Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn ymddeol dramor

Sgipio cynnwys

Gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth dramor

Gallwch wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth dramor os ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU i fod yn gymwys.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os rydych wedi byw neu weithio dramor.

Dylech gael Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth os ydych angen darganfod faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael.

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Gwneud cais

Rhaid i chi fod o fewn 4 mis i鈥檆h oedran Pensiwn y Wladwriaeth i wneud cais.

I wneud cais am eich pensiwn, gallwch naill ai:

Os ydych hefyd am wneud cais am bensiwn y wladwriaeth o wlad arall

Efallai y gallwch wneud un cais i鈥檙 Ganolfan Bensiwn Ryngwladol neu鈥檙 wlad rydych yn byw ynddi. Yna gellir dweud wrth gynlluniau pensiwn y wladwriaeth mewn gwledydd eraill rydych wedi byw neu weithio ynddynt eich bod wedi gwneud cais.

Os dywedir wrthynt, bydd y cynlluniau eraill hynny鈥檔 rhoi gwybod i chi os ydych yn gymwys. Ni fydd angen i chi wneud ceisiadau ar wah芒n iddynt.

Mae hyn yn berthnasol i gynlluniau pensiwn y wladwriaeth yn:

  • yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) 鈥� mae hyn yn cynnwys unrhyw wlad yn yr UE yn ogystal 芒 Norwy, Gwlad yr I芒 a Liechtenstein
  • y Swistir
  • unrhyw wlad sydd 芒 chytundeb nawdd cymdeithasol gyda鈥檙 DU, ar wah芒n i Canada a Seland Newydd

Os ydych yn byw yn un o鈥檙 gwledydd hyn a鈥檆h bod yn gymwys i gael pensiwn y wladwriaeth yno, gwnewch gais i鈥檞 cynllun pensiwn y wladwriaeth. Byddant yn trosglwyddo eich manylion i:

  • y Deyrnas Unedig
  • cynlluniau pensiwn y wladwriaeth eraill yn yr AEE neu鈥檙 Swistir, os gwnaethoch gais yno

Fel arall, pan fyddwch yn gwneud cais i鈥檙 Ganolfan Bensiwn Ryngwladol, byddant yn trosglwyddo鈥檆h manylion i holl gynlluniau pensiwn y wladwriaeth ar y rhestr.

Os ydych chi am wneud cais am bensiynau鈥檙 wladwriaeth o unrhyw wledydd eraill sydd heb gael eu henwi, gan gynnwys Canada a Seland Newydd, gwnewch gais i鈥檞 cynlluniau pensiwn ar wah芒n.

Os ydych yn byw rhan o鈥檙 flwyddyn dramor

Mae鈥檔 rhaid i chi ddewis ym mha wlad rydych am i鈥檆h pensiwn gael ei dalu ynddi. Ni allwch gael eich talu mewn un wlad am ran o鈥檙 flwyddyn ac un arall am weddill y flwyddyn.

Cyfrifon banc y gellir talu eich pensiwn iddynt

Gellir talu eich Pensiwn y Wladwriaeth i:

  • fanc yn y wlad rydych yn byw ynddi
  • banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU

Gallwch ddefnyddio:

  • cyfrif yn eich enw chi
  • cyfrif ar y cyd
  • cyfrif rhywun arall - os oes gennych eu caniat芒d ac yn cadw at delerau ac amodau鈥檙 cyfrif

Byddwch angen rhif cyfrif banc rhyngwladol (IBAN) a rhifau Cod Adnabod y Busnes (BIC) os oes gennych gyfrif tramor.

Byddwch yn cael eich talu mewn arian lleol - gallai鈥檙 swm a gewch newid oherwydd cyfraddau cyfnewid.

Pryd fyddwch yn cael eich talu

Gallwch ddewis cael eich talu bob 4 neu 13 wythnos.

Os yw eich Pensiwn y Wladwriaeth o dan 拢5 yr wythnos, byddwch yn cael eich talu unwaith y flwyddyn ym mis Rhagfyr.

Oedi i daliadau o amgylch gwyliau ffederal yr Unol Daleithiau

Os ydych yn byw dramor a bod eich taliad yn ddyledus yn yr un wythnos 芒 , gallai gyrraedd un diwrnod yn hwyr. Mae hyn oherwydd bod cwmni o鈥檙 Unol Daleithiau yn prosesu鈥檙 taliadau hyn.