Canllawiau

Nawdd (Hysbysiad TAW 701/41)

Sut mae TAW yn berthnasol os ydych yn rhoi neu鈥檔 cael nawdd.

1.Trosolwg

1.1 Beth yw cynnwys yr hysbysiad hwn

Mae鈥檙 hysbysiad hwn yn esbonio sut mae TAW yn berthnasol os ydych yn rhoi neu鈥檔 cael nawdd. Mae adran newydd ar gyllido torfol wedi cael ei hychwanegu.

Dim ond TAW sy鈥檔 cael sylw yn yr hysbysiad hwn. Gweler Elusennau a threth am wybodaeth am drethi eraill a Rhodd Cymorth.

Fel arfer, bydd person sy鈥檔 cael nawdd yn gwneud cyflenwad i鈥檙 noddwr. Mae hyn yn golygu hyd yn oed pe bai鈥檙 cyflenwadau trethadwy eraill rydych yn eu gwneud o dan y trothwy cofrestru ar gyfer TAW fel arall, gallwch ddod yn agored i gofrestru oherwydd eich incwm nawdd. Os nad ydych eisoes wedi鈥檆h cofrestru ar gyfer TAW, dylech ddarllen Hysbysiad 700/1: should I be registered for VAT. Hefyd gallwch fod yn gwneud cyflenwadau trethadwy os ydych yn noddwr sy鈥檔 rhoi nawdd ar ffurf nwyddau neu wasanaethau yn hytrach na thrwy dalu swm o arian.

1.2 Diffiniad o nawdd

Mae nawdd yn daliad i elusen, prosiect cymdeithasol neu fusnes y mae noddwr yn cael rhywbeth yn 么l amdano. Gall y taliad fod ar ffurf arian, nwyddau a gwasanaethau (a elwir yn gyffredin yn Saesneg yn 鈥榖arter鈥�), neu gyfuniad o arian gyda nwyddau a gwasanaethau.

Mae nawdd yn nodwedd gyffredin o weithgareddau artistig, chwaraeon, addysgol ac elusennol, ond nid yw鈥檔 gyfyngedig i鈥檙 meysydd hyn.

Gall y taliadau gael eu disgrifio hefyd fel rhywbeth arall, er enghraifft, gyfraniad. Mae nawdd yn debyg i gyfraniad yn yr ystyr bod pobl sy鈥檔 noddi elusen neu brosiect cymdeithasol fel arfer wedi鈥檜 cymell gan ddymuniad i鈥檞 cefnogi. Ond os yw noddwr hefyd yn cael rhywbeth yn 么l, gall fod iddo oblygiadau TAW.

2. Cyflenwadau

2.1 Pan rydych yn gwneud cyflenwadau trethadwy os ydych yn cael nawdd

Pan rydych yn cael nawdd neu ryw fath arall o gymorth, byddwch fel arfer yn gwneud cyflenwadau trethadwy os oes yn rhaid i chi, am hynny, roi budd sylweddol i鈥檙 noddwr. Fel rheol, gall hyn gynnwys unrhyw rai o鈥檙 canlynol:

  • enwi digwyddiad ar 么l y noddwr (pan fo gwneud hynny鈥檔 rhoi i鈥檙 noddwr fudd busnes, fel hyrwyddo ei frand), ni fydd hyn yn gyffredinol yn berthnasol i enwi digwyddiad ar 么l unigolyn neu endidau preifat
  • dangos logo cwmni鈥檙 noddwr neu ei enw masnachu 鈥� ond nid pan fo鈥檙 logo hwnnw ond wedi鈥檌 gysylltu ag asiantaeth yn y llywodraeth neu sefydliad elusennol, ac ond yn cydnabod haelioni
  • cymryd rhan yng ngweithgareddau hyrwyddo neu hysbysebu鈥檙 noddwr
  • caniat谩u i鈥檙 noddwr ddefnyddio鈥檆h enw neu logo (gweler paragraff 2.2 am ragor o wybodaeth)
  • rhoi tocynnau yn rhad ac am ddim neu am bris is
  • caniat谩u mynediad i ddigwyddiadau arbennig fel premieres neu nosweithiau gala
  • darparu adloniant neu gyfleusterau lletygarwch
  • rhoi i鈥檙 noddwr hawliau archebu unigryw neu 芒 blaenoriaeth (ac eithrio pan fo CThEM yn fodlon nad oes budd gwirioneddol o gael yr hawliau hyn, ac mai dim ond sicrhau incwm y noddwr ar gyfer yr elusen maen nhw)

Nid yw鈥檙 rhestr hon yn hollgynhwysfawr ac mae sawl sefyllfa arall lle y gall eich noddwr gael buddion gwirioneddol. Yr hyn sy鈥檔 cyfrif yw bod y cytundeb neu鈥檙 ddealltwriaeth sydd gennych gyda鈥檆h noddwr yn gofyn i chi wneud rhywbeth yn 么l.

