Canllawiau

Y cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion: cofrestr

Os yw eich lladd-dy yn lladd mwy na 75 o anifeiliaid buchol llawndwf yr wythnos mae'n rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru 芒'r cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Os yw eich lladd-dy yn lladd mwy na 75 o anifeiliaid buchol llawndwf yr wythnos (yn seiliedig ar gyfartaledd blynyddol treigl), mae鈥檔 rhaid i chi gofrestru ar gyfer y cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion a chydymffurfio ag ef.

Mae anifail buchol llawndwf yn anifail sy鈥檔 8 mis oed neu drosodd os cafodd ei ladd ar 么l 31 Rhagfyr 2013, neu鈥檔 anifail 芒 phwysau byw a oedd yn fwy na 300 cilogram os cafodd ei ladd cyn 1 Ionawr 2014.

O dan y cynllun mae鈥檔 rhaid i chi gategoreiddio a graddio (dosbarthu) pob carcas eidion o anifeiliaid llawndwf ar gyfer cyfuniad o fraster a chydffurfiad. Mae graddio carcasau yn unffurf yn sicrhau bod cynhyrchwyr yn cael taliad teg yn seiliedig ar ansawdd y carcas.

Os ydych yn lladd llai o anifeiliaid o鈥檙 fath gallwch gofrestru ar gyfer y cynllun o hyd yn wirfoddol. Bydd hyn yn eich galluogi i ddosbarthu carcasau yn 么l y graddfeydd a ddefnyddir ledled yr Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, ar 么l cofrestru 芒鈥檙 cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion bydd angen i chi ddosbarthu pob carcas o anifail buchol llawndwf yn eich lladd-dy.

Cynhelir y cynllun gan y t卯m Cynlluniau Technegol Cig yn yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA).

Sut i gofrestru

Er mwyn cofrestru, llenwch (PDF, 159 KB, 4 pages)

Gallwch gysylltu 芒鈥檙 t卯m Cynlluniau Technegol Cig os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynllun.

E-bost: [email protected]

Ff么n: 01228 640 369

Ysgrifennwch i:

Meat Technical Schemes team
Rural Payments Agency
Eden Bridge House
Lowther Street
Carlisle
CA3 8DX

Sicrhewch fod eich manylion yn gyfredol

Os bydd unrhyw fanylion a roddwch wrth gofrestru ar gyfer y cynllun Dosbarthu Carcasau Eidion yn newid, mae鈥檔 rhaid i chi hysbysu RPA o fewn 28 diwrnod.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Ionawr 2021 show all updates
  1. The Beef Carcase Classification scheme registration form (BCCS3) regulations updated and form made accessible.

  2. Text reviewed and updated

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon