Dirymu priodas
Printable version
1. Pryd allwch chi ddirymu priodas
Mae dirymiad (a elwir weithiau’n ‘dirymu�) yn ffordd wahanol o ddod â phriodas i ben.
Yn wahanol i ysgariad, gallwch wneud cais am ddirymiad ym mlwyddyn gyntaf eich priodas neu unrhyw bryd ar ôl hynny. Fodd bynnag, os byddwch yn gwneud cais flynyddoedd ar ôl y briodas, efallai y gofynnir i chi esbonio’r rheswm dros yr oedi.
Bydd angen i chi ddangos:
- nad yw’r briodas erioed wedi bod yn gyfreithiol ddilys (‘ddi-rym�)
- bod y briodas yn gyfreithiol ddilys, ond ei bod yn bodloni un o’r rhesymau sy’n ei gwneud yn ‘ddi-rym�
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Nid yw eich priodas yn gyfreithiol ddilys - priodasau ‘di-rym�
Gallwch ddirymu priodas os nad oedd yn gyfreithiol ddilys yn y lle cyntaf, er enghraifft:
- rydych chi’n perthyn yn agos i’r sawl rydych chi’n briod ag ef/â hi
- os oedd un neu’r ddau ohonoch o dan 18 oed (neu o dan 16 oed os digwyddodd y briodas cyn 27 Chwefror 2023)
- roedd un ohonoch eisoes wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil
Os nad oedd y briodas erioed yn gyfreithiol ddilys, mae’r gyfraith yn dweud nad oedd erioed wedi bodoli.
Fodd bynnag, efallai y bydd angen gwaith papur cyfreithiol arnoch (‘dyfarniad dirymu� neu ‘gorchymyn dirymu priodas�) i brofi hyn - er enghraifft os ydych chi am briodi eto.
Mae modd dirymu eich priodas
Gallwch ddirymu priodas am nifer o resymau, megis:
- ni chafodd ei chyflawni - nid ydych wedi cael cyfathrach rywiol â’r sawl y gwnaethoch briodi ers y briodas (nid yw’n berthnasol ar gyfer cyplau o’r un rhyw)
- ni wnaethoch gydsynio’n iawn i’r briodas - er enghraifft, cawsoch eich gorfodi
- roedd gan yr unigolyn arall glefyd a drosglwyddir yn rhywiol (STD) pan wnaethoch briodi
- roedd eich priod yn feichiog gan rywun arall pan wnaethoch briodi
- mae un ohonoch wrthi’n trosglwyddo i rywedd wahanol
Fel gydag ysgariad, mae eich priodas yn bodoli’n gyfreithiol nes i chi ei dirymu gan ddefnyddio un o’r rhesymau hyn.
Mae’r rheolau ar ddod â phartneriaeth sifil i ben ychydig yn wahanol, ond mae ffurflenni’r llys yr un fath.
2. Cyn i chi wneud cais
Gallwch chi a’ch gŵr/gwraig ddewis sut i benderfynu ar:
- drefniadau ar gyfer edrych ar ôl unrhyw blant sydd gennych
- taliadau cynhaliaeth plant ar gyfer unrhyw blant sydd gennych
Gallwch hefyd rannu eich arian a’ch eiddo.
Fel arfer, gallwch osgoi mynd i wrandawiadau llys os ydych yn cytuno ar drefniadau plant, arian ac eiddo.
Cael help neu gyngor
Gallwch gael cyngor am waith papur cyfreithiol ac o ran gwneud trefniadau gan:
Dod o hyd i gynghorydd cyfreithiol os oes arnoch angen cyngor cyfreithiol.
3. Gwneud cais am ddirymiad
Gallwch wneud cais i ddirymu eich priodas cyn gynted ag y byddwch yn priodi. Yn wahanol i ysgariad, nid oes rhaid i chi aros am flwyddyn.
I ddirymu priodas, llenwch ffurflen gais dirymu.
Anfonwch ddau gopi o’r ffurflen i:
Bury St Edmunds Regional Divorce Unit
Triton House
St Andrew’s Street North
Bury St Edmunds
IP33 1TR
Cadwch gopi eich hun hefyd.
Mae ffeilio ffurflen gais dirymiad yn costio £612.
Efallai y gallwch gael help i dalu ffioedd llys os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel.
Ar ôl i chi wneud cais, bydd y llys yn anfon hysbysiad atoch bod eich cais wedi’i gychwyn.
4. Gwneud cais am orchymyn amodol neu ddyfarniad nisi
Rhaid i’r unigolyn arall ymateb i’ch cais am ddirymiad o fewn 14 diwrnod, gan ddweud a yw’n cytuno y dylid dirymu’r briodas.
Unwaith y byddant yn ymateb, gallwch wneud cais am orchymyn amodol (neu ‘ddyfarniad nisi� os yw’r dyddiad ar eich hysbysiad llys cyn 6 Ebrill 2022). Bydd hyn yn cadarnhau nad yw’r llys yn gweld unrhyw reswm pam na ellir dirymu’r briodas.
Sut i wneud cais
Mae sut rydych yn gwneud cais yn dibynnu ar pryd wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad.
Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad cyn 6 Ebrill 2022
I gael dyfarniad nisi, llenwch y cais am ddyfarniad nisi.
Rhaid i chi hefyd lenwi datganiad yn cadarnhau bod yr hyn a wnaethoch ei ddweud yn eich cais am ddirymiad yn wir.
Defnyddiwch un o’r ffurflenni isod, yn dibynnu p’un a yw eich priodas ‘wedi’i dirymu� neu ‘gellir ei dirymu�:
³Ò·É±ð±ô±ð°ùÌýpryd y gallwch chi ddirymu priodas am y gwahaniaeth rhwng priodas ‘ddi-rymâ€� a phriodas ddirymadwyâ€�.
Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2022
I gael gorchymyn amodol, llenwch y cais am orchymyn amodol.
5. Gwneud cais am orchymyn terfynol neu ddyfarniad absoliwt
6 wythnos ar ôl i chi gael y gorchymyn amodol neu ddyfarniad nisi gallwch wneud cais am naill ai:
- ddyfarniad absoliwt - os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad cyn 6 Ebrill 2022
- gorchymyn terfynol - os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2022
Dyma’r ddogfen gyfreithiol derfynol sy’n dweud bod y briodas wedi’i dirymu.
Sut i wneud cais
Mae sut rydych yn gwneud cais yn dibynnu ar pryd wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad.
Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad cyn 6 Ebrill 2022
Llenwch yr hysbysiad o gais ar gyfer troi dyfarniad nisi yn ddyfarniad absoliwt.
Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2022
³¢±ô±ð²Ô·É³¦³óÌý²â ffurflen gais am orchymyn terfynol.
Pan fyddwch yn dychwelyd eich ffurflenni
Bydd y llys yn gwirio a oes unrhyw reswm pam na ellir dirymu’r briodas. Mewn rhan fwyaf o achosion, nid oes angen i chi fynd i’r llys ar gyfer hyn.
Os yw’r llys yn hapus, bydd yn anfon ‘dyfarniad dirymiad� neu ‘orchymyn dirymu priodas� atoch. Bydd hyn yn cadarnhau nad ydych yn briod mwyach.
Os nad oedd eich priodas erioed yn gyfreithiol ddilys (‘wedi’i dirymu�), bydd y dyfarniad neu’r gorchymyn yn cadarnhau nad oeddech erioed wedi priodi’n gyfreithiol.