Helpu rhywun gyda鈥檌 gais am fudd-dal

Sgipio cynnwys

Cael cyngor a gwybodaeth am gais rhywun

Mae sut y gallwch gael cyngor a gwybodaeth yn dibynnu ar y budd-daliadau sy鈥檔 cael eu hawlio. Am:

Yr hyn y gallwch ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth ymholiadau eraill ar ei gyfer:

Gallwch ddarganfod wybodaeth benodol am fudd-dal rhywun arall, fel:

  • pa gam y mae鈥檙 cais wedi鈥檌 gyrraedd
  • sut a pham y mae penderfyniad wedi鈥檌 wneud am gais
  • sut y cyfrifwyd gwerth cais
  • pa gamau a gymerir yn y dyfodol ynghylch y cais
  • beth yw鈥檙 camau nesaf i鈥檙 person sydd wedi gwneud y cais

Gallwch hefyd roi gwybod i鈥檙 llinell gymorth am newidiadau i amgylchiadau byw鈥檙 person, er enghraifft os ydynt yn mynd i mewn i鈥檙 ysbyty. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ymchwilio unrhyw newidiadau cyn diweddaru cais.

Yr hyn na allwch ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth ar ei gyfer

Ni allwch gael gwybodaeth bersonol am y person sydd yn hawlio budd-daliadau, fel:

  • cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • manylion banc neu gymdeithas adeiladu
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • rhif ff么n

Ni allwch ychwaith ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth i reoli cais budd-dal rhywun, fel apelio yn erbyn penderfyniad ar ei ran neu ddod 芒鈥檌 gais i ben.

Pwy all ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth

Gall unrhyw un sydd 芒 chysylltiad gwirioneddol 芒鈥檙 person sy鈥檔 hawlio budd-daliadau ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth ymholiadau eraill.

Mae hynny鈥檔 cynnwys os ydych yn ffonio:

  • ar ran aelod o鈥檙 teulu neu ffrind
  • fel rhan o鈥檆h swydd, er enghraifft os ydych yn weithiwr cymdeithasol, nyrs neu feddyg neu os ydych yn gweithio i sefydliad cyngor neu hawliau lles

Sut i ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth

Mae pwy rydych yn ei ffonio yn dibynnu ar y budd-dal. Am:

Dywedwch eich bod yn edrych am ymholiad arall i gais budd-dal rhywun arall.

Bydd y sawl sy鈥檔 delio 芒鈥檙 alwad yn gwirio bod gennych gysylltiad gwirioneddol 芒鈥檙 person sy鈥檔 hawlio budd-daliadau. Gall hynny olygu gofyn cwestiynau am:

  • fanylion personol y person hwnnw
  • manylion personol cais budd-dal y person hwnnw
  • eich rhif ff么n neu鈥檆h cyfeiriad e-bost, os ydych yn ffonio fel rhan o鈥檆h swydd neu ar ran sefydliad.

Efallai y byddant hefyd yn cysylltu 芒鈥檙 person sy鈥檔 hawlio鈥檙 budd-daliadau er mwyn gwirio a ydynt yn hapus i chi ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth.

Os ydych yn gallu profi eich cysylltiad go iawn

Bydd y sawl sy鈥檔 delio 芒鈥檙 alwad yn gallu eich helpu. Os ydych am ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth eto ar alwad arall, efallai bydd angen i chi ailadrodd y gwiriadau.

Os na allwch brofi eich cysylltiad go iawn

Ni fyddwch yn gallu defnyddio鈥檙 gwasanaeth. Gall y sawl sy鈥檔 delio 芒鈥檙 alwad awgrymu ffyrdd eraill y gallwch helpu鈥檙 person gyda鈥檌 gais.