Mabwysiadu plentyn
Printable version
1. Trosolwg
I fod yn gymwys ar gyfer gallu cael ei fabwysiadu, mae’n rhaid i blentyn:
- fod o dan 18 oed pan wneir y cais i fabwysiadu
- peidio â bod (neu erioed wedi bod) yn briod neu mewn partneriaeth sifil
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn berthnasol i Gymru a Lloegr. Mae yna gyfarwyddyd gwahanol os ydych yn:
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Rhieni genedigol y plentyn
Gan amlaf mae’n rhaid i’r ddau riant genedigol gytuno (rhoi caniatâd) i’r mabwysiad, oni bai:
- ni ellir dod o hyd iddynt
- nid ydynt yn gallu rhoi caniatâd, er enghraifft oherwydd anabledd meddyliol
- byddai’r plentyn mewn risg petai ddim yn cael ei fabwysiadu
Pwy all fabwysiadu plentyn
Mae’n bosib y gallwch fabwysiadu plentyn os ydych chi’n 21 oed neu’n hŷn (nid oes uchafswm oed) ac rydych naill ai:
- yn sengl
- yn briod
- mewn partneriaeth sifil
- yn gwpl di-briod (cwpl o’r un rhyw a chwpl o ryw arall)
- yn bartner rhiant y plentyn
Mae yna reolau gwahanol ar gyfer mabwysiadu plant a edrychir ar eu hôl a mabwysiadau preifat.
Byw yn y DU
Nid oes rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig i fabwysiadu plentyn, ond:
- rhaid bod gennych chi (neu eich partner, os ydych yn gwpl) gartref sefydlog a pharhaol yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw
- rhaid eich bod chi (a’ch partner, os ydych yn gwpl) wedi bod yn byw yn y DU am o leiaf 1 blwyddyn cyn i chi ddechrau’r broses fabwysiadu
Cronfa Cymorth Mabwysiadu
Efallai y gallwch gael cymorth ariannol gan y . Mae’n cynnig arian ar gyfer therapi i blant a theuluoedd i helpu i wella perthnasau, hyder ac ymddygiad. Gall eich gweithiwr cymdeithasol wneud cais ar eich rhan.
Os nad ydych chi’n hapus gyda sut mae’r gweithiwr cymdeithasol wedi ymdrin â’ch cais, gallwch wneud cwyn i’r cyngor. Os nad ydych chi’n hapus ag ymateb y cyngor, cysylltwch â thîm y Gronfa Cymorth Mabwysiadu.
Tîm y Gronfa Cymorth Mabwysiadu
[email protected]
01223 463 517
2. Camau cyntaf y broses fabwysiadu
I fabwysiadu plentyn gallwch naill ai gysylltu ag:
- asiantaeth fabwysiadu sy’n rhan o’ch cyngor lleol
Y broses fabwysiadu
-
Cysylltwch ag asiantaeth fabwysiadu - mi wnânt anfon gwybodaeth atoch am y broses fabwysiadu
-
Bydd yr asiantaeth yn trefnu i’ch cyfarfod - mae’n bosib y byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i gyfarfod gyda phobl eraill sydd eisiau mabwysiadu plentyn.
-
Os byddwch chi a’r asiantaeth yn cytuno i barhau â’r broses, bydd yr asiantaeth yn rhoi ffurflen gais i chi.
Gan amlaf bydd y broses gwneud cais i fabwysiadu yn cymryd oddeutu 6 mis. Yna bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn chwilio am blentyn i chi fabwysiadu.
3. Asesiad mabwysiadu
Unwaith bydd yr asiantaeth wedi cael eich cais bydd yn gwneud y canlynol:
-
Eich gwahodd i gyfres o ddosbarthiadau paratoi - gan amlaf fe’u cynhelir yn lleol ac fe roddir cyngor i chi ar effeithiau mabwysiadu arnoch chi.
-
Trefnu i weithiwr cymdeithasol ymweld â chi nifer o weithiau i gynnal asesiad - diben hyn yw gwirio eich bod yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol.
-
Trefnu gwiriad heddlu - ni chaniateir i chi fabwysiadu os ydych chi, neu aelod o’ch teulu sy’n oedolyn, wedi’ch cael yn euog o drosedd difrifol, er enghraifft yn erbyn plentyn.
-
Gofyn i chi ddarparu enw 3 canolwr a fydd yn rhoi geirda personol ar eich cyfer. Gall un o’ch canolwyr fod yn perthyn i chi.
-
Trefnu i chi gael archwiliad meddygol llawn.
Os ydych eisiau mabwysiadu plentyn rydych wedi bod yn ei faethu, bydd dal angen i chi gael eich asesu a’ch cymeradwyo fel rhieni mabwysiadu.
Eich asesiad
Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn anfon adroddiad yr asesiad at banel mabwysiadu annibynnol. Grŵp o bobl ydyw sydd â llawer o brofiad o fabwysiadu.
Bydd y panel yn gwneud argymhelliad i’r asiantaeth fabwysiadu yn seiliedig ar eich asesiad.
Gallwch fynychu cyfarfod y panel i ofyn cwestiynau ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan y panel am eich cais.
Bydd y panel mabwysiadu yn anfon ei argymhelliad i’r asiantaeth a fydd wedyn yn penderfynu p’un a ydych chi’n addas i fabwysiadu plentyn.
Os caniateir i chi fabwysiadu plentyn
Unwaith y bydd eich asiantaeth yn penderfynu y cewch fabwysiadu, bydd yn dechrau’r broses o ddod o hyd i blentyn i chi. Bydd yr asiantaeth yn egluro sut mae’r broses yn gweithio a sut allwch chi gymryd rhan.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru gall eich asiantaeth eich cyfeirio at . Mae’r asiantaeth hon yn cadw manylion plant sydd angen eu mabwysiadu ar draws Cymru.
Os bydd asiantaeth fabwysiadu yn dweud na chewch fabwysiadu plentyn
Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad asiantaeth fabwysiadu, gallwch naill ai:
- herio’r penderfyniad drwy ysgrifennu atynt
- gwneud cais i’r Mecanwaith Adolygu Annibynnol, a fydd yn adolygu eich achos
Gallwch hefyd gysylltu ag asiantaethau mabwysiadu eraill - ond bydd rhaid i chi ddechrau’r broses eto.
4. Gwneud cais am orchymyn mabwysiadu gan y llys
I fabwysiad fod yn gyfreithiol, mae angen ichi wneud cais am orchymyn mabwysiadu gan y llys. Bydd hyn yn rhoi hawliau a chyfrifoldebau rhiant i chi ar gyfer y plentyn.
Sut i wneud cais
Os ydych eisiau mabwysiadu plentyn sydd eisoes yn byw gyda chi ar ôl i’r llys wneud gorchymyn lleoli (a elwir yn ‘mabwysiad ar ôl lleoli�), gallwch wneud cais ar-lein.
Mae’n rhaid ichi wneud cais drwy’r post ar gyfer pob math arall o fabwysiadu megis:
- mabwysiadu llysblentyn
- mabwysiadu plentyn o wlad dramor
- mabwysiadu plentyn pan rydych yn warcheidwad arbennig iddynt
- mabwysiadu plentyn dan 6 wythnos oed pan fo’r rhieni wedi gofyn am y mabwysiad
Ffioedd
Mae’r llys yn codi ffi o £207 i brosesu cais.
Os byddwch yn gwneud cais am fabwysiad ar ôl lleoli ar-lein, gallwch dalu â cherdyn credyd neu gerdyn debyd.
Os byddwch yn gwneud cais drwy’r post, gallwch dalu â cherdyn credyd neu gerdyn debyd, arian parod, siec neu BACS.
Os ydych chi’n mabwysiadu mwy nag un plentyn
Bydd angen i chi lenwi cais ar wahân ar gyfer pob plentyn. Dim ond un ffi y bydd rhaid ichi dalu os byddwch yn cyflwyno:
- pob cais ar yr un diwrnod, gan ddefnyddio’r un cyfrif ar-lein
- pob cais ar yr un pryd drwy’r post
Gwneud cais ar-lein am fabwysiad ar ôl lleoli
Rhaid bod y plentyn wedi byw gyda chi am o leiaf 10 wythnos cyn ichi wneud cais.
Fe ofynnir am rywfaint o wybodaeth bersonol gennych am:
- chi eich hun a’ch partner, os oes gennych un
- y plentyn, gan gynnwys ers faint mae wedi bod yn byw gyda chi
Dim ond y llys a’r asiantaethau neu’r awdurdodau mabwysiadu perthnasol fydd yn gweld eich cais.
Fe ofynnir ichi hefyd am wybodaeth sydd ar orchymyn lleoli’r plentyn, er enghraifft:
- enw’r awdurdod lleol wnaeth leoli’r plentyn yn eich gofal
- y llys a wnaeth y gorchymyn
- enw eich gweithiwr cymdeithasol
- enw gweithiwr cymdeithasol y plentyn
Os nad yw’r gorchymyn lleoli gennych, bydd yr wybodaeth hon gan eich gweithiwr cymdeithasol neu asiantaeth fabwysiadu.
Gallwch gadw eich cais a dychwelyd ato ar unrhyw adeg.
Gwneud cais drwy’r post
Gwneir y mwyafrif o geisiadau am orchmynion mabwysiadu yn y Llys Teulu.
Mae angen ichi anfon cais am orchymyn mabwysiadu - Ffurflen A58 wedi’i lenwi i’r llys.
Os ydych yn mabwysiadu plentyn a chithau’n warcheidwad arbennig iddynt, mae’n rhaid eu bod wedi bod yn byw gyda chi am o leiaf 3 o’r 5 mlynedd diwethaf.
Ar ôl ichi wneud cais
Gall gymryd hyd at 6 wythnos i’r llys gysylltu â chi gyda manylion dyddiad gwrandawiad. Nid oes rhaid ichi fynychu unrhyw wrandawiad.
Pan fydd y gorchymyn wedi’i ganiatáu:
Unwaith y bydd y gorchymyn wedi’i ganiatáu:
- bydd y mabwysiad yn dod yn barhaol
- bydd gan y plentyn yr un hawliau a phe baech wedi rhoi genedigaeth iddo/i, er enghraifft hawl i etifeddu
Bydd y gorchymyn hefyd yn dileu cyfrifoldeb rhiant:
- rhiant neu rieni genedigol y plentyn
- unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn
Cael tystysgrif mabwysiadu
Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn cynhyrchu tystysgrif mabwysiadu. Bydd y ddogfen hon yn disodli’r dystysgrif geni wreiddiol, a bydd enw newydd y plentyn i’w gweld arni.
Os ydych eisiau copi o’r dystysgrif newydd, bydd angen i chi brynu un - ni chewch gopi yn awtomatig.
Mae copi ‘llawn� o’r dystysgrif yn costio £11. Gallwch archebu:
Byddwch angen y fersiwn llawn i allu gwneud y rhan fwyaf o bethau cyfreithiol ar gyfer eich plentyn, er enghraifft cael pasbort.
5. Mabwysiadu llysblentyn
Mae angen i chi hysbysu’ch cyngor lleol os ydych chi eisiau mabwysiadu plentyn eich priod neu’ch partner. Mae’n rhaid i chi wneud hyn o leiaf 3 mis cyn i chi wneud cais i’r llys am orchymyn mabwysiadu.
Hefyd, mae’n rhaid bod y plentyn wedi bod yn byw gyda’r ddau ohonoch am o leiaf 6 mis.
Yr asesiad mabwysiadu
Mae’r broses fabwysiadu yn debyg i asesiad gan asiantaeth fabwysiadu.
Fe ddefnyddir yr asesiad i helpu’r llys i benderfynu a allwch chi fabwysiadu’r plentyn (yn hytrach nag anfon y cais i’w benderfynu gan banel mabwysiadu annibynnol).
Bydd y llys yn gofyn i’ch cyngor lleol ddarparu adroddiad ar:
- eich partner
- y plentyn
- y rhiant genedigol arall
Bydd yr adroddiad yn cael ei baratoi gan weithiwr cymdeithasol ac fe’i ddefnyddir i helpu’r llys i wneud penderfyniad.
Os cymeradwyir y cais, bydd y gorchymyn llys mabwysiadu yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i chi am y plentyn - ochr yn ochr â’ch priod neu’ch partner.
Bydd y gorchymyn hefyd yn dileu cyfrifoldeb rhiant:
- rhiant genedigol arall y plentyn
- unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn
Mae gorchymyn mabwysiadu yn canslo unrhyw fath arall o orchymyn llys, er enghraifft, sut a phryd all rhiant genedigol plentyn ymweld â’r plentyn.
6. Mabwysiadu plentyn o wlad dramor
Gallwch fabwysiadu plentyn o wlad dramor os:
- na ellir gofalu amdanynt mewn amgylchedd diogel yn eu gwlad eu hunain
- byddai o fudd pennaf iddynt gael eu mabwysiadu
- mae’r unigolyn sy’n dymuno mabwysiadu’r plentyn wedi’i asesu’n gymwys ac yn addas i fabwysiadu plentyn o wlad dramor gan asiantaeth fabwysiadu yn y DU
Os ydych chi eisiau mabwysiadu plentyn o wlad dramor, dylech gysylltu ag asiantaeth fabwysiadu yn y DU drwy:
- eich cyngor lleol yng Nghymru a Lloegr
- sy’n delio â mabwysiadu plant o wledydd tramor
Mae’r broses yn wahanol os ydych chi eisiau mabwysiadu plentyn o wlad dramor ac rydych yn byw yn yr neu yng .
Mae’r broses fabwysiadu yn debyg i’r broses ar gyfer mabwysiadu plentyn yn y DU a bydd y gwaith yn cael ei wneud gan asiantaeth fabwysiadu yn y DU a allai godi ffi arnoch.
Os cewch eich asesu a’ch cymeradwyo fel unigolyn addas ar gyfer mabwysiadu plentyn gan asiantaeth fabwysiadu yn y DU, byddant yn rhoi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud nesaf ac yn eich arwain drwy’r camau hynny.
-
Fe anfonir eich cais i’r Adran Addysg (DfE) neu i’ch i wirio ei fod yn diwallu’r meini prawf cymhwysedd.
-
Bydd yr Adran Addysg neu eich Awdurdod Canolog perthnasol yn y DU yn cyhoeddi Tystysgrif Cymhwysedd i Fabwysiadu ac yn ei hanfon gyda’ch cais i fabwysiadu i’r awdurdod perthnasol dramor - mae’n ofynnol mewn rhai gwledydd bod ceisiadau i fabwysiadu a’r dogfennau ategol yn cael eu hardystio gan notari, eu cyfreithloni a’u cyfieithu.
-
Unwaith y byddwch chi wedi adnabod plentyn yr ydych chi’n dymuno ei fabwysiadu, bydd angen ichi ymweld â’r plentyn yn ei wlad ei hun. Bydd angen ichi gadarnhau yn ysgrifenedig eich bod wedi gwneud hynny a’ch bod eisiau parhau â’r cais i fabwysiadu.
-
Efallai y bydd rhaid i chi fynd drwy brosesau llys yn y wlad lle mae’r plentyn yn byw ar hyn o bryd ac yn y DU.
-
Unwaith y bydd y prosesau ar gyfer lleoli’r plentyn wedi’u cwblhau, bydd angen i chi drefnu cliriad mynediad i’r plentyn ddod i’r DU.
Ffioedd
Mae’r Adran Addysg yn codi ffi na ellir ei had-dalu o £2,500 ar gyfer prosesu cais i fabwysiadu plentyn o wlad dramor. Nid oes rhaid talu TAW ar y ffi.
Bydd yr Adran Addysg yn cysylltu â chi gyda manylion sut i dalu’r ffi unwaith y bydd eich cais wedi’i gymeradwyo.
Mae cost rheoli’r achos wedi’i gynnwys yn y ffi ond nid yw’n cynnwys costau’r notari, costau cyfreithloni’r cais neu’r costau cyfieithu.
Cysylltwch â’r awdurdod perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am y .
Cyfyngiadau
Mae’r DU wedi gosod cyfyngiadau ar fabwysiadu plant o’r gwledydd canlynol:
- Cambodia
- Guatemala
- Nepal
- Haiti
- Ethiopia
- Nigeria
Gallwch ddarllen y rhesymau dros osod cyfyngiadau ar bob gwlad.
Sut i wneud cais am esemptiad
Os ydych chi eisiau mabwysiadu plentyn o wlad sydd ar y rhestr o wledydd cyfyngedig, bydd angen i chi gyflwyno rhesymau ysgrifenedig pam bod eich achos yn eithriadol (er enghraifft, mabwysiadu aelod o’r teulu) a darparu tystiolaeth ategol. Darllenwch fwy am sut i wneud cais am esemptiad i fabwysiadu plentyn o wlad sydd ar y rhestr o wledydd cyfyngedig.
Bydd angen ichi ddilyn proses wahanol ar gyfer . Cysylltwch â Llywodraeth yr Alban i gael rhagor o wybodaeth am y cyfyngiadau yno.
Tîm mabwysiadu trawswladol Llywodraeth yr Alban
[email protected]
Os ydych chi’n byw dramor
Mae’n rhaid i chi ddilyn cyfreithiau mabwysiadu’r wlad yr ydych ynddi os ydych chi’n byw fel arfer yn y wlad honno ac eisiau mabwysiadu plentyn.
