Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
Printable version
1. Ar gyfer beth mae PIP
Gall Taliad Annibyniaeth Personol helpu gyda chostau byw ychwanegol os oes gennych:
- gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol neu anabledd hirdymor
- anhawster yn gwneud tasgau bob dydd penodol neu symud o gwmpas oherwydd eich cyflwr
Gallwch gael PIP hyd yn oed os ydych yn gweithio, gyda chynilion neu’n cael y rhan fwyaf o fudd-daliadau eraill.
Gallwch hefyd ddarllen am PIP yn Saesneg (English).
Sut mae PIP yn gweithio
Mae 2 ran i PIP:
- rhan bywyd bob dydd � os ydych angen cymorth gyda thasgau bywyd bob dydd
- rhan symudedd � os ydych angen cymorth gyda symud o gwmpas
Mae p’un a ydych yn cael un elfen neu ddwy a beth fyddwch yn ei gael yn dibynnu ar ba mor anodd rydych yn cael tasgau bob dydd a symud o gwmpas.
Os ydych yn agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd), byddwch yn cael y rhan bywyd bob dydd yn awtomatig. Bydd p’un a ydych yn cael yr elfen symudedd yn dibynnu ar eich anghenion. Darganfyddwch fwy am sut i wneud cais a faint fyddwch yn ei gael os ydych yn agosáu at ddiwedd oes.
Y rhan bywyd bob dydd
Gallech gael y rhan bywyd bob dydd o PIP os ydych angen help gyda phethau fel:
- paratoi bwyd
- bwyta ac yfed
- rheoli eich meddyginiaethau neu driniaethau
- ymolchi a chael bath
- defnyddio’r toiled
- gwisgo a dadwisgo
- darllen
- rheoli eich arian
- cymdeithasu a bod o gwmpas pobl eraill
- siarad, gwrando a deall
Rhan Symudedd
Efallai y gallwch gael y rhan symudedd o PIP os ydych angen cymorth gyda:
- gweithio allan llwybr a’i ddilyn
- symud o gwmpas yn gorfforol
- gadael eich cartref
Nid oes rhaid i chi gael anabledd corfforol i gael y rhan symudedd. Efallai y gallwch hefyd fod yn gymwys os ydych ag anhawster symud o gwmpas oherwydd cyflwr iechyd gwybyddol neu feddyliol, megis pryder.
Sut mae anhawster gyda thasgau yn cael ei asesu
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn asesu pa mor anodd y mae tasgau bob dydd a symudedd i chi eu cyflawni. Ar gyfer pob tasg byddant yn edrych ar:
- os allwch ei gwneud yn ddiogel
- pa mor hir y mae’n ei chymryd i chi
- pa mor hir mae’ch cyflwr yn effeithio ar y gweithgaredd hwn
- p’un a ydych angen cymorth i’w gwneud, gan berson neu ddefnyddio offer ychwanegol
Gallai eich gofalwr gael Lwfans Gofalwr os ydych ag anghenion gofal sylweddol.
Help gyda PIP
Os ydych angen cymorth i ddeall neu wneud cais am PIP gallwch:
- gwylio
- defnyddio canllawiau hawdd i’w darllen sydd yn egluro PIP
Os ydych chi’n byw yn yr Alban
Mae angen i chi yn lle PIP.
Os ydych chi’n cael PIP ar hyn o bryd, byddwch yn cael eich symud yn awtomatig i ADP erbyn gwanwyn 2025.
Pan fydd y symud yn dechrau, byddwch yn cael llythyrau gan DWP a Social Security Scotland. .
Os ydych chi’n symud o’r Alban i Loegr neu Gymru
Os ydych chi’n cael ADP ac yn symud o’r Alban i Gymru neu Loegr, mae’n rhaid i chi wneud cais newydd am PIP yn lle.
Bydd eich ADP yn stopio 13 wythnos ar ôl i chi symud - gwnewch gais am PIP cyn gynted â phosib ar ôl symud neu gallai taliadau gael eu heffeithio.
Os cewch Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
Mae Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) yn cael ei ddisodli gan PIP i’r rhan fwyaf o oedolion. Byddwch yn parhau i gael DLA os:
- ydych o dan 16 oed
- cawsoch eich geni ar neu cyn 8 Ebrill 1948
Os cawsoch eich geni ar ôl 8 Ebrill 1948, bydd DWP yn eich gwahodd i wneud cais am PIP. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth nes bydd DWP yn ysgrifennu atoch am eich DLA oni bai fod eich amgylchiadau’n newid.
