Canllawiau

Gweithio allan a fyddwch yn talu Treth Incwm Cymru

Cael gwybod a fyddwch yn drethdalwr Cymreig os ydych yn symud i Gymru neu oddi yno, os oes gennych fwy nag un cartref neu os nad oes gennych gartref.

Rhagarweiniad

Os ydych yn byw mewn un lle yn ystod blwyddyn treth ac mae yng Nghymru, fe fyddwch yn drethdalwr Cymreig a byddwch yn talu cyfraddau Treth Incwm Cymru o 6 Ebrill 2019 ymlaen. Mae鈥檔 cael ei dalu i Lywodraeth Cymru.

Os ydych yn byw unrhyw le arall yn y DU ni fyddwch yn drethdalwr Cymreig.

Mae鈥檔 bosibl y bydd eich sefyllfa鈥檔 wahanol os:

  • ydych yn symud i Gymru neu oddi yno yn ystod y flwyddyn
  • oes gennych fwy nag un gartref ar yr un pryd
  • nad oes gennych unman y gallwch nodi鈥檔 glir fel eich cartref

Gallwch ond fod yn drethdalwr Cymreig os ydych yn preswylio yn y DU at ddibenion treth.

Os byddwch yn symud i gyfeiriad newydd, bydd rhaid i chi roi gwybod i CThEM fel y gallant wneud yn si诺r bod gennych y cod treth cywir. Ni all eich cyflogwr wneud hyn.

Os nad ydych yn byw yng Nghymru

Os ydych yn byw y tu allan i Gymru, ni fyddwch yn drethdalwr Cymreig ac ni fydd yr un o鈥檙 canlynol yn eich gwneud yn drethdalwr Cymreig:

  • hunaniaeth genedlaethol - rydych yn ystyried eich hun yn Gymry
  • lleoliad gwaith 鈥� rydych yn gweithio yng Nghymru
  • rydych yn cael cyflog neu bensiwn gan gyflogwr neu ddarparwr pensiwn Cymraeg
  • rydych yn teithio yng Nghymru - er enghraifft, yn gyrru lorri yng Nghymru, neu鈥檔 ymweld yn aml 芒鈥檙 wlad fel rhan o鈥檆h gwaith.

Bydd holl Seneddwyr Cymru yn drethdalwyr Cymreig, waeth ble maent yn byw.

Os ydych yn symud i Gymru neu oddi yno

Byddwch ond yn drethdalwr Cymreig os ydych yn byw yng Nghymru am gyfnod hwy nag unrhyw le arall yn y DU yn ystod blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol).

Os ydych yn drethdalwr Cymreig, byddwch yn talu cyfraddau treth incwm Cymru drwy gydol y flwyddyn dreth.

O 6 Ebrill 2019 ymlaen, bydd eich cod treth yn dechrau gydag 鈥楥鈥� os ydych yn drethdalwr Cymreig.

Enghraifft: rydych yn symud i Gymru

Rydych wedi rhentu a byw mewn t欧 yn Birmingham ers sawl blwyddyn. Ar 30 Mehefin mae鈥檆h rhent ar yr eiddo yn Birmingham yn dod i ben ac rydych yn symud yn syth i fflat yn Llandudno. Roedd yr amser a dreuliwyd yn byw yng Nghymru yn y flwyddyn dreth (rhwng 1 Gorffennaf a 5 Ebrill) yn hirach na鈥檙 amser oeddech yn byw yn Lloegr (rhwng 6 Ebrill a 30 Mehefin). Mae hyn yn golygu eich bod yn drethdalwr Cymreig am y flwyddyn dreth gyfan.

Enghraifft: rydych yn symud i ffwrdd o Gymru

Rydych wedi byw yn Abertawe ers sawl blwyddyn. Yn ystod y flwyddyn dreth rydych yn gwerthu鈥檆h t欧 yn Abertawe ac yn symud i fflat ym Manceinion lle rydych yn aros cyn symud i d欧 newydd ym Mryste. Yn ystod y flwyddyn dreth y gwnaethoch dreulio:

125 diwrnod yn Abertawe 120 diwrnod ym Manceinion 120 diwrnod ym Mryste

Nid ydych yn drethdalwr Cymreig am y flwyddyn dreth gyfan gan eich bod wedi byw yng Nghymru am lai o amser nag oeddech yn byw yn Lloegr (Cymru 125 diwrnod, Lloegr 240 diwrnod).

Os oes gennych fwy nag un gartref ar yr un pryd

Os oes gennych fwy nag un lle yr ydych yn ystyried fel cartref, un yng Nghymru ac un yn rhywle arall yn y DU, byddwch yn drethdalwr Cymreig os yw鈥檆h prif gartref yng Nghymru. Bydd yn rhaid i chi roi gwybod i CThEM p鈥檜n yw鈥檆h prif gartref.

Beth sy鈥檔 cyfrif fel eich prif gartref

Fel arfer, eich prif gartref yw鈥檙 man lle鈥檙 ydych yn byw ac yn treulio鈥檆h amser yn bennaf. Nid oes ots os ydych yn berchen arno, yn ei rentu neu鈥檔 byw ynddo yn rhad ac am ddim.

