Gwneud cais am orchymyn amodol neu ddyfarniad nisi

Rhaid i’r unigolyn arall ymateb i’ch cais am ddirymiad o fewn 14 diwrnod, gan ddweud a yw’n cytuno y dylid dirymu’r briodas.

Unwaith y byddant yn ymateb, gallwch wneud cais am orchymyn amodol (neu ‘ddyfarniad nisi� os yw’r dyddiad ar eich hysbysiad llys cyn 6 Ebrill 2022). Bydd hyn yn cadarnhau nad yw’r llys yn gweld unrhyw reswm pam na ellir dirymu’r briodas.

Sut i wneud cais

Mae sut rydych yn gwneud cais yn dibynnu ar pryd wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad.

Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad cyn 6 Ebrill 2022

I gael dyfarniad nisi, llenwch y cais am ddyfarniad nisi.

Rhaid i chi hefyd lenwi datganiad yn cadarnhau bod yr hyn a wnaethoch ei ddweud yn eich cais am ddirymiad yn wir.

Defnyddiwch un o’r ffurflenni isod, yn dibynnu p’un a yw eich priodas ‘wedi’i dirymu� neu ‘gellir ei dirymu�:

³Ò·É±ð±ô±ð°ùÌýpryd y gallwch chi ddirymu priodas  am y gwahaniaeth rhwng priodas ‘ddi-rymâ€� a phriodas ddirymadwyâ€�.

Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2022

I gael gorchymyn amodol, llenwch y cais am orchymyn amodol.