Talu TAW o鈥檆h cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu (VAT622)
Gwnewch daliad BACS i dalu鈥檙 TAW sydd arnoch, neu sefydlwch archeb sefydlog i wneud taliadau cyfrifyddu TAW blynyddol neu daliadau TAW ar gyfrif.
Dogfennau
Manylion
Defnyddiwch ffurflen VAT622 i sefydlu archeb sefydlog neu drefnu trosglwyddiad BACS.
Gallwch dim ond sefydlu archeb sefydlog ar gyfer y canlynol:
- taliadau ymlaen llaw tuag at eich bil TAW, a elwir yn daliadau ar gyfrif
- taliad TAW ymlaen llaw tuag at eich bil TAW gyda Chynllun Cyfrifyddu Blynyddol
Mae鈥檔 rhaid i chi anfon ffurflen VAT622 wedi鈥檌 llenwi i鈥檆h banc neu gymdeithas adeiladu.
I gael gwybod am ddulliau eraill o dalu, gweler y dudalen ynghylch talu鈥檆h bil TAW.
Cyn i chi ddechrau
Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft, Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.
Bydd rhaid i chi lenwi鈥檙 ffurflen yn llawn cyn i chi ei hargraffu gan na allwch gadw ffurflen sydd wedi鈥檌 llenwi鈥檔 rhannol.