Taliad Cymorth Profedigaeth

Printable version

1. Sut mae鈥檔 gweithio

Efallai y gallwch gael Taliad Cymorth Profedigaeth os bu farw eich partner. 聽Mae wedi disodli鈥檙 budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Rhiant Gweddw - os ydych eisoes yn cael hyn, bydd eich taliadau鈥檔 parhau hyd nes nad ydych yn gymwys mwyach
  • Lwfans Profedigaeth (Pensiwn Gwraig Weddw yn flaenorol)
  • Taliad Profedigaeth

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat hawdd ei ddeall.

2. Cymhwysedd

Nid yw Taliad Cymorth Profedigaeth yn destun i brawf modd. Mae hyn yn golygu na fydd yr hyn rydych yn ei ennill na faint sydd gennych mewn cynilion yn effeithio ar yr hyn a gewch.

Pan fu farw eich partner mae鈥檔 rhaid eich bod:

Mae鈥檔 rhaid bod eich partner naill ai:

Gallwch barhau i wneud cais os nad ydych yn siwr a wnaeth eich partner dalu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Bydd y Gwasanaeth Profedigaeth yn rhoi gwybod i chi.

Ni allwch wneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth os ydych yn y carchar.

Pan fyddwch yn gwneud eich cais

Fel arfer mae angen i chi wneud cais o fewn 21 mis i farwolaeth eich partner.

Os yw dros 21 mis ers marwolaeth eich partner, mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu hawlio o hyd os mai dim ond yn ddiweddar y cadarnhawyd achos y farwolaeth. Ffoniwch linell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth am help.

Gall pa mor fuan y byddwch yn gwneud eich cais hefyd effeithio ar faint o arian y byddwch yn ei gael. Fel arfer mae angen i chi wneud cais o fewn 3 mis i farwolaeth eich partner i gael y swm llawn o daliadau.

Os bu farw eich partner cyn 6 Ebrill 2017, efallai y byddwch yn gallu cael Lwfans Rhiant Gweddw yn lle.

Os oeddech yn byw gyda鈥檆h partner fel petaech yn briod

Oni bai eich bod yn gwneud cais am daliad wedi鈥檌 么l-ddyddio, mae鈥檔 rhaid bod un o鈥檙 canlynol yn berthnasol pan fu farw eich partner:

  • roeddech yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn a oedd yn byw gyda chi
  • dywedwyd wrthych gan y Swyddfa Budd-dal Plant fod gennych hawl i Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn a oedd yn byw gyda chi, hyd yn oed os gwnaethoch ddewis peidio 芒鈥檌 gael
  • roeddech chi鈥檔 feichiog

Os oedd eich partner yn cael neu鈥檔 gymwys i gael Budd-dal Plant yn lle, bydd angen i chi wneud cais newydd am Fudd-dal Plant yn eich enw chi cyn y gallwch wneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth.

3. Beth fyddwch yn ei gael

Bydd swm y Taliad Cymorth Profedigaeth y gallwch ei gael yn dibynnu ar:

  • eich perthynas 芒鈥檙 person a fu farw
  • pryd rydych yn gwneud eich cais
  • pryd rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Bydd eich taliadau鈥檔 cael eu talu i mewn i鈥檆h cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.

Eich perthynas 芒鈥檙 person a fu farw

Os oeddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig

Byddwch yn cael y gyfradd uwch os oedd un o鈥檙 canlynol yn berthnasol pan fu farw eich partner:

  • roeddech yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn a oedd yn byw gyda chi
  • dywedwyd wrthych gan y Swyddfa Budd-dal Plant fod gennych hawl i Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn a oedd yn byw gyda chi
  • roeddech chi鈥檔 feichiog

Y mwyaf y gallwch ei gael yw:

  • taliad untro o 拢3,500
  • 18 taliad misol o 拢350

Os nad ydych yn gymwys ar gyfer y gyfradd uwch, byddwch yn cael y gyfradd is yn lle hynny.

Y mwyaf y gallwch ei gael yw:

  • taliad untro o 拢2,500
  • 18 taliad misol o 拢100

Os oeddech chi鈥檔 byw gyda鈥檆h gilydd fel petaech chi鈥檔 briod

Y mwyaf y gallwch ei gael yw:

  • taliad untro o 拢3,500
  • 18 taliad misol o 拢350

Pan fyddwch yn gwneud eich cais

Rhaid i chi wneud cais o fewn 3 mis i farwolaeth eich partner i gael y taliad untro a phob un o鈥檙 18 taliad misol.

Os yw dros 3 mis ond yn llai na 12 mis ers marwolaeth eich partner, gallwch gael y taliad untro ond dim ond rhai o鈥檙 taliadau misol.

Os yw wedi bod dros 12 mis ond yn llai na 21 mis ers marwolaeth eich partner, ni allwch gael y taliad untro ond gallwch gael rhai taliadau misol o hyd.

Os yw dros 21 mis ers marwolaeth eich partner, fel arfer ni allwch gael unrhyw daliadau.

Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth o fewn 18 mis i farwolaeth eich partner, efallai y cewch lai o daliadau misol.

Os ydych yn cael budd-daliadau

Ni fydd Taliad Cymorth Profedigaeth yn effeithio ar eich budd-daliadau am flwyddyn ar 么l eich taliad cyntaf. Ar 么l blwyddyn, gallai arian sydd gennych ar 么l o鈥檆h taliad cyntaf effeithio ar y swm a gewch os byddwch yn adnewyddu neu鈥檔 gwneud cais am fudd-dal arall.

Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod i鈥檆h swyddfa budd-daliadau (er enghraifft, ) pan fyddwch yn dechrau cael Taliad Cymorth Profedigaeth.

4. Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am Daliad Cymorth Profedigaeth ar-lein, dros y ff么n neu trwy鈥檙 post.

I wneud cais, bydd angen:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
  • y dyddiad y bu farw鈥檆h partner
  • rhif Yswiriant Gwladol eich partner

Gwneud cais ar-lein

Gwneud cais dros y ff么n

Llinell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth
Ff么n: 0800 151 2012
Llinell Ff么n Cymraeg: 0800 731 0453

Ff么n testun: 0800 731 0464
Ff么n testun Cymraeg: 0800 731 0456

(os na allwch glywed na siarad ar y ff么n): 18001 yna 0800 151 2012

Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur 鈥� darganfyddwch sut i

Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon mae dros y ff么n.

Gwneud cais drwy鈥檙 post

I gael ffurflen gais, gallwch naill ai:

Anfonwch hi i鈥檙 cyfeiriad ar y ffurflen.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon mae trwy鈥檙 post.

Os ydych dramor

Ffoniwch y Ganolfan Bensiwn Ryngwladol i wneud cais.

Canolfan Bensiwn Ryngwladol
Ff么n: +44 (0) 191 206 9390
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau