Lwfans Byw i鈥檙 Anabl (DLA) i blant
Newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt
Rhaid i chi gysylltu 芒 llinell gymorth y Lwfans Byw i鈥檙 Anabl (DLA) os:
- yw manylion personol eich plentyn yn newid, er enghraifft eu henw, cyfeiriad neu feddyg
- yw lefel yr help sydd ei angen arnynt neu eu cyflwr yn newid
- yw eu cyflwr wedi gwaethygu ac nid oes disgwyl iddynt fyw mwy na 12 mis
- ydynt yn mynd i鈥檙 ysbyty neu gartref gofal
- ydynt yn bwriadu mynd dramor am fwy na 4 wythnos
- ydynt yn cael eu carcharu neu eu cadw yn y ddalfa
- yw eu statws mewnfudo wedi newid, os nad ydynt yn ddinesydd Prydeinig
Gallech gael eich cludo i鈥檙 llys neu orfod talu cosb os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau eich plentyn .
Gall newid effeithio ar faint o DLA y mae eich plentyn yn ei gael. Ni fydd hyn fel arfer yn effeithio ar eu DLA os ydynt yn mynd:
- i mewn i gartref gofal awdurdod lleol am lai na 28 diwrnod
- i mewn i ysbyty
- dramor am lai na 13 wythnos
- dramor am lai na 26 wythnos i gael triniaeth feddygol ar gyfer cyflwr a ddechreuodd cyn iddynt adael
Os bydd eich plentyn yn symud i鈥檙 Alban
Os yw鈥檆h plentyn yn cael DLA a鈥檌 fod yn symud i鈥檙 Alban, rhaid i chi roi gwybod am hyn drwy ffonio鈥檙 llinell gymorth DLA.
Byddant yn trefnu i鈥檆h plentyn gael yn lle hynny. Nid oes angen i chi wneud cais newydd am Daliad Anabledd Plant.
Bydd eich DLA yn stopio 13 wythnos ar 么l i鈥檆h plentyn symud - rhowch wybod amdanynt yn symud cyn gynted 芒 phosibl ar 么l symud neu gall eich taliadau cael eu heffeithio.
Ffoniwch y llinell gymorth DLA
Ff么n: 0800 121 4600
Ff么n testun: 0800 121 4523
(os na allwch glywed neu siarad ar y ff么n): 18001 yna 0800 121 4600
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Cael gwybod am daliadau galwadau