2. Cymhwyster
Gallwch gael Taliad Annbyniaeth Personol (PIP) os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol i chi:
- os ydych yn 16 oed neu drosodd
- mae gennych gyflwr iechyd neu anabledd corfforol neu feddyliol hir dymor
- mae gennych anhawster yn gwneud rhai tasgau bob dydd neu symud o gwmpas
- rydych yn disgwyl i’r anawsterau barhau am o leiaf 12 mis o’r adeg pan wnaethon nhw ddechrau
Mae’n rhaid i chi hefyd fod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth os ydych heb dderbyn PIP o’r blaen.
Os ydych chi’n byw yn yr Alban, mae angen i chi yn lle.
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch wneud cais am Lwfans Gweini yn lle. Neu os ydych wedi cael PIP o’r blaen, gallwch barhau i wneud cais newydd os oeddech yn gymwys i’w gael yn y flwyddyn cyn i chi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae rheolau cymhwysedd gwahanol os ydych yn agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd). Efallai y byddwch yn gallu cael PIP yn gyflymach ac ar gyfradd uwch.
Os ydych yn cael budd-daliadau neu incwm arall
Gallwch gael PIP yr un pryd a holl fudd-daliadau eraill, heblaw am Daliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog.
Os ydych yn cael Lwfans Gweini Cyson byddwch yn cael llai o’r rhan bob dydd o PIP.
Os ydych yn cael yr Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel ni fyddwch yn cael y rhan symudedd o PIP.
Os ydych yn cael Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel ni fyddwch yn cael y rhan symudedd o PIP.
Gallwch gael PIP os ydych yn gweithio neu fod gennych gynilion.
Os ydych wedi dychwelyd o fyw dramor yn ddiweddar
I wneud cais am PIP, fel arfer mae angen i chi:
- fod wedi byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban am o leiaf 2 o’r 3 blynedd diwethaf
- byw mewn un o’r gwledydd hyn pan ydych yn gwneud cais
Os ydych wedi dychwelyd yn ddiweddar o fyw yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, efallai y gallwch gael PIP yn gynt.
.
Os ydych yn byw dramor
Efallai y gallwch gael Taliad Annibyniaeth Personol o hyd os ydych yn:
- byw mewn gwlad UE neu AEE arall neu’r Swistir � gallwch ond cael help gyda anghenion bywyd bob dydd
- aelod neu aelod teulu o’r Lluoedd Arfog
Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig
Mae’n rhaid i chi:
- fel arfer fod yn byw neu’n dangos eich bod yn bwriadu setlo yn y DU, Iwerddon, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel
- beidio bod yn destun i (oni bai eich bod yn fewnfudwr wedi ei noddi)
Os ydych o’r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, fel rheol mae angen statws sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog i chi a’ch teulu o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE i gael PIP. Y dyddiad cau i wneud cais i’r cynllun oedd 30 Mehefin 2021 i’r rhan fwyaf o bobl, ond efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cais. Gwiriwch a allwch barhau i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE.
Efallai y gallwch gael Taliad Annibyniaeth Personol o hyd os ydych yn ffoadur neu gyda statws amddiffyn dyngarol.
3. Beth fyddwch yn ei gael
Bydd faint o Daliad Annibynniaeth Personol rydych yn ei gael yn dibynnu ar ba mor anodd y mae:
- gweithgareddau bob dydd (tasgau ‘bywyd bob dydd�)
- symud o gwmpas (tasgau ‘symudedd�)
Darganfyddwch pa dasgau sydd yn cyfrif fel tasgau bob dydd a symudedd.
Cyfraddau PIP
Cyfradd Wythnosol Is | Cyfradd Wythnosol Uwch | |
---|---|---|
Rhan bywyd bob dydd | £72.65 | £108.55 |
Rhan Symudedd | £28.70 | £75.75 |
Mae PIP yn ddi-dreth. Nid yw’ch incwm na’ch cynilion yn effeithio ar y swm a gewch.
Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar unwaith os oes newid yn eich amgylchiadau personol neu sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch.
Sut y cewch eich talu
Fel arfer mae PIP yn cael ei dalu bob 4 wythnos.
Mae eich llythyr penderfyniad yn dweud wrthych:
- ddyddiad eich taliad cyntaf
- pa ddiwrnod o’r wythnos y byddwch fel arfer yn cael eich talu
- am ba hyd y byddwch yn cael PIP
- pryd ac os bydd eich cais yn cael ei adolygu
Os yw eich dyddiad talu ar ŵyl y banc, fel arfer byddwch yn cael eich talu cyn gŵyl y banc. Ar ôl hynny byddwch yn parhau i gael eich talu yn arferol.