2.2 Mathau o gymorth nad ydynt yn agored i TAW

Gallwch gael cymorth ariannol neu fath arall o gymorth ar ffurf cyfraniadau neu roddion. Cyn belled 芒鈥檜 bod wedi rhoi o鈥檜 gwirfodd a ddim yn sicrhau unrhyw beth yn 么l am hynny i鈥檙 rhoddwr, nid ydynt yn dod o dan gwmpas TAW. Nid oes cyflenwad trethadwy鈥檔 cael ei greu os ydych yn darparu budd dibwys, fel m芒n gydnabyddiaeth o ffynhonnell y cymorth. Gall enghreifftiau o hyn gynnwys unrhyw rai o鈥檙 canlynol:

  • rhoi baner neu sticer
  • cydnabod y rhoddwr ar restr o gefnogwyr mewn rhaglen neu ar hysbysiad
  • enwi adeilad, adain adeilad, ardal mewn cyfleuster, r么l neu swydd yn yr elusen (fel ffidil gyntaf cerddorfa), neu gadair prifysgol ar 么l y rhoddwr
  • rhoi enw鈥檙 rhoddwr ar gefn sedd mewn theatr neu ar unrhyw ran o鈥檙 adeiladwaith y mae wedi talu amdano neu dalu tuag ato
  • rhoi tystysgrif sy鈥檔 cydnabod cyfraniad person
  • taliadau ar gyfer ymgyrchoedd 鈥榩rynu bricsen鈥� neu brynu dillad sy鈥檔 cefnogi ymgyrch, ond nad ydynt o fudd i roddwr yn realistig
  • elusen sy鈥檔 noddi elusen arall er mwyn ond dangos yr ymdrech neu鈥檙 gefnogaeth ar y cyd mewn maes elusennol a chydweithredol sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 ddwy elusen

Bydd rhoddwr yn berson sydd 芒 chyn lleied o ddylanwad, os o gwbl, dros yr hyn sy鈥檔 cael ei ddarparu ac ni chaiff fynnu cael unrhyw gydnabyddiaeth.

Os yw鈥檙 budd a ddarperir am y taliad yn gyflenwad wedi鈥檌 eithrio at ddibenion TAW, bydd eithriad yn berthnasol ac ni fydd yr incwm a geir yn drethadwy, gweler paragraff 3.2.

2.3 Nawdd a chyfraniadau cymysg

Os gwneir cyfraniad ar wah芒n i鈥檆h cytundeb nawdd, neu os yw鈥檆h dogfen cytundeb nawdd yn nodi鈥檔 glir pa ran yw鈥檙 taliad am wasanaethau a pha ran yw鈥檙 cyfraniad, nid oes yn rhaid i chi roi cyfrif am TAW ar unrhyw gyfraniad neu rodd (o鈥檙 fath a ddisgrifir ym mharagraff 2.2). Fodd bynnag, rhaid iddi fod yn glir nad oes yn rhaid i鈥檆h noddwr wneud cyfraniad neu rodd er mwyn cael unrhyw fuddiannau.

Darllenwch Hysbysiad TAW 701/1 How VAT affects charities, i gael rhagor o wybodaeth benodol am elusennau.

2.4 Pan rydych yn gwneud cyflenwadau trethadwy os ydych yn noddi rhywun

Gallwch fod yn gwneud cyflenwadau trethadwy os ydych yn darparu nawdd ar ffurf nwyddau neu wasanaethau yn hytrach nag arian.

Os ydych yn darparu:

  • nwyddau neu wasanaethau i rywun sydd, am hynny, yn gwneud cyflenwad trethadwy i chi (gweler paragraff 2.1), yna rydych yn gwneud cyflenwad trethadwy o鈥檙 nwyddau neu鈥檙 gwasanaethau hynny
  • nwyddau i rywun fel rhodd neu gyfraniad (gweler paragraff 2.2), yna efallai y byddwch yn agored i roi cyfrif am TAW o dan y rheolau rhoddion busnes 鈥� am ragor o wybodaeth am roddion busnes, gweler Business promotions (Hysbysiad TAW 700/7)
  • gwasanaethau i rywun fel rhodd neu gyfraniad (gweler paragraff 2.2), yna nid oes unrhyw TAW yn ddyledus

3. Rhoi cyfrif am TAW

3.1 Cyfrifo gwerth y nawdd a gewch

Os ydych yn gwneud cyflenwadau trethadwy am nawdd, mae鈥檔 rhaid i chi roi cyfrif am TAW ar werth sy鈥檔 cwmpasu popeth a gewch o dan y cytundeb nawdd. Os ydych yn cytuno ar swm y nawdd heb ganiat谩u ar gyfer TAW, mae鈥檔 rhaid i chi drin y swm a geir fel swm sy鈥檔 cynnwys TAW.

Cewch eithrio, o鈥檙 gwerth, unrhyw daliad ychwanegol gan eich noddwr a all gael ei drin fel cyfraniad nad yw鈥檔 drethadwy (gweler paragraff 2.3).

Dylech ystyried yr arweiniad ar brisio yn y VAT guide (Hysbysiad TAW 700) lle rydych yn cyflenwi nwyddau neu wasanaethau a hynny am ystyriaeth anariannol ar ffurf buddion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2.1.

3.2 Rheolau arbennig ar gyfer elusennau

Os ydych yn elusen sy鈥檔 gwneud cyflenwadau i noddwyr fel rhan o ddigwyddiad codi arian, gall eich cyflenwadau fod wedi鈥檜 heithrio. Am ragor o wybodaeth am hyn, gweler digwyddiadau codi arian elusennau: eithriadau. Mae hefyd arweiniad ar gyfrannu nwyddau at elusennau yn How VAT affects charities (Hysbysiad TAW 701/1).

3.3 Noddwyr nad ydynt yn y DU

Os ydych yn cyflenwi gwasanaethau hysbysebu a chyhoeddusrwydd i noddwyr dramor, efallai y bydd eich gwasanaethau y tu hwnt i gwmpas TAW yn y DU. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn Place of supply of services (Hysbysiad TAW 741A).

3.4 Cyflwyno anfoneb TAW

Mae鈥檔 rhaid i chi gyflwyno anfoneb TAW i noddwr am eich cyflenwadau os yw鈥檙 noddwr wedi鈥檌 gofrestru ar gyfer TAW. Hefyd mae鈥檔 ofynnol i noddwr sy鈥檔 darparu nawdd ar ffurf cyflenwadau trethadwy o nwyddau neu wasanaethau gyflwyno anfoneb TAW.

4. Noddi gwobrau ar gyfer cystadlaethau

4.1 Os cewch wobrau i鈥檞 defnyddio mewn cystadlaethau

Os cewch nwyddau neu wasanaethau i鈥檞 rhoi fel gwobrau ac:

  • os oes yn rhaid i chi hyrwyddo neu hysbysebu ar ran y rhoddwr, yna rydych yn gwneud cyflenwadau trethadwy o wasanaethau i鈥檙 rhoddwr ar gyfer ystyriaeth anariannol, ac mae arweiniad ar werth y cyflenwad hwn ar gael yn y VAT guide (Hysbysiad TAW 700)
  • ar wah芒n i unrhyw ddealltwriaeth gyffredinol y gallai鈥檙 rhoddwr elwa o bosibl o鈥檙 cyhoeddusrwydd, ac nad oes yn rhaid i chi fynd ati i hyrwyddo neu hysbysebu鈥檙 rhoddwr, yna nid ydych yn gwneud cyflenwad trethadwy

4.2 Darparu gwobrau ar gyfer cystadleuaeth

Yn gyffredinol dylech ddilyn yr arweiniad ym mharagraff 2.4 i benderfynu a ydych yn gwneud cyflenwadau trethadwy. Ond os ydych yn cyfrannu gwyliau, gall rheolau arbennig y Cynllun Gorswm Gweithredwyr Teithiau fod yn berthnasol. Mae rhagor o arweiniad ar y cynllun ar gael yn Tour Operators Margin Scheme (Hysbysiad TAW 709/5).

Os na chewch gyflenwad am y gwobrau rydych yn eu rhoi, efallai na fyddwch yn gallu adennill treth ar y wobr os yw鈥檔 dod o dan ddarpariaethau adloniant busnes. Mae rhagor o arweiniad ar y darpariaethau hyn ar gael yn Business entertainment (Hysbysiad TAW 700/65).

Mae arweiniad penodol ar werth treth y nwyddau rydych yn eu darparu fel gwobrau am wasanaethau hysbysebu neu hyrwyddo ar gael yn Business promotions (Hysbysiad TAW 700/7).

4.3 Hawlio treth mewnbwn ar y gwobrau a gewch ar gyfer cystadlaethau

Os cewch wobrau ar gyfer eich cystadleuaeth ar ffurf nwyddau a gwasanaethau:

  • ac nid oes rhaid i chi ddarparu rhywbeth i鈥檙 rhoddwr am hynny (gweler paragraff 4.1), ni fydd unrhyw dreth mewnbwn i鈥檞 hawlio
  • am y cyflenwadau hysbysebu neu gyhoeddusrwydd rydych yn eu gwneud i鈥檙 rhoddwr (gweler paragraff 4.1), yna yn gyffredinol gallwch hawlio treth mewnbwn ar y gwobrau, yn amodol ar y rheolau arferol, fodd bynnag:
    • os mai gwyliau neu daith diwrnod yw鈥檙 wobr, ni chewch hawlio unrhyw dreth mewnbwn
    • gall rhai gwobrau gael eu hystyried yn rhai adloniant busnes ac yna ni chewch hawlio unrhyw dreth mewnbwn (gweler Business entertainment (Hysbysiad TAW 700/65))

5. Cyllido torfol

Cyllido torfol yw鈥檙 broses o godi arian neu gyfalaf ar gyfer prosiect penodol drwy鈥檙 rhyngrwyd ar lwyfannau sydd wedi鈥檜 creu鈥檔 arbennig. Nid yw鈥檙 driniaeth TAW o gyflenwadau a allai gael eu gwneud yn wahanol o gwbl i drefniadau cyllido tebyg (er enghraifft, nawdd, cyfraniadau a buddsoddiadau) a wneir drwy lwybrau mwy traddodiadol. Mae derbynnydd proses cyllido torfol yn agored i godi a thalu TAW yn dibynnu ar ffeithiau鈥檙 achos. Er enghraifft:

  • os na roddir unrhyw beth am y cyllid, bydd yn cael ei drin fel cyfraniad ac ni fydd yn agored i TAW 鈥� mae鈥檙 sefyllfa鈥檙 un fath os mai dim ond cydnabyddiaeth y mae鈥檙 cyllidwr yn ei gael, fel crybwyll ei enw mewn rhaglen neu rywbeth tebyg
  • os yw鈥檙 cyllidwr yn cael nwyddau neu wasanaethau sydd 芒 gwir werth yn gysylltiedig 芒 hwy (er enghraifft, dillad, tocynnau, DVDs, gweld ffilmiau), bydd TAW yn ddyledus
  • os yw鈥檙 taliad ar gyfer cyfuniad o鈥檙 2 enghraifft, ac os yw鈥檔 glir bod yr elfen cyfrannu鈥檔 un ddewisol, yna gall y rhan honno o鈥檙 nawdd gael ei thrin fel cyfraniad nad yw鈥檔 drethadwy
  • efallai bod y cyllid ar ffurf buddsoddiad pan fo gan y cyllidwr hawl i fudd ariannol, fel llog, difidendau neu gyfran o鈥檙 elw 鈥� yn yr achosion hyn, ni fydd unrhyw daliad sy鈥檔 ddyledus i鈥檙 cyllidwr yn agored i TAW oni bai bod y trefniant yn fwy ar ffurf breindal yn seiliedig ar gyflenwi eiddo deallusol neu ryw fudd arall 鈥� o dan yr amgylchiadau hyn, mae鈥檙 鈥榞yfran o鈥檙 elw鈥� yn debygol o fod yn ystyriaeth ar gyfer cyflenwad, a鈥檙 rheswm pam bod y rhan fwyaf o鈥檙 trefniadau hyn y tu allan i gwmpas TAW yw gan nad yw darparu cyfalaf mewn menter fusnes yn cael ei ystyried fel cyflenwad at ddibenion TAW

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Hysbysiad TAW 701/49: finance.

Eich hawliau a鈥檆h rhwymedigaethau

Darllenwch Eich Siarter i weld yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni, a鈥檙 hyn a ddisgwyliwn gennych chi.

Helpwch ni i wella鈥檙 hysbysiad hwn

Os oes gennych adborth am yr hysbysiad hwn, e-bostiwch: [email protected].

Bydd rhaid i chi gynnwys teitl llawn yr hysbysiad hwn. Peidiwch 芒 chynnwys gwybodaeth bersonol nac ariannol o unrhyw fath, fel eich rhif TAW.

Os oes angen help cyffredinol arnoch gyda鈥檙 hysbysiad hwn, neu os oes gennych gwestiwn arall am TAW, dylech ffonio ein Llinell Gymorth TAW Cymraeg neu gallwch wneud ar-lein.

Unioni pethau

Os nad ydych yn fodlon 芒 gwasanaeth CThEM, cysylltwch 芒鈥檙 person neu鈥檙 swyddfa yr ydych wedi bod yn delio 芒 nhw a byddant yn ceisio unioni pethau.

Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, gweler rhagor o wybodaeth am sut i wneud cwyn i CThEM.

Sut mae CThEM yn defnyddio鈥檙 wybodaeth sydd gennym amdanoch

Rhagor o wybodaeth am sut mae CThEM yn defnyddio鈥檙 wybodaeth sydd gennym amdanoch.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2002
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Mai 2019 show all updates
  1. Guidance on mixed sponsorship and donations and claiming input tax on the prizes you receive for competitions has been updated.

  2. Added translation

  3. Following consultation with external users, paragraphs 1.1, 1.2, 2.1, 2.2, 4.3 have been amended to provide clarity on the existing information, and a new section 5 has been added on crowdfunding.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon