Tâl ac Absenoldeb Mabwysiadu Statudol: arweiniad i gyflogwyr
Printable version
1. Hawl
Pan fo cyflogai’n cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith er mwyn mabwysiadu plentyn neu i gael plentyn drwy drefniant mam fenthyg, mae’n bosibl bod ganddo hawl i Dâl ac Absenoldeb Mabwysiadu Statudol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Absenoldeb Mabwysiadu Statudol
Gall cyflogeion gymryd hyd at 52 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Statudol. Gelwir y 26 wythnos gyntaf yn ‘Absenoldeb Mabwysiadu Cyffredin�, a’r 26 olaf yn ‘Absenoldeb Mabwysiadu Ychwanegol�.
Gall absenoldeb ddechrau:
- ar y dyddiad mae’r plentyn yn dechrau byw gyda’r cyflogai neu hyd at 14 diwrnod cyn y dyddiad lleoli disgwyliedig (mabwysiadu yn y DU)
- pan fo’r cyflogai wedi’i baru â phlentyn i’w leoli â hwy gan asiantaeth mabwysiadu yn y DU
- pan fo plentyn yn cyrraedd y DU neu cyn pen 28 diwrnod o’r dyddiad hwn (mabwysiadu o dramor)
- y diwrnod y cafodd y plentyn ei eni neu’r diwrnod wedyn (rhieni sydd â threfniadau mam fenthyg)
Tâl Mabwysiadu Statudol
Mae Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP) ar gyfer cyflogai yn:
- 90% o’i enillion wythnosol cyfartalog gros am y 6 wythnos gyntaf
- £187.18 yr wythnos neu’n 90% o’i enillion wythnosol cyfartalog gros (pa un bynnag sydd isaf) ar gyfer y 33 wythnos nesaf
Mae angen didynnu treth ac Yswiriant Gwladol.
Cyfrifo absenoldeb a thâl mabwysiadu cyflogai gan ddefnyddio cyfrifiannell mamolaeth a thadolaeth (yn agor tudalen Saesneg).
Mae gan rai mathau o gyflogaeth, megis gweithwyr asiantaeth, cyfarwyddwyr a gweithwyr addysgol, wahanol reolau o ran hawl (yn agor tudalen Saesneg).
Absenoldeb neu dâl ychwanegol
Gallwch gynnig mwy na’r symiau statudol os oes gennych gynllun cwmni ar gyfer absenoldeb a thâl mabwysiadu. Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod polisïau o ran y cynlluniau hyn yn glir ac ar gael i staff.
Adennill taliadau
Hyd yn oed os ydych yn talu mwy na’r swm statudol i gyflogai, fel arfer, gallwch ond adennill 92% o’r swm hwnnw. Efallai y gallwch adennill 108.5% os ydych yn gymwys i gael Rhyddhad Cyflogwr Bach. Darllenwch ragor am adennill tâl statudol.
Hawliau cyflogaeth
Diogelir hawliau cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg) cyflogai (fel yr hawl i gyflog, gwyliau a dychwelyd i swydd) yn ystod absenoldeb mabwysiadu. Rydych yn dal i orfod talu Tâl Mabwysiadu Statudol hyd yn oed os ydych yn °ù³ó´Ç¾±â€™r gorau i fasnachu.
2. Cymhwystra
Bydd rhai cyflogeion ddim yn gymwys am absenoldeb a thâl efo’i gilydd.
Absenoldeb Mabwysiadu Statudol
Mae’n rhaid i’r cyflogeion wneud y canlynol:
- °ù³ó´Ç¾±â€™r rhybudd cywir i chi
- cael eu hystyried i fod yn gyflogeion (yn agor tudalen Saesneg)
Nid oes yn rhaid iddynt roi tystiolaeth o’r mabwysiadu neu o’r trefniant â mam fenthyg oni bai eich bod yn gofyn amdani.
Absenoldeb ar gyfer cyflogeion sy’n mabwysiadu plentyn o dramor
Rhaid i gyflogai hefyd lofnodi ffurflen SC6 os yw’n mabwysiadu plentyn o dramor gyda phartner. Mae hyn yn cadarnhau nad yw’n cymryd absenoldeb na thâl tadolaeth.
Tâl Mabwysiadu Statudol
Mae’n rhaid i gyflogai:
- fod wedi’i gyflogi’n barhaus gennych (yn agor tudalen Saesneg) am o leiaf 26 wythnos hyd at unrhyw ddiwrnod yn yr wythnos pan mae wedi’i baru â phlentyn
- fod ar eich cyflogres ac yn ennill o leiaf £125 yr wythnos mewn cyfnod 8 wythnos - y ‘cyfnod perthnasol�
- °ù´Ç¾±â€™r rhybudd cywir i chi
- roi tystiolaeth o fabwysiadu i chi
Defnyddiwch y cyfrifiannell tâl mabwysiadu (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gwirio cymhwystra’r cyflogai ac i gyfrifo’i wythnos paru, cyfnod perthnasol, cyfnod rhybudd a thâl mabwysiadu.
Mae rheolau arbennig ar gyfer rhai amgylchiadau (yn agor tudalen Saesneg), er enghraifft os yw’r cyflogai yn gadael neu’n mynd yn sâl, neu mae ei blentyn yn marw.
Tâl ar gyfer cyflogeion sy’n mabwysiadu plentyn o dramor
Mae’r gofynion yr un peth ar gyfer cyflogeion sy’n mabwysiadu o dramor, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cyflogi’n barhaus gennych am o leiaf 26 wythnos ar ddechrau’r wythnos pan fydd y tâl yn cychwyn.
Rhaid iddynt hefyd lofnodi ffurflen SC6 os ydynt yn mabwysiadu â phartner. Mae hyn yn cadarnhau nad yw’n cymryd absenoldeb na thâl tadolaeth.
Tâl ar gyfer cyflogeion sydd â threfniadau mam fenthyg
Mae’r gofynion yr un peth ar gyfer cyflogeion sydd â threfniadau mam fenthyg, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cyflogi’n barhaus gennych am o leiaf 26 wythnos hyd at unrhyw ddiwrnod yn y 15fed wythnos cyn y disgwylir i’r baban gael ei eni.
Os ydych yn gofyn amdani, mae’n rhaid iddynt hefyd roi tystiolaeth i chi eu bod yn bwriadu dod yn rhiant cyfreithiol y baban.
Pwy sydd ddim yn gallu bod yn gymwys
Ni fydd cyflogai yn gymwys ar gyfer absenoldeb na thâl mabwysiadu os yw’r canlynol yn wir:
- mae’n dod yn warcheidwad arbennig neu ofalwr sy’n berthynas
- mae’n mabwysiadu llysblentyn neu aelod o’r teulu
- mae’n mabwysiadu’n breifat, er enghraifft heb ganiatâd oddi wrth awdurdod yn y DU neu asiantaeth mabwysiadu
3. Cyfnod rhybudd
Nid oes rhaid i rybudd fod ar bapur oni bai eich bod y gofyn am hynny.
Tâl Mabwysiadu Statudol
Mae’n rhaid i gyflogeion roi 28 diwrnod o rybudd cyn eu bod am gael eu Tâl Mabwysiadu Statudol, oni bai bod yr amser rhwng paru’r plentyn a’i leoli yn llai na hynny.
Absenoldeb Mabwysiadu Statudol
Mae’n rhaid i gyflogeion roi gwybod y canlynol i chi cyn pen 7 diwrnod o gael eu paru â phlentyn:
- faint o absenoldeb mae am gael
- dyddiad dechrau eu habsenoldeb mabwysiadu
- ‘dyddiad y lleoli� - y dyddiad disgwyliedig neu’r dyddiad gwirioneddol y lleolir y plentyn â hwy
Mae gennych 28 diwrnod i ysgrifennu atynt i gadarnhau dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben eu habsenoldeb.
Mae yna wahanol reolau ar gyfer mabwysiadu o dramor a threfniadau â mam fenthyg sydd dramor.
Absenoldeb ar gyfer cyflogeion sy’n mabwysiadu plentyn o dramor
Cyn pen 28 diwrnod ar ôl cael eu ‘hysbysiad swyddogol�, rhaid i gyflogeion sy’n mabwysiadu o dramor roi gwybod i chi ddyddiad yr hysbysiad a phryd y maent yn disgwyl i’r plentyn gyrraedd y DU.
Os ydynt wedi gweithio i chi am lai na 26 wythnos, gallant roi gwybod i chi cyn pen 28 diwrnod o’r dydd Sul yn eu 26ain wythnos yn lle hynny.
Rhaid iddynt roi gwybod y canlynol i chi:
- y dyddiad mae’r plentyn yn cyrraedd y DU mewn gwirionedd - cyn pen 28 diwrnod o’r dyddiad hwn
- faint o absenoldeb y maent eisiau a phryd y maent am iddo ddechrau - gan roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd i chi
Mae gennych 28 diwrnod i ysgrifennu atynt i gadarnhau dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben eu habsenoldeb.
Absenoldeb ar gyfer cyflogeion sydd â threfniadau mam fenthyg
O leiaf 15 wythnos cyn y dyddiad disgwyl, mae’n rhaid i gyflogeion sydd â threfniadau mam fenthyg roi gwybod i chi pryd mae’r babi i fod i gael ei eni a phryd y maent eisiau dechrau eu habsenoldeb. Gallwch ofyn i gael hyn yn ysgrifenedig.
Mae gennych 28 diwrnod i ysgrifennu atynt i gadarnhau dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben eu habsenoldeb.
Newidiadau i ddyddiadau absenoldeb
Rhaid i gyflogeion roi gwybod i chi am newidiadau i ddyddiadau absenoldeb o leiaf 28 diwrnod cyn eu dyddiad dechrau gwreiddiol neu’r dyddiad dechrau newydd - p’un bynnag sydd gynharaf.
Rhaid i chi ysgrifennu atynt os oes rhaid i chi newid dyddiadau dechrau a dyddiadau dod i ben eu habsenoldeb.
Rhaid i gyflogeion roi 8 wythnos o rybudd os ydynt am newid y dyddiad y maent am ddychwelyd i’r gwaith.
4. Tystiolaeth o fabwysiadu
Mae’n rhaid i gyflogeion roi tystiolaeth o fabwysiadu i chi er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Tâl Mabwysiadu Statudol. Nid oes angen tystiolaeth ar gyfer Absenoldeb Mabwysiadu Statudol oni bai eich bod yn gofyn amdani.
Ar gyfer mabwysiadu rhaid i’r dystiolaeth ddangos y canlynol:
- enw a chyfeiriad yr asiantaeth a’r cyflogai
- y dyddiad y cafodd y plentyn ei baru, er enghraifft y dystysgrif paru
- y dyddiad disgwyliedig neu’r dyddiad gwirioneddol y lleolir y plentyn, er enghraifft llythyr gan yr asiantaeth
- ‘hysbysiad swyddogol� yr awdurdod DU perthnasol yn cadarnhau bod y rhiant yn cael mabwysiadu (mabwysiadu o dramor yn unig)
- y dyddiad y cyrhaeddodd y plentyn yn y DU, er enghraifft tocyn awyren (mabwysiadu o dramor yn unig)
Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r dystiolaeth.
Trefniadau mam fenthyg
Nid oes angen tystiolaeth ar gyfer absenoldeb neu dâl oni bai eich bod yn gofyn amdani.
Os ydych yn gofyn amdani mae’n rhaid i gyflogeion roi datganiad ysgrifenedig i chi (‘datganiad statudol�) er mwyn cadarnhau’r canlynol:
- eu bod yn bwriadu gwneud cais am orchymyn rhieni (yn agor tudalen Saesneg) yn ystod y 6 mis ar ôl enedigaeth y baban
- maent yn disgwyl i’r gorchymyn gael ei roi (er enghraifft oherwydd nid oes ganddynt unrhyw euogfarnau yn eu herbyn yn ymwneud â phlant, ac mae’r fam fiolegol neu’r tad biolegol yn cytuno i’r trefniant)
5. Gwrthod tâl neu absenoldeb
Absenoldeb Mabwysiadu Statudol
Ni allwch wrthod absenoldeb mabwysiadu na newid faint o absenoldeb mae cyflogai am ei gymryd.
Ar gyfer mabwysiadu gallwch ohirio’r dyddiad dechrau os nad oes gan y cyflogai esgus rhesymol dros beidio â °ù³ó´Ç¾±â€™r rhybudd cywir i chi. I’w ohirio, ysgrifennwch ato cyn pen 28 diwrnod o’i gais am absenoldeb.
Tâl Mabwysiadu Statudol
Gallwch wrthod Tâl Mabwysiadu Statudol os nad yw’r cyflogai’n gymwys.
I’w wrthod, rhowch ffurflen SAP1 i’r cyflogai cyn pen 7 diwrnod ar ôl eich penderfyniad. Rhaid iddo gael y ffurflen hon cyn pen 28 diwrnod ar ôl ei gais am Dâl Mabwysiadu Statudol neu’r dyddiad y cafodd ei baru â’r plentyn (p’un bynnag sydd gynharaf).
6. Cadw cofnodion
Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion ar gyfer Cyllid a Thollau EF (CThEF), gan gynnwys:
- tystiolaeth o fabwysiadu
- y dyddiad y dechreuodd Tâl Mabwysiadu Statudol
- y taliadau Tâl Mabwysiadu Statudol rydych wedi’u gwneud - gan gynnwys dyddiadau
- y taliadau rydych wedi’u hadennill
- unrhyw wythnosau na wnaethoch dalu, a pham
Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion am 3 blynedd o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi (er enghraifft drwy ddefnyddio ffurflen SAP2 (yn agor tudalen Saesneg) neu drwy gadw cofnodion eich hun).
7. Help gyda thâl statudol
I gael help ariannol gyda thâl statudol, gallwch:
- adennill taliadau (fel arfer 92%)
- gwneud cais am daliad ymlaen llaw os na allwch fforddio taliadau