Mae鈥檔 bosibl mai鈥檆h prif gartref yw鈥檙 cartref lle鈥檙 ydych yn treulio llai o amser, os dyna ble:

  • mae鈥檙 rhan fwyaf o鈥檆h eiddo
  • mae鈥檆h teulu鈥檔 byw, er enghraifft, os ydych yn briod, mewn partneriaeth sifil neu berthynas hirdymor
  • rydych wedi鈥檆h cofrestru ar gyfer pethau fel eich cyfrif banc, meddyg teulu neu yswiriant car
  • rydych yn aelod o glybiau neu gymdeithasau

Enghraifft

Mae gennych gartref teuluol yng Nghaerdydd gyda鈥檆h g诺r a鈥檆h plant ond yn gweithio yn Kilmarnock. Er mwyn osgoi cymudo, rydych yn rhentu fflat yn Kilmarnock lle rydych yn aros yn ystod yr wythnos ac yn cadw rhai o鈥檆h eiddo. Rydych yn dychwelyd i gartref y teulu yng Nghaerdydd bob penwythnos. Mae鈥檙 holl ffrindiau yr ydych yn gweld yn gymdeithasol yn byw yng Nghaerdydd neu o鈥檌 hamgylch. Rydych hefyd yn aelod o sawl gr诺p chwaraeon a chymdeithasol lleol yng Nghaerdydd ac mae鈥檆h meddyg a鈥檆h deintydd yng Nghaerdydd.

Er gwaethaf treulio mwy o amser o ran dyddiau yn Kilmarnock drwy鈥檙 flwyddyn dreth, Caerdydd yw鈥檆h prif gartref oherwydd y cysylltiadau teuluol, cymdeithasol a chysylltiadau eraill sydd gennych yno. Rydych felly鈥檔 drethdalwr Cymreig am y flwyddyn dreth gyfan.

Ni allwch nodi鈥檔 glir unrhyw le fel eich cartref

Mae鈥檔 bosibl bod eich sefyllfa naill ai:

  • nid oes unman yn ystod blwyddyn dreth yr ydych wedi aros am gyfnodau rheolaidd y byddech yn ei ystyried yn gartref i chi
  • mae gennych fwy nag un lle rydych yn byw ynddo ac nid yw鈥檔 bosibl nodi鈥檔 glir p鈥檜n yw鈥檆h prif gartref

Bydd a ydych yn drethdalwr Cymreig yn cael ei benderfynu drwy gyfrif nifer y diwrnodau yr ydych yn eu treulio yng Nghymru a鈥檌 gymharu 芒 nifer y diwrnodau yr ydych yn eu treulio mewn mannau eraill yn y DU yn ystod blwyddyn dreth.

Os ydych yn treulio mwy o ddiwrnodau yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU, rydych yn drethdalwr Cymreig am y flwyddyn dreth gyfan.

Yr hyn sy鈥檔 cyfrif fel diwrnod

Mae lle y gwnaethoch dreulio diwrnod yn dibynnu ar ble鈥檙 oeddech am hanner nos ar ddiwedd y dydd. Er enghraifft, os oeddech yn byw yng Nghymru o 10:00 Dydd Llun i 17:00 Dydd Gwener yr un wythnos, gwnaethoch dreulio 4 diwrnod yno.

Os ydych yn gweithio alltraeth, rydych wedi treulio diwrnod yng Nghymru os ydych hyd at 12 milltir f么r o Gymru.

Enghraifft: nid oes gennych gartref

Rydych yn ddinesydd y DU ond nid oes gennych fan preswylio sefydlog yn ystod blwyddyn dreth, nad ydych yn berchen ar eiddo nac yn ei rentu. Rydych yn teithio o gwmpas y DU am waith, ac yn aros mewn gwestai. Yn ystod y flwyddyn dreth rydych yn treulio 120 diwrnod yng Nghymru, 100 diwrnod yn Lloegr, 50 diwrnod yn yr Alban a 10 diwrnod yng Ngogledd Iwerddon.

Gan nad oes gennych fan preswylio yn ystod y flwyddyn dreth, rydych yn cymharu鈥檙 diwrnodau yr ydych yn treulio yng Nghymru 芒鈥檙 dyddiau yr ydych yn eu treulio mewn rhannau eraill o鈥檙 DU. Gan fod y 120 o ddiwrnodau yr ydych yn treulio yng Nghymru yn fwy na phob un o鈥檙 diwrnodau yr ydych yn treulio yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, rydych yn drethdalwr Cymreig.

Teithio drwy鈥檙 DU

Efallai yr ydych yn 鈥榯eithio鈥� trwy鈥檙 DU. Mae hyn yn golygu ar y ffordd o wlad y tu allan i鈥檙 DU i wlad arall y tu allan i鈥檙 DU. Nid yw鈥檔 cyfrif fel diwrnod, hyd yn oed os ydych yn y DU am hanner nos, oni bai鈥檆h bod yn gwneud un o鈥檙 canlynol:

  • peidio 芒 gadael y DU y diwrnod wedyn
  • cynnal gweithgareddau nad ydynt yn gysylltiedig 芒 theithio, er enghraifft, rydych yn ymweld 芒 ffrindiau, neu鈥檔 mynd i gyfarfod gwaith

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i arweiniad technegol ynghylch pwy sy鈥檔 drethdalwr Cymreig.

Mae yn cynnwys diffiniad llawn o drethdalwr Cymreig.

Os oes angen help neu arweiniad pellach arnoch, cysylltwch 芒 CThEM.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Mawrth 2020

Argraffu'r dudalen hon