Cymru - Isranbarth 2
Sgrinio Daearegol Cenedlaethol � Cymru
Manylion
Mae ein gwaith yn dangos y gallem ddod o hyd i leoliad daearegol addas ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol mewn rhan fach o’r isranbarth hwn, ond mae’n bosibl na fydd trwch a nodweddion y creigiau sy’n bresennol a allai gynnwys cyfleuster yn addas.
Ar y cyfan, nid oes modd gweld craig ar yr wyneb yn yr isranbarth hwn heblaw mewn cloddiau o law dyn fel chwareli neu gloddiadau ffordd. Fodd bynnag, mae ac , sy’n bennaf gysylltiedig â chloddio, yn rhoi dealltwriaeth i ni o’r creigiau sy’n bresennol a’u dosbarthiad.
Mae gwahanol fathau o o ddaeareg ac rydym yn .
Mae haenau o i’r dwyrain o Wrecsam a haenau o i’r gorllewin o Dre-groes y byddwn yn gallu lleoli cyfleuster gwaredu daearegol ynddynt efallai. Mae’r wybodaeth sydd ar gael yn awgrymu eu bod yn rhy denau efallai a byddai’n rhaid i ni wneud rhagor o waith i ganfod a oes gan y creigiau hyn y nodweddion a’r trwch addas.
Hyd yn oed pan nad yw haenau unigol o graig llawn clai yn ddigon trwchus i gynnwys cyfleuster gwaredu daearegol ynddynt, fe allant gefnogi’r gwaith o leoli cyfleuster gwaredu mewn creigiau dyfnach oherwydd fe allant o’r dyfnderoedd. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae llif yn un ffordd y gallai deunydd ymbelydrol gael ei gludo yn ôl i’r wyneb.
Mae rhannau o’r isranbarth wedi cael eu cloddio i ddyfnderoedd o dan 100m am yn rhannau’r Fflint a Sir Ddinbych o Faes Glo Gogledd Cymru, a phlwm a sinc i’r de o Dreffynnon ac i’r gorllewin o Wrecsam. Yn yr ardaloedd hyn, mae’r gwaith cloddio’n debygol o fod wedi cael effaith ar y ffordd mae dŵr yn llifo drwy’r graig. Hefyd, mae gwaith archwilio posibl yn yr ardaloedd hyn yn y dyfodol yn golygu ei bod hi’n fwy tebygol y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn .
Mae gan rannau dwyreiniol o’r isranbarth i ganiatáu i gwmnïau chwilio am olew a nwy. Mae’r gwaith archwilio hwn yn ei gamau cynnar ar hyn o bryd ac nid oes modd dweud a fydd olew neu nwy yn yr ardaloedd trwydded hyn yn cael eu defnyddio er elw ai peidio. Bydd Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWM) yn parhau i fonitro cynnydd y rhaglen archwilio hon.
Mae rhannau o’r ardal hon, yn aber Afon Dyfrdwy ac i’r de o Fwcle, yn sy’n caniatáu i gwmnïau chwilio am lo. Nid oes modd dweud a fydd glo yn yr ardaloedd trwyddedig hyn yn cael ei ddefnyddio er elw ai peidio. Bydd RWM yn parhau i fonitro cynnydd y rhaglen archwilio hon hefyd.
Rydym wedi cynhyrchu crynodeb o nodweddion daearegol .
Bydd yr astudiaeth hon yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer ein trafodaethau ag unrhyw gymuned leol fydd yn mynegi diddordeb yn ein rhaglen GDF. Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected] a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi. Os hoffech dderbyn hysbysiadau e-bost am ddiweddariadau i’r tudalennau yma,