Anghytundebau ynghylch bod yn rhiant

Os ydych chi neu鈥檙 rhiant arall yn eich achos cynhaliaeth plant yn gwadu eu bod yn rhiant i blentyn, gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant:

  • ofyn am dystiolaeth sy鈥檔 profi nad yw un ohonoch yw鈥檙 rhiant
  • dweud wrth y rhiant arall beth sydd wedi digwydd a gofyn am dystiolaeth i brofi pwy yw鈥檙 rhiant

Os nad oes tystiolaeth i brofi nad chi yw鈥檙 rhiant, gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant:

  • ofyn i chi a鈥檙 rhiant arall gymryd prawf DNA
  • gofyn i鈥檙 llys wneud penderfyniad

Pan fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn tybio pwy yw鈥檙 rhiant

Byddwn yn tybio mai chi yw rhiant y plentyn os yw unrhyw un o鈥檙 canlynol yn berthnasol:

  • roeddech yn briod, neu鈥檔 bartner sifil i fam y plentyn ar unrhyw adeg rhwng beichiogi a genedigaeth y plentyn (oni bai bod y plentyn wedi cael ei fabwysiadu)
  • rydych wedi eich enwi ar dystysgrif geni鈥檙 plentyn (oni bai bod y plentyn wedi cael ei fabwysiadu)
  • mae prawf DNA yn dangos mai chi yw鈥檙 rhiant
  • rydych chi wedi mabwysiadu鈥檙 plentyn yn gyfreithiol
  • rydych chi鈥檔 cael eich enwi mewn gorchymyn llys fel rhiant pan aned y plentyn i fam fenthyg

Talu cynhaliaeth plant yn ystod anghytundeb

Os byddwn yn tybio mai chi yw鈥檙 rhiant

Bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo swm cynhaliaeth plant. Bydd yn rhaid i chi dalu hwn os nad oes gennych brif ofal o ddydd i ddydd am y plentyn. Os profwch nad chi yw鈥檙 rhiant ni fydd yn rhaid i chi dalu mwyach.

Os na fyddwn yn tybio mai chi yw鈥檙 rhiant

Nid oes angen i chi dalu cynhaliaeth plant nes bod yr anghytundeb wedi鈥檌 ddatrys. Os canfyddir mai chi yw鈥檙 rhiant, bydd y swm o gynhaliaeth plant y mae鈥檔 rhaid i chi ei dalu yn cael ei 么l-ddyddio i鈥檙 adeg pan agorwyd yr achos.

Os profwch nad chi yw鈥檙 rhiant

Pan fydd hyn yn digwydd, gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant:

  • ad-dalu鈥檙 taliadau rydych a wnaed ar 么l y dyddiad y gwnaethoch wadu mai chi oedd y rhiant
  • gwrthbwyso鈥檙 swm rydych wedi鈥檌 dalu mewn cynhaliaeth plant yn erbyn cynhaliaeth ar gyfer plentyn arall rydych yn talu amdanynt
  • ad-dalu cost unrhyw brofion DNA a drefnir drwy鈥檙 gwasanaeth
  • gofyn i鈥檙 rhiant arall dalu unrhyw gynhaliaeth plant yn 么l i chi