Mabwysiadu plentyn
Gwneud cais am orchymyn mabwysiadu gan y llys
I fabwysiad fod yn gyfreithiol, mae angen ichi wneud cais am orchymyn mabwysiadu gan y llys. Bydd hyn yn rhoi hawliau a chyfrifoldebau rhiant i chi ar gyfer y plentyn.
Sut i wneud cais
Os ydych eisiau mabwysiadu plentyn sydd eisoes yn byw gyda chi ar ôl i’r llys wneud gorchymyn lleoli (a elwir yn ‘mabwysiad ar ôl lleoli�), gallwch wneud cais ar-lein.
Mae’n rhaid ichi wneud cais drwy’r post ar gyfer pob math arall o fabwysiadu megis:
- mabwysiadu llysblentyn
- mabwysiadu plentyn o wlad dramor
- mabwysiadu plentyn pan rydych yn warcheidwad arbennig iddynt
- mabwysiadu plentyn dan 6 wythnos oed pan fo’r rhieni wedi gofyn am y mabwysiad
Ffioedd
Mae’r llys yn codi ffi o £201 i brosesu cais.
Os byddwch yn gwneud cais am fabwysiad ar ôl lleoli ar-lein, gallwch dalu â cherdyn credyd neu gerdyn debyd.
Os byddwch yn gwneud cais drwy’r post, gallwch dalu â cherdyn credyd neu gerdyn debyd, arian parod, siec neu BACS.
Os ydych chi’n mabwysiadu mwy nag un plentyn
Bydd angen i chi lenwi cais ar wahân ar gyfer pob plentyn. Dim ond un ffi y bydd rhaid ichi dalu os byddwch yn cyflwyno:
- pob cais ar yr un diwrnod, gan ddefnyddio’r un cyfrif ar-lein
- pob cais ar yr un pryd drwy’r post
Gwneud cais ar-lein am fabwysiad ar ôl lleoli
Rhaid bod y plentyn wedi byw gyda chi am o leiaf 10 wythnos cyn ichi wneud cais.
Fe ofynnir am rywfaint o wybodaeth bersonol gennych am:
- chi eich hun a’ch partner, os oes gennych un
- y plentyn, gan gynnwys ers faint mae wedi bod yn byw gyda chi
Dim ond y llys a’r asiantaethau neu’r awdurdodau mabwysiadu perthnasol fydd yn gweld eich cais.
Fe ofynnir ichi hefyd am wybodaeth sydd ar orchymyn lleoli’r plentyn, er enghraifft:
- enw’r awdurdod lleol wnaeth leoli’r plentyn yn eich gofal
- y llys a wnaeth y gorchymyn
- enw eich gweithiwr cymdeithasol
- enw gweithiwr cymdeithasol y plentyn
Os nad yw’r gorchymyn lleoli gennych, bydd yr wybodaeth hon gan eich gweithiwr cymdeithasol neu asiantaeth fabwysiadu.
Gallwch gadw eich cais a dychwelyd ato ar unrhyw adeg.
Gwneud cais drwy’r post
Gwneir y mwyafrif o geisiadau am orchmynion mabwysiadu yn y Llys Teulu.
Mae angen ichi anfon cais am orchymyn mabwysiadu - Ffurflen A58 wedi’i lenwi i’r llys.
Os ydych yn mabwysiadu plentyn a chithau’n warcheidwad arbennig iddynt, mae’n rhaid eu bod wedi bod yn byw gyda chi am o leiaf 3 o’r 5 mlynedd diwethaf.
Ar ôl ichi wneud cais
Gall gymryd hyd at 6 wythnos i’r llys gysylltu â chi gyda manylion dyddiad gwrandawiad. Nid oes rhaid ichi fynychu unrhyw wrandawiad.
Pan fydd y gorchymyn wedi’i ganiatáu:
Unwaith y bydd y gorchymyn wedi’i ganiatáu:
- bydd y mabwysiad yn dod yn barhaol
- bydd gan y plentyn yr un hawliau a phe baech wedi rhoi genedigaeth iddo/i, er enghraifft hawl i etifeddu
Bydd y gorchymyn hefyd yn dileu cyfrifoldeb rhiant:
- rhiant neu rieni genedigol y plentyn
- unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn
Cael tystysgrif mabwysiadu
Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn cynhyrchu tystysgrif mabwysiadu. Bydd y ddogfen hon yn disodli’r dystysgrif geni wreiddiol, a bydd enw newydd y plentyn i’w gweld arni.
Os ydych eisiau copi o’r dystysgrif newydd, bydd angen i chi brynu un - ni chewch gopi yn awtomatig.
Mae copi ‘llawn� o’r dystysgrif yn costio £11. Gallwch archebu:
Byddwch angen y fersiwn llawn i allu gwneud y rhan fwyaf o bethau cyfreithiol ar gyfer eich plentyn, er enghraifft cael pasbort.