Cynllun Turing: gwneud cais am gyllid ar gyfer lleoliadau rhyngwladol
Gwybodaeth ynghylch gwneud cais am gyllid ar gyfer astudiaethau a lleoliadau gwaith rhyngwladol ar gyfer ysgolion, darparwyr addysg bellach a darparwyr addysg uwch.
Ni all myfyrwyr wneud cais yn uniongyrchol i鈥檙 Adran Addysg (DfE) am gyllid Cynllun Turing. Os ydych yn fyfyriwr sydd 芒diddordeb mewn astudio neu weithio dramor, cysylltwch 芒鈥檆h darparwr addysg neu hyfforddiant.
Mae Cynllun Turing yn cynnig cyllid grant i ddarparwyr addysg i gefnogi eu myfyrwyr neu brentisiaid i ddilyn lleoliadau astudio a gwaith ledled y byd.
Mae cyllid yn agored i sefydliadau鈥檙 DU a thiriogaethau tramor Prydeinig ar draws y sector addysg a hyfforddiant, gan gynnwys ysgolion a darparwyr addysg bellach ac uwch. 聽
Mae鈥檙 cyllid hwn yn galluogi darparwyr addysg i:
- rhoi cyfle i鈥檞 myfyrwyr ddatblygu sgiliau newydd
- ennill profiad rhyngwladol
- rhoi hwb i鈥檞 cyflogadwyedd
Gall darparwyr wneud cais am gyllid ar gyfer myfyrwyr sy鈥檔 mynd i gyrchfannau lluosog, fel rhan o un cais.
Mae rhagor o wybodaeth am cyllid a chymhwysedd ar gyfer Cynllun Turing.
Gwneud cais am gyllid
Mae gan y cynllun 3 llwybr ymgeisio sy鈥檔 seiliedig ar y math o addysg a hyfforddiant a ddarperir gan sefydliadau yn y sector. Dyma nhw:
- ysgolion
- addysg bellach (AB)
- addysg uwch (AU)
Mae ceisiadau Cynllun Turing ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026 bellach wedi cau.
Mae aseswyr annibynnol yn adolygu ac yn sgorio pob cais. Byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr am y canlyniadau ym mis Mehefin 2025.
Gall ysgolion a darparwyr AB wneud cais fel rhan o bartneriaeth consortiwm. Dylid enwi pob darparwr addysg mewn prosiectau consortiwm yn y cais.
Os ydych yn gwneud cais am gyllid ar draws 2 sector, bydd angen i chi gyflwyno ceisiadau ar gyfer y gwahanol lwybrau ar wah芒n. Dim ond un cais y gallwch ei wneud fesul sector.
Defnyddiwch y gwasanaeth gwneud cais am gyllid Cynllun Turing i wneud cais am gyllid i gefnogi eich myfyrwyr sy鈥檔 astudio ac yn gweithio dramor.
Ar 么l i chi gyflwyno鈥檆h cais, bydd yn cael:
- gwiriad cymhwysedd a gallu ariannol i wirio eich bod yn cydymffurfio 芒 meini prawf cymhwysedd Cynllun Turing
- asesiad i werthuso i ba raddau y mae鈥檙 cais yn bodloni meini prawf asesu Cynllun Turing
Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar DfE i dderbyn unrhyw gais na dyfarnu cyllid. Nid ydych yn gymwys i gael cyllid tuag at unrhyw gostau a dynnnir gennych wrth ddatblygu neu gyflwyno eich cais. Nid yw dyfarnu cyllid Cynllun Turing mewn un flwyddyn academaidd yn gwarantu y dyfernir cyllid yn y blynyddoedd dilynol.
Rhaid i chi sicrhau bod eich prosiectau yn dilyn y gofynion diogelu sy鈥檔 berthnasol i chi yn:
- eich awdurdodaeth
- cyrchfan y lleoliad
Ni allwn gadarnhau eich bod yn cydymffurfio 芒 meini prawf cymhwysedd Cynllun Turing cyn i chi gyflwyno鈥檆h cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am wneud cais, .
Meini prawf asesu
Mae鈥檙 meini prawf asesu ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026 yn adlewyrchu pwrpas a nodau diweddaraf Cynllun Turing.
Caiff ceisiadau eu sgorio yn erbyn y meini prawf hyn.
Rydym yn defnyddio sgoriau asesu i flaenoriaethu cyllid. Mae hyn yn golygu bod ymgeiswyr sy鈥檔 sgorio鈥檔 uchel yn fwy tebygol o gael y cyllid y maent wedi gofyn amdano. Mae hyn yn amodol ar:
- ansawdd cyffredinol y ceisiadau a dderbyniwyd
- lefel y galw am gyllid
Dylai ceisiadau gynnwys trosolwg o鈥檆h prosiect yn lle pob lleoliad.
Mae lleoliad yn cyfeirio at y gweithgaredd astudio neu waith rydych yn ei drefnu ar gyfer myfyriwr neu gr诺p o fyfyrwyr mewn un cyrchfan. Mae prosiect yn cyfeirio at eich cais cyffredinol, gan gynnwys yr holl leoliadau yr hoffech eu hwyluso ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026.
Meini prawf asesu
Yn eich cais, mae angen i chi ddarparu gwybodaeth yn ymwneud 芒鈥檙 meini prawf asesu.
Gweledigaeth y prosiect (pwysoliad: 10%, hyd at 400 gair)
Crynhowch eich prosiect Cynllun Turing arfaethedig, gan nodi鈥檔 benodol sut y bydd yn cyflawni nodau Cynllun Turing.
Gwella sgiliau (pwysoliad: 30%, hyd at 1,000 o eiriau)
Eglurwch pwy yw eich myfyrwyr Cynllun Turing, pa ganlyniadau addysg neu gyflogaeth y byddant yn eu hennill a sut mae鈥檙 rhain yn cysylltu 芒鈥檙 cyrchfan y bydd myfyrwyr yn ymweld ag ef.
Dywedwch wrthym sut y byddwch yn mesur effaith eich lleoliadau myfyrwyr Cynllun Turing.
Hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol (pwysoliad: 30%, hyd at 1,000 o eiriau)
Amlinellwch, gan ddefnyddio data lle bo modd:
- demograffeg gyffredinol eich sefydliad gan gynnwys myfyrwyr sydd dan anfantais, o grwpiau a dangynrychiolir a鈥檙 rhai ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau (AAAA), gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru a phobl ag anghenion cymorth ychwanegol (ASN) yn yr Alban
- sut y byddwch yn recriwtio ac yn cefnogi myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig
- sut y byddwch yn recriwtio ac yn cefnogi myfyrwyr ag AAAA
- sut y byddwch yn recriwtio ac yn cefnogi myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
Cynllun cyflawni (pwysoliad: 30%, hyd at 250 gair ar gyfer pob adran)
Gosodwch gynllun cyflawni sy鈥檔 cynnwys:
- amseriadau 鈥� crynodeb o鈥檙 prif weithgareddau ar gyfer cyflwyno eich lleoliadau a鈥檜 hamseriadau
- risgiau a materion - risgiau prosiect, mesurau lliniaru a sut y byddwch yn rheoli unrhyw faterion sy鈥檔 codi
- rolau, cyfrifoldebau a llywodraethu 鈥� pwy fydd yn gweithio ar y prosiect, a threfniadau llywodraethu eich prosiect, gan gynnwys unrhyw drefniadau consortiwm
- trefniadau sicrwydd 鈥� eich prosesau i sicrhau gwerth am arian ac atal twyll a gwallau
Bydd angen i chi hefyd ddarparu dadansoddiad o gostau, gan gynnwys nodi sut y byddwch yn defnyddio cyllid cymorth sefydliadol.聽Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn y gallwch chi wario arian cymorth sefydliadol arno yn y tudalennau ar gyfer pob sector.
Sgorio asesiad a dyrannu cyllid
Caiff ceisiadau eu sgorio yn erbyn y meini prawf gan aseswyr annibynnol. Dim ond ar sail y wybodaeth sydd wedi鈥檌 chynnwys yn y cais y gall aseswyr sgorio, ac ni fyddant yn ystyried unrhyw wybodaeth arall.
Ar gyfer 2025 i 2026 bydd terfyn ar faint o gyllid a ddyfernir i ysgolion a darparwyr AB, yn ogystal 芒 chyfraddau grant newydd ar gyfer darparwyr AB. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y tudalennau ar gyfer pob sector.
Os byddwch yn llwyddiannus, rydym yn disgwyl i chi gyflawni鈥檙 nodau a鈥檙 bwriad a nodir yn eich cais, gan gynnwys hwyluso cyfran y lleoliadau ar gyfer myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig ac ag AAAA. Lle nad yw hyn yn bosibl, mae angen i chi ddweud pam wrthym.
Gwiriadau gallu ariannol a diwydrwydd dyladwy
Pan fyddwch yn gwneud cais, byddwn yn gofyn i chi grynhoi eich prosesau i sicrhau gwerth am arian ac atal twyll a gwallau.
Yn unol 芒鈥檙 canllawiau ar rheoli arian cyhoeddus a Safon Swyddogaethol y Llywodraeth ar gyfer grantiau, bydd yr Adran Addysg yn gwirio a oes gan eich sefydliad y gallu ariannol a chyflawni angenrheidiol i fodloni amodau鈥檙 grant drwy gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy gorfodol, yn gymesur 芒 maint y grant a鈥檙 risg.