Mae pob budd-dal, pensiwn a lwfans yn cael eu talu i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.
Help arall y gallwch ei gael
Os ydych yn cael y rhan symudedd o PIP, efallai y gallwch fod yn gymwys ar gyfer:
- Bathodyn Glas
- disgownt treth cerbyd neu eithriad
- , os ydych yn cael y gyfradd symudedd uwch PIP
Os ydych yn cael un ai y rhan bywyd bob dydd neu symudedd o PIP rydych yn gymwys ar gyfer .
Efallai y gallwch chi gael disgownt ar eich Treth Cyngor a theithiau bws lleol. Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wirio hyn.
Os yw rhywun yn helpu i ofalu amdanoch chi, efallai y gallant gael Lwfans Gweini neu Gredyd Gweini.
Os ydych yn cael budd-daliadau eraill a PIP
Fe allwch gael ychwanegiad (a elwir yn premiwm anabledd os ydych yn cael:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm (JSA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar incwm (ESA)
- Budd-dal Tai
Efallai y cewch elfen anabledd o Gredyd Treth Gwaith os ydych yn gymwys.
Os ydych yn cael Lwfans Gweini Cyson bydd eich rhan bywyd bob dydd o’ch PIP yn cael ei ostwng gan y swm o Lwfans Gweini Cyson rydych yn ei gael.
Os ydych yn cael yr Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel ni fyddwch yn cael elfen symudedd PIP.
4. Sut i wneud cais
Cyn i chi wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP), gwiriwch eich bod yn gymwys.
Os ydych yn byw yn:
-
Gogledd Iwerddon - darganfyddwch
-
Yr Alban - mae angen i chi yn lle hynny Mae ffordd wahanol o wneud cais os ydych yn agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd).
Dechrau eich cais dros y ffôn
Bydd angen i chi:
-
Ffonio llinell ffôn ‘Ceisiadau newydd am PIP�. Yna anfonir ffurflen atoch sydd yn gofyn am eich cyflwr.
-
Cwblhau a dychwelyd y ffurflen. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
-
Efallai y byddwch angen cael asesiad, os oes angen mwy o wybodaeth.
Os ydych angen rywun i’ch helpu
Gallwch:
- ofyn iddynt gael eu hychwanegu i’ch galwad � ni allwch wneud hyn os ydych yn defnyddio ffôn testun
- gofyn i rywun arall ffonio ar eich rhan � byddwch angen bod gyda hwy pan fyddant yn ffonio
Cyn i chi ddechrau
Byddwch angen:
- eich manylion cyswllt, er enghraifft rhif ffôn
- eich dyddiad geni
- eich rhif Yswiriant Gwladol � os oes gennych un (mae’r rhif ar lythyrau am dreth, pensiynau a budd-daliadau)
- rhif eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu a’r cod didoli
- enw, rhif ffôn a chyfeiriad eich meddyg neu’ch gweithiwr iechyd
-
dyddiadau a chyfeiriadau am unrhyw gyfnod rydych wedi treulio mewn cartref gofal neu ysbyty
- dyddiadau am unrhyw gyfnod rydych wedi treulio dramor am fwy na 4 wythnos ar y tro, a’r gwledydd y gwnaethoch ymweld â hwy
Llinell ffôn ceisiadau newydd am PIP
Ffôn: 0800 917 2222
Ffôn testun: 0800 917 7777
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 917 2222
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur � darganfyddwch sut i
Ffonio o dramor: +44 191 218 7766
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Dechrau eich cais drwy’r post
Gallwch gael ffurflen drwy’r post yn lle hynny, ond mae’n cymryd mwy o amser i gael penderfyniad.
Anfonwch lythyr i’r cyfeiriad freepost hwn:
Freepost DWP PIP 1
Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth ar yr amlen heblaw am y cyfeiriad freepost. Nid oes angen cod post neu stamp arnoch.
Anfonir ffurflen atoch yn gofyn am eich gwybodaeth bersonol, megis eich cyfeiriad a’ch oed.Cwblhewch y ffurflen a’i dychwelyd.
Yna anfonir ffurflen atoch sy’n gofyn am eich anabledd neu gyflwr iechyd.
Cwblhau a dychwelyd y ffurflen am eich cyflwr
Os byddwch yn gwneud cais dros y ffôn neu drwy’r post, byddwch fel arfer yn cael ffurflen o’r enw ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch� o fewn 2 wythnos.
