Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Cymhwyster
Mae angen i鈥檆h plentyn fod o dan 16 - neu o dan 20 oed os yw mewn addysg llawn amser, hyd at ac yn cynnwys lefel A neu gyfwerth.
Mae angen i chi fyw yn y DU fel eich prif gartref a bod gennych yr hawl i fyw yma.
Gallwch wneud cais os ydych yn:
- naill riant (nid oes angen i chi fyw gyda鈥檙 plentyn)
- nain neu daid sy鈥檔 gofalu鈥檔 bennaf am y plentyn o ddydd i ddydd
- gwarcheidwad y plentyn
- plentyn dros 12 oed yn byw yn yr Alban
Os ydych yn y carchar neu鈥檔 fyfyriwr llawn amser heb unrhyw incwm, nid oes yn rhaid i chi dalu cynhaliaeth plant - nid oes angen gwneud cais.
Ni allwch ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth yma os oes gennych orchymyn cydsynio presennol wedi鈥檌 gymeradwyo gan lys sydd naill ai:
- llai na blwydd oed
- wedi鈥檌 wneud cyn 3 Mawrth 2003
Os yw un o鈥檙 rhieni yn byw y tu allan i鈥檙 DU
Ni allwch wneud cais os yw鈥檙 plentyn a鈥檙 rhiant sydd gyda phrif ofal o ddydd i ddydd yn byw y tu allan i鈥檙 DU.
Gall y gwasanaeth ond fod o help os yw鈥檙 rhiant sydd heb brif ofal o ddydd i ddydd yn gweithio y tu allan i鈥檙 DU i sefydliad Prydeinig.