Ar gyfer darparwyr addysg, mae鈥檙 rhain yn cynnwys cadarnhau:
- cymhwysedd, trwy wiriadau gyda rheoleiddwyr a chyrff cyllido鈥檙 llywodraeth
- hyfywedd ariannol, drwy wiriadau o asesiadau iechyd ariannol diweddar ac arolygiadau gan reoleiddwyr neu gyrff cyllido鈥檙 llywodraeth 鈥� efallai y byddwn yn gofyn am ragor o ddogfennau
Ar gyfer mathau eraill o sefydliadau sy鈥檔 gweithredu fel arweinwyr consortiwm, mae鈥檙 gwiriadau hyn yn cynnwys:
- gwiriadau cymhwysedd i gadarnhau statws ar gyfer sefydliadau aelodaeth dielw sy鈥檔 cynrychioli darparwyr addysg
- gwiriadau hyfywedd ariannol o gyfrifon neu ddatganiadau banc, asiantaethau credyd, gweithdrefnau ariannol, a rheolaethau i gadarnhau sefydlogrwydd ariannol
- ar gyfer sefydliadau aelodaeth di-elw cofrestredig, tystiolaeth o strwythur aelodaeth priodol
Ar gyfer pob sefydliad, efallai y byddwn yn gwirio:
- statws cyfreithiol trwy D欧鈥檙 Cwmn茂au, y Comisiwn Elusennau neu sefydliad cyfatebol
- y gymhareb grant i refeniw, gan ystyried i ba raddau rydych chi鈥檔 dibynnu ar grant a chyllid arall gan y llywodraeth, ac a yw鈥檙 gwerth yn briodol ar gyfer y canlyniad a ddarperir a maint eich sefydliad
- eich hanes ariannol i gadarnhau nad yw eich sefydliad yn gweithredu mewn patrwm o golledion blynyddol na ellir eu rheoli
- eich trefniadau llywodraethu, gan gynnwys gwirio perchnogion buddiol yn y pen draw, cwmn茂au cysylltiedig a chyfarwyddwyr neu ymddiriedolwyr, lle bo鈥檔 berthnasol, ac unrhyw wrthdaro buddiannau
- gweithrediadau, i gadarnhau bod rheolaethau mewnol, cyllidol a gweinyddol digonol, a bod gan eich sefydliad y gallu i gyflawni, gan gynnwys perfformiad blaenorol wrth reoli arian cyhoeddus
- a oes gennych unrhyw weithgareddau sy鈥檔 weddill yn ymwneud 芒 chylchoedd blaenorol o arian grant Cynllun Turing
- sicrwydd ar gyfer risgiau i ddiogelwch gwladol, er enghraifft, perchnogaeth dramor, ariannu neu endidau cysylltiedig
Mae鈥檙 gwiriadau hyn yn benodol i Gynllun Turing. Nid yw derbyn cyllid arall gan y llywodraeth yn gwarantu cymhwysedd ar gyfer cyllid Cynllun Turing nac y byddwch yn pasio gwiriadau diwydrwydd dyladwy.
Mae鈥檔 bosibl y byddwn yn gofyn am ragor o dystiolaeth a dogfennau gennych chi, fel cyfrifon archwiliedig neu gyfriflenni banc, gennych chi i gefnogi鈥檙 gwiriadau hyn. Rydym yn cadw鈥檙 hawl i wrthod ymgeisydd ar sail y gwiriadau hyn.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus
Byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydych wedi bod yn llwyddiannus gyda鈥檆h cais drwy e-bost ym mis Mehefin 2025. Cyhoeddir rhestr lawn o ymgeiswyr llwyddiannus ar 么l i鈥檙 holl ganlyniadau gael eu cadarnhau.
Os caiff eich cais ei gymeradwyo, byddwn yn anfon cytundeb cyllid grant atoch y bydd angen i chi ei lofnodi cyn y gellir rhyddhau unrhyw arian. Mae鈥檙 cytundeb cyllid grant yn ddogfen gyfreithiol rwymol sy鈥檔 amlinellu鈥檙 rolau, cyfrifoldebau, telerau ac amodau y mae angen i chi eu dilyn i dderbyn arian.
Cyn i gytundebau cyllid grant gael eu llofnodi, byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am:
- prosesau talu
- adrodd
- gofynion sicrwydd
- llinellau amser
Apeliadau
Os ydych yn anhapus gyda chanlyniad asesiad y cais, mae gennych yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Bydd y ffenestr apeliadau yn agor ar 么l i ni rannu鈥檙 canlyniadau.
Updates to this page
-
Updated to reflect that Turing Scheme applications for the 2025 to 2026 academic year are now closed.
-
Added Welsh translation.
-
Updated as applications for the Turing Scheme are now open.
-
Applications for the 2024 to 2025 academic year of the scheme are now closed.
-
Added Welsh version of the guidance now applications are open for the 2024 to 2025 academic year. The grant calculator has also been updated.
-
Updated the 'Turing Scheme: apply for funding for international placements' page to reflect current Turing Scheme dates and processes. Added links to the assessment questions and grant calculator. Temporarily removed Welsh language version to be updated.
-
Added Welsh language version of the guidance.
-
First published.