Cwblhewch y ffurflen drwy ddefnyddio’r nodiadau ynghlwm a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Dylech gynnwys dogfennau ategol os oes gennych rhai � er enghraifft, rhestrau presgripsiwn, cynlluniau gofal, neu wybodaeth gan eich meddyg neu eraill sy’n ymwneud â’ch gofal.
Mae gennych 1 mis i’w dychwelyd. Cysylltwch â llinell ymholiadau PIP os oes angen mwy o amser arnoch neu os oes gennych gwestiynau.
Gallwch ddarllen cymorth Cyngor ar Bopeth .
Edrych i weld os gallwch wneud cais ar-lein
Gallwch ond gwneud cais am PIP ar-lein mewn rhai ardaloedd. Byddwch angen gwirio eich cod post pan fyddwch yn dechrau eich cais.
I ddechrau eich cais ar-lein byddwch angen eich:
- rhif Yswiriant Gwladol
- cyfeiriad e-bost
- ffôn symudol
Os ydych eisoes wedi cofrestru, gallwch .
5. Ar ôl i chi wneud cais
Os ydych angen cael asesiad
Byddwch yn cael eich gwahodd i asesiad gydag ymarferwr iechyd proffesiynol os oes angen mwy o wybodaeth. Byddant yn gofyn:
- am eich gallu i wneud gweithgareddau a sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich bywyd bob dydd a symudedd
- am unrhyw driniaethau rydych wedi eu cael neu yn mynd i’w cael
Efallai y byddant yn gofyn i chi wneud symudiadau syml i ddangos sut ydych yn rheoli rhai gweithgareddau.
Gall yr asesiad fod wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo, Mae fel arfer yn cymryd 1 awr.
Gallwch ddarllen .
Cael penderfyniad
Byddwch yn derbyn llythyr sy’n eich hysbysu os byddwch yn cael PIP a dyddiad eich taliad cyntaf.
Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad
Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ‘ailystyriaeth orfodol�.
6. Os yw’ch cais Taliad Annibyniaeth Personol yn cael ei adolygu
Bydd y llythyr a gawsoch pan gymeradwywyd eich Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn dweud wrthych pryd fydd eich cais yn dod i ben ac os bydd yn cael ei adolygu.
Sut mae adolygiad PIP yn gweithio
Byddwch yn parhau i gael PIP tra bydd eich cais yn cael ei adolygu.
-
Cewch lythyr yn gofyn i chi lenwi ffurflen o’r enw ‘Adolygu’r dyfarniad - sut mae’ch anabledd yn effeithio arnoch�.
-
Cwblhewch y ffurflen gan ddefnyddio’r nodiadau sy’n dod gyda’r ffurflen.
-
Anfonwch y ffurflen ac unrhyw wybodaeth ategol nad ydych wedi eu rhannu ag Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gynt - mae’r ffurflen yn esbonio beth i’w chynnwys a ble i’w hanfon. Bydd rhaid i chi ei dychwelyd o fewn mis. Cysylltwch â llinell ymholiadau PIP os oes angen mwy o amser arnoch.
-
Bydd DWP yn adolygu’ch ffurflen. Os ydynt angen rhagor o wybodaeth, efallai fydd gweithiwr iechyd proffesiynol annibynnol yn eich ffonio i ofyn ambell gwestiwn i chi neu anfon llythyr atoch i’ch gwahodd i asesiad. Gall asesiadau fod wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo.
-
Cewch lythyr sy’n dweud wrthych beth fydd yn digwydd gyda’ch PIP. Os yw’ch anghenion wedi newid, efallai fydd eich PIP yn cael ei gynyddu, ei ostwng, neu ei stopio.
Os ydych yn anghytuno gyda phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad ynglŷn â’ch cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.
7. Rhoi gwybod am newid i'ch anghenion neu amgylchiadau
Rhaid i chi gysylltu â llinell ymholiadau Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) ar unwaith os:
- mae angen mwy neu lai o help arnoch gyda thasgau byw bob dydd a symudedd
- mae eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn dweud wrthych y bydd eich cyflwr yn para am gyfnod hirach neu fyrrach nag a adroddwyd gennych o’r blaen
- mae gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud efallai y bydd gennych chi 12 mis neu lai i fyw (gallech gael PIP ar gyfradd uwch o dan ‘reolau arbennig ar gyfer diwedd oes�)
- rydych yn mynd i ysbyty, hosbis, cartref nyrsio neu gartref gofal
- rydych yn mynd i ysgol neu goleg preswyl
- rydych yn mynd i ofal maeth neu i ofal awdurdod lleol neu ymddiriedolaeth iechyd a gofal cymdeithasol
- rydych yn cael eich carcharu neu eich cadw yn y ddalfa
- rydych yn bwriadu mynd dramor am fwy na 4 wythnos
- mae eich statws mewnfudo yn newid ac nid ydych yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig
- rydych yn dechrau neu’n rhoi’r gorau i gael pensiynau neu fudd-daliadau o wlad yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein
- mae eich gŵr, gwraig, partner sifil neu riant rydych yn dibynnu arno yn dechrau neu’n stopio cael budd-daliadau o wlad yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein
Gall y newidiadau hyn effeithio ar eich dyfarniad PIP. Yn dibynnu ar y newid, gallai eich PIP fynd i fyny, mynd i lawr, aros yr un peth neu stopio.
Gallech gael eich cymerwyd i’r llys neu orfod talu cosb os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid ar unwaith.
Rhaid i chi hefyd gysylltu â llinell ymholiadau PIP ar unwaith os:
- mae eich manylion personol yn newid, er enghraifft eich enw, cyfeiriad, rhifau ffôn, cyfrif banc neu feddyg
- mae rhywun yn gweithredu ar eich rhan ac mae’r person hwnnw’n newid
Sut i roi gwybod am newid
Ffoniwch ‘llinell ymholiadau PIP�.
Os ydych angen rhywun i’ch helpu, gallwch:
- ofyn iddynt gael eu hychwanegu i’ch galwad � ni allwch wneud hyn os ydych yn defnyddio ffôn testun
- ofyn i rywun ffonio ar eich rhan - byddwch angen bod gyda hwy pan maent yn ffonio
Llinell ymholiadau PIP
Ffôn: 0800 121 4433
Ffôn testun: 0800 121 4493
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 4433
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur � darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Os ydych wedi cael eich gordalu
Efallai y bydd rhaid i chi ad-dalu’r arian os:
- na wnaethoch roi gwybod am newid ar unwaith
- gwnaethoch roi gwybodaeth anghywir
- cawsoch eich gordalu drwy gamgymeriad
Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.
8. Gwneud cais am PIP os ydych yn agosáu at ddiwedd oes
Os ydych yn agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd) efallai y byddwch yn gallu cael Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn gyflymach ac ar gyfradd uwch.
Weithiau gelwir hyn yn ‘reolau arbennig ar gyfer diwedd oes�.
Cymhwysedd
Rydych yn gymwys i wneud cais am PIP o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes os:
-
mae eich meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw
-
rydych yn 16 oed neu drosodd
Rhaid hefyd i chi fod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth os nad ydych wedi hawlio PIP o’r blaen.
Gall fod yn anodd rhagweld am ba hyd y gallai rhywun fyw. Os nad yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi siarad â chi am hyn, gallwch ofyn iddynt gefnogi’ch cais o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes.
Os ydych yn byw yn yr Alban, mae angen i chi yn lle. .
Beth fyddwch yn ei gael
Byddwch yn cael yr elfen bywyd bob dydd uwch o £108.55 yr wythnos.
Mae p’un a ydych yn cael y rhan symudedd a faint ydych yn ei gael yn dibynnu ar eich anghenion. Y gyfradd wythnosol is yw £28.70 a’r gyfradd wythnosol uwch yw £75.75.
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais drosoch eich hun neu gall rhywun arall wneud hyn ar eich rhan.
-
Ffoniwch linell ceisiadau PIP i ddechrau eich cais.
-
Gofynnwch i weithiwr gofal iechyd proffesiynol am ffurflen SR1. Byddant naill ai’n ei llenwi i mewn a rhoi’r ffurflen i chi neu ei hanfon yn uniongyrchol i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
-
Os ydych hefyd yn hawlio Credyd Cynhwysol, mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein a defnyddiwch eich dyddlyfr i ddweud eich bod wedi anfon SR1 i DWP.
Ni fydd angen i chi fynd i ymgynghoriad wyneb yn wyneb.
Os ydych angen rhywun i’ch helpu, gallwch:
- ofyn iddynt gael eu hychwanegu i’ch galwad � ni allwch wneud hyn os ydych yn defnyddio ffôn testun
- ofyn i rywun ffonio ar eich rhan - byddwch angen bod gyda hwy pan fyddant yn ffonio
Ceisiadau PIP
Ffôn: 0800 917 2222
Ffôn testun: 0800 917 7777
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 917 2222
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur � darganfyddwch sut i
Ffonio o dramor: +44 191 218 7766
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Efallai y gallwch gael budd-daliadau eraill os ydych yn agosáu at ddiwedd oes.