Cyfrifo cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogai
Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gyfrifo cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogai ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol, os ydych yn gyflogai, cyflogwr, neu鈥檔 ddatblygwr meddalwedd.
Bydd y gyfrifiannell hon yn caniat谩u i chi wirio faint mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol y mae angen i gyflogai ei dalu.
Defnyddio鈥檙 gyfrifiannell
Os ydych yn gyflogai
Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gael gwybod a ydych wedi talu鈥檙 swm cywir o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Os ydych yn gyflogwr
Defnyddiwch y gyfrifiannell i ddarganfod faint o Yswiriant Gwladol y mae angen i chi ei ddidynnu o gyflog eich cyflogai.
Os ydych yn ddatblygwr meddalwedd
Gwiriwch fod y feddalwedd gyflogres rydych wedi鈥檌 datblygu yn cyfrifo cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer cyflogeion a chyflogwyr yn gywir.
Cyn i chi ddechrau
Dim ond ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol y mae鈥檙 gyfrifiannell hon.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- y cyfnod cyflog, a allai fod yn:
- wythnosol
- bob 2 wythnos
- bob 4 wythnos
- bob mis
- y dyddiad y cawsoch eich talu, os ydych yn gyflogai
- y dyddiad y gwnaethoch dalu鈥檆h cyflogai, os ydych yn gyflogwr
- y swm a dalwyd cyn unrhyw ddidyniadau
- llythyren gategori Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg)聽y cyflogai 鈥� gellir dod o hyd i hyn ar slip cyflog y cyflogai