Mae’n rhaid i chi ddilyn cyfraith fabwysiadu’r DU os ydych chi’n byw fel arfer yn y DU, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel. Weithiau gelwir hyn yn ‘preswylio’n arferol� a gallwch wneud cais hyd yn oed os ydych chi’n byw dramor adeg gwneud y cais i fabwysiadu. Os nad ydych chi’n siŵr o’ch statws preswylio, dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol cyn parhau â’ch cais i fabwysiadu.
Efallai y bydd rhaid i chi dyngu datganiad ar lw o flaen cyfreithiwr i ddweud nad ydych chi mwyach yn preswylio’n arferol yn y DU, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel os bydd y wlad yn gofyn am lythyr ‘dim gwrthwynebiad� gan lywodraeth y DU. Rhaid i chi anfon y datganiad hwn, ynghyd â chopi o’ch pasbort, i naill ai’r Tîm Mabwysiadu Trawswladol yn yr Adran Addysg neu’r Llysgenhadaeth Prydain agosaf.
Os ydych chi wedi mabwysiadu plentyn naill ai yn y DU neu dramor, ac yna’n teithio neu’n symud i drydydd gwlad, efallai na fydd y wlad honno yn cydnabod bod y plentyn wedi’i fabwysiadu gennych. Os oes gennych unrhyw amheuon, dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol.
Cofrestru’r mabwysiad
Gallwch wneud cais i gofrestru mabwysiad o wlad dramor yn y Gofrestr Plant Mabwysiedig ar gyfer Cymru a Lloegr os:
- digwyddodd y mabwysiad mewn gwlad dramor benodol
- roedd y rhiant neu’r rheini yn preswylio’n arferol yng Nghymru a Lloegr pan gafodd y plentyn ei fabwysiadu
- gall y rhiant neu’r rhieni ddarparu’r holl ddogfennau ategol perthnasol
Dylech ddarllen y nodiadau canllaw cyn llenwi’r ffurflen gofrestru gyda’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO).
7. Rhieni genedigol: eich hawliau
Er mwyn i gwpl (neu unigolyn) arall fabwysiadu eich plentyn, fel arfer mae’n rhaid i chi gytuno i hynny.
Unwaith y bydd eich plentyn wedi’i fabwysiadu, ni fydd gennych gyfrifoldeb rhiant drostynt mwyach.
Gan ddibynnu ar sefyllfa’r plentyn, efallai y gallwch gadw mewn cysylltiad â nhw. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd ar ffurf llythyrau a lluniau (ac weithiau cyfarfodydd) drwy’r asiantaeth a oedd yn gyfrifol am drefnu’r mabwysiad.
Hawliau’r tad
Fel tad y plentyn fe ofynnir i chi gytuno i’r mabwysiad - ond dim ond os oes gennych gyfrifoldeb rhiant.
Os nad oeddech erioed yn briod â mam y plentyn neu wedi’ch enw ar y dystysgrif geni, gallwch wneud cais i’r llys am Orchymyn Cyfrifoldeb Rhiant i gael cyfrifoldeb rhiant.
Ceisio stopio’r broses fabwysiadu
Os yw’r broses fabwysiadu wedi dechrau, dylech gael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr neu .
I fabwysiad fod yn gyfreithiol, mae’n rhaid i’r llys ganiatáu gorchymyn llys.
Mae’n rhaid i’r asiantaeth sy’n trefnu’r mabwysiad adael i chi wybod beth yw eich hawliau - a hefyd ar ba bwynt ni ellir atal y mabwysiadu.
Os nad ydych eisiau i’ch plentyn gael ei fabwysiadu, bydd y llys yn rhoi cyfle i chi ddweud pam. Bydd gweithiwr cymdeithasol, sy’n annibynnol ar yr asiantaeth fabwysiadu, yn ymweld â chi ac yn:
- cofnodi’r rhesymau pam nad ydych eisiau i’ch plentyn gael ei fabwysiadu
- gadael i’r llys wybod y rhesymau hyn - gallwch fynd i’r llys i’w hesbonio
Ni ellir gwneud gorchymyn mabwysiadu oni bai bod y llys yn credu ei fod er budd gorau’r plentyn.
Mabwysiadu heb eich caniatâd
Gall y llys benderfynu bod modd i’r plentyn gael ei fabwysiadu heb eich caniatâd os:
- yw’n credu y byddai’r plentyn mewn risg petai ddim yn cael ei fabwysiadu - bydd yn anfon y dystiolaeth maent wedi’i chael atoch, er enghraifft gan y gwasanaethau cymdeithasol
- nid ydych yn gallu rhoi caniatâd, er enghraifft oherwydd anabledd meddyliol