalen Saesneg).

Talu eich bil TAW ar-lein

Gallwch dalu Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar-lein drwy’r dulliau canlynol:

  • cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc gan ddefnyddio’ch manylion bancio ar-lein

  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein neu’ch cerdyn wrth law cyn i chi ddechrau.

Os byddwch yn talu drwy eich cyfrif bancio ar-lein

Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.

Gwiriwch eich cyfrif i wneud yn siŵr bod y taliad wedi mynd allan ar y dyddiad cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, cysylltwch â’ch banc.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Os ydych yn talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Gallwch dalu drwy un o’r dulliau canlynol:

  • cerdyn credyd corfforaethol

  • cerdyn debyd corfforaethol

  • cerdyn debyd personol

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd ffi yn cael ei chodi arnoch os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol, ac ni chewch y ffi honno’n ôl. Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) � nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.

Os na allwch dalu eich bil TAW yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull talu arall megis trosglwyddiad o’r banc.

Talu o gyfrif banc yn y DU

Gallwch dalu Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn uniongyrchol o gyfrif banc yn y DU gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs.

Dylech gysylltu â’ch banc, neu ddefnyddio eich cyfrif banc ar-lein neu ap y banc i wneud y taliad.

Defnyddiwch y manylion banc canlynol i dalu CThEF:

  • Cod didoli - 08 32 00

  • Rhif y cyfrif - 11963155

  • Enw’r cyfrif - HMRC VAT

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Gwiriwch amserau prosesu eich banc cyn i chi wneud taliad.

Fel arfer, mae Taliadau Cyflymach yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, mae taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Talu o gyfrif banc tramor

Gallwch wneud trosglwyddiad o’ch cyfrif banc tramor drwy CHAPS.

Defnyddiwch y manylion banc canlynol i dalu CThEF o gyfrif banc tramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB36 BARC 2005 1773 1523 91

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22

  • Enw’r cyfrif - HMRC VAT

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Bydd angen i chi archebu slipiau talu i mewn ar-lein neu dros y ffôn oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF) cyn i chi allu talu yn y modd hwn. Gall gymryd hyd at 6 wythnos iddynt gyrraedd.

Defnyddiwch y slipiau talu i mewn i dalu yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu eich hun ag arian parod neu siec. Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig�.

Bydd angen i chi ysgrifennu cyfeirnod ar gefn eich siec:

  • os ydych yn talu bil TAW - defnyddio’ch eich cyfeirnod cofrestru TAW 9 digid

  • os ydych yn talu gordal neu gosb - defnyddio’ch cyfeirnod, sy’n 14 o gymeriadau ac sy’n dechrau gydag ‘Xâ€�

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd cyfrif banc Cyllid a Thollau EF.

Archeb sefydlog

Mae busnesau sy’n defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol (yn agor tudalen Saesneg), neu sy’n gwneud taliadau ar gyfrif, yn gallu talu bil TAW drwy archeb sefydlog. Mae archebion sefydlog yn cymryd 3 diwrnod gwaith i gyrraedd cyfrif banc Cyllid a Thollau EF (CThEF).

Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol

Gofynnwch am gael talu drwy archeb sefydlog ar eich ffurflen gais ar gyfer y Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol (yn agor tudalen Saesneg).

Ar ôl i chi gael llythyr gan CThEF yn derbyn eich cais, ewch ati i drefnu archeb sefydlog gan naill ai:

Taliadau ar gyfrif

Gallwch drefnu archeb sefydlog gan naill ai:

  • defnyddio ffurflen TAW 622

  • mynd drwy’ch banc â€� gan ddefnyddio’r un manylion ar gyfer talu drwy drosglwyddiad banc