Canslo benthyciad yn rhannol yng Nghymru
Gallai myfyrwyr llawn-amser sydd wedi cymryd Benthyciad Cynhaliaeth gan Cyllid Myfyrwyr Cymru ganslo hyd at 拢1,500.
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn a gynigir gan Lywodraeth Cymru:
- rhaid eich bod wedi bod yn fyfyriwr llawn-amser
- rhaid eich bod wedi cymryd Benthyciad Cynhaliaeth gan Cyllid Myfyrwyr Cymru ers blwyddyn academaidd 2010/11
- rhaid eich bod wedi dechrau ad-dalu neu鈥檆h bod wedi gwneud ad-daliad gwirfoddol
Faint o鈥檙 Benthyciad Cynhaliaeth fydd yn cael ei ganslo
Pan fyddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr, gallai Llywodraeth Cymru ddileu hyd at 拢1,500 o unrhyw falans Benthyciad Cynhaliaeth ar gyfer myfyriwr llawn-amser. Os byddwch yn cymryd benthyciad yn ystod mwy nag un flwyddyn academaidd, dim ond i鈥檙 Benthyciad Cynhaliaeth cyntaf a gymerwyd gennych y bydd y cynllun dileu鈥檔 berthnasol. Bydd y swm a gaiff ei ddileu鈥檔 dibynnu ar swm eich ad-daliad cyntaf. Gallwch gael gwybod mwy ar .
Os yw eich incwm ar hyn o bryd yn rhy isel i chi fod yn ad-dalu, byddwch yn dal yn gallu canslo rhan o鈥檆h Benthyciad Cynhaliaeth os byddwch yn dechrau ad-dalu yn y dyfodol.
Dim ond unwaith y gallwch fanteisio ar y cynllun i ganslo benthyciad. Ni allwch fanteisio arno os oes gennych unrhyw daliadau, costau, treuliau neu gosbau sydd heb eu talu yng nghyswllt eich benthyciad, neu os ydych yn gweithredu鈥檔 groes i gytundeb eich benthyciad.
Nid oes rhaid i chi fod yn gwneud ad-daliadau trwy eich cyflog i fod yn gymwys ar gyfer y canslo o 拢1,500, gallwch wneud ad-daliad gwirfoddol o 拢5 i鈥檞 actifadu.
Enghreifftiau
Unwaith y byddwch wedi gorffen neu adael eich cwrs, bydd y swm gaiff ei ganslo yn dibynnu ar:
- faint sydd wedi ei ad-dalu
- y balans ar 么l i鈥檙 ad-daliad gael ei wneud
Balans Benthyciad Cynhaliaeth Cyntaf | Swm yr ad-daliad cyntaf | Balans sy鈥檔 weddill | Swm a ganslwyd |
---|---|---|---|
拢200 | 拢200 | 拢0 | 拢0 |
拢1,000 | 拢5 | 拢995 | 拢995 |
拢3,000 | 拢1,000 | 拢2,000 | 拢1,500 |
Updates to this page
-
Examples have been updated
-
Updates have been made to explain how repayments are allocated to a customer's student loans, and how those repayments can trigger the Welsh partial cancellation policy.
-
Bulletpoint updated to include 'made a voluntary repayment'
-
Content has been updated to include more in-depth guidance about the Welsh Partial Cancellation Policy.
-